Gwaith John Davies/Ffarwel y Cenhadwr
← Myfyrdodau Ioan ap Dewi | Gwaith John Davies gan John Davies, Tahiti |
→ |
FFARWEL Y CENHADWR.
Copi o lythyr a anfonodd John Davies (yr hwn a aeth yn un o genhadau y Gymdeithas Genhadawl yn Llundain i'r diben i ddysgu paganiaid ynysoedd Môr y Dehau yngwybodaeth o'r gwirionedd) at ei gyfeillion, o Bortsmouth, ar ei gychwyniad i'r fordaith.
- Mai 8ed, 1800.
At bawb o'r cyfeillion crefyddol cynulledig yn
Pont Robert.
FY ANWYL GYFEILLION, BRODYR, A THADAU,—
Perthynas â chwi fel cymdeithas grefyddol sy'n fy rhwymo i'ch cofio, yn neillduol oddiwrth bawb eraill y Nghymru. Coffadwriaeth am oriau melus a dreuliais gyda chwi yn y mwynhad o foddion gras ac ordinhadau'r efengyl, sy'n peri i mi eich cofio, gyda galar a llawenydd yr un pryd,—galar pan alwyf i gof fy anffrwythlondeb yngwinllan fy Arglwydd, a llawenydd wrth feddwl am fy nghyfeillion, yr rhai y bu felus gennym gydgyfrinachu wrth fyned i dŷ Dduw ynghyd. Mae achos o lawenydd imi, nid imi golli eich cyfeillach; ond y ceir cyfeillach yn parhau, ac y byddwn oll yn mhen ychydig yn mwynhau cyfeillach ein gilydd yn y byd tu draw i ofid.
Yr wyf yn teimlo heddyw ddiolchgarwch am y breintiau a fwynheais yn eich plith, am i mi gael fy ngeni yn swn yr efengyl, am fod gennyf le i obeithio iddi gael ei gwneuthur yn allu Duw er iechydwriaeth. Ac yn wyneb llygredd fy nghalon, ynghyd a byddinoedd lluosog o elynion o'r byd ac o uffern, yr wyf yn dymuno myned ymlaen yn enw Duw byddinoedd Israel.
Fy anwyl gyfeillion, yr wyf yn meddwl fy mod yn anaddas i roddi cyngor i neb ohonoch. Eto dymunwn adgofio i'm tadau, y rhai ddioddefasant bwys a gwres y dydd, na bydd i un math o dywydd eu digalonni na'u llwfwrhau. Dymunaf gymorth o'r nefoedd iddynt i lywodraethu y praidd, i geisio y darfedig, i ddiddanu y gwan ei mheddwl, i dynnu'r cedyrn o'u heisteddfaoedd, ac i ddigaregu'r ffordd fel na byddo i'r gweiniaid dramgwyddo yn eu ffordd tua Seion.
Dymunaf annerch fy nghyfoedion, fy mrodyr a'm chwiorydd ieuainc. O fy nghyfeillion, gan i chwi gael y fraint o listio dan faner Iesu, gobeithio na bydd i neb ohonoch fel Ephraim droi eich cefna yn nydd y frwydr. O fy mrodyr, gweddiwch am gael eich cadw'n ddigwymp, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac y'nghadernid ei allu ef. Ond cadw yn agos at ein Captain, ni raid ini ofni colli'r frwydyr. Da genyf feddwl yn y dyddiau hyn fod pob awdurdod yn y nefoedd a'r ddaear yn llaw Iesu, pen mawr yr Eglwys, mai efe yw Brenin y brenhinoedd, Arglwydd y lluoedd mewn nefoedd, daear, ac uffern. Wrth ei orchymyn fe wna a fynno â llu'r nef a thrigolion daear, ac fe garia'i waith ymlaen drwy bob gwrth'nebiadau.
Fy anwyl gyfeillion, yr wyf yn taer ddymuno am eich llwyddiant, a bod i'r Arglwydd chwanegu at eich rhifedi o nifer y cyfryw ag y fyddant gadwedig. Cofiwch am danaf, fy mrodyr, wrth orsedd gras. Gallwn gydgyfarfod yno er fod rhyngom, fe alle, lawer mil o filldiroedd.
Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Yspryd Glân, a fyddo gyda chwi oll, gyda phawb ohonoch, fy mrodyr. Amen ac amen.
Mewn brys oddiwrth eich brawd a'ch cyfaill,
- JOHN DAVIS.