Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Tyrd, egwyl
← Y Diluw Tân | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Lloffion o Dywysennau gan William Thomas (Islwyn) Lloffion o Dywysennau |
Ar lanw o adgofion → |
—————————————
III. LLOFFION O DYWYSENNAU
—————————————
TYRD, EGWYL
TYRD, egwyl, pan dderbynnir dyn
Fel meddwl noeth i mewn i Dduw ei hun.
Anwylion bywyd mwy, i mi
Meddyliau noethion ydych chwi
Yn ol yn Nuw a thragwyddoldeb fry.
Y pell adgofion ! Ymgrynhoant hwy
O fewn fy enaid fel un meddwl mwy.