Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Wyt yn dawel
← Ceisio Gloewach Nen | Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil) Dyffryn Galar gan William Thomas (Islwyn) Dyffryn Galar |
Ei weled fel y mae → |
WYT YN DAWEL
HENO mynnwn am ennyd
Ymryddhau o boenau'r byd;
A neshau, yng nghwmni'r ser,
O dan ffurfafen dyner,
Tua'i hunig unig annedd,
A gorffwys ar bwys ei bedd.
Anwyled, mwyned i mi,
Yr annedd lle yr huni!
Fy morau olau helynt,
Felusion adgofion gynt!
Wyt yn dawel tan dywod,
Gwiwfan i flinedig fod;
Minnau yno, 'mhen ennyd,
Fêl hun gaf, wyf flin i gyd.