Gwaith John Thomas/Trefdraeth Garedig

Ysgol Ffrwd y Fal Gwaith John Thomas

gan John Thomas, Lerpwl

Siomedigaethau

XV. TREFDRAETH GAREDIG.

Yr oeddynt wedi bod heb weinidog iddynt eu hunain yn Nhrefdraeth ers blynyddoedd, ac heb weinidog mewn enw er marwolaeth Henry George, Brynberian, yr hwn nas gallai ddyfod atynt ond yn anaml, gan fod ganddo bump o eglwysi i fwrw golwg drostynt. Yr oedd yno dyrfa fawr y noson honno, yr hen gapel yn llawn, ac oedfa hwylus iawn. Daeth dau ddwsin neu ddeg ar hugain o honynt ar fy ol i'n llety. Lletyem mewn tafarndy bychan a gedwid gan un Stephen Davies. Dechreuasant yn y fan wasgu arnaf i aros yno, ac i'm cyfaill fyned ar ol y cyhoeddiadau; ac felly y cytunwyd. Rhoddwyd fi i letya yn y Felin Newydd, gyda un David Harries a'i wraig. Dyn bychan, bywiog, selog oedd ef; ac yr oedd hithau yn ddynes hawddgar dros ben, heb derfyn i'w charedigrwydd. Bu pawb yn hynod o garedig i mi. Dechreuasant yn ddioed gasglu yn eu plith eu hunain i gael siwt o ddillad newydd i mi, am y rhai yr oedd arnaf wir angen. Pregethais yn y dref y Sabbothau, ac mewn amaethdai drwy y wlad oddiamgylch ddwywaith neu dair bob wythnos, dros fis o amser. Yr oedd yn amhosibl i neb gael mwy o garedigrwydd ; ond deallais yn lled fuan nad oedd yno unfrydedd i roddi galwad i mi, er y gwyddwn fod corff yr eglwys drosof. Yr oedd yno ddau bregethwr cynorthwyol, John Davies,— Gideon wedi hynny—a Thomas Davies, Principality, fel yr adnabyddid ef. Tybid fod eu llygaid hwy ar lle, ac er fod yn eglur na roddai yr eglwys alwad i un o honynt, nac i'r ddau ynghyd, eto nid yw yn debyg fod arnynt awydd mawr i weled neb arall yno. Ni ddangosodd yr un o'r ddau ond pob parch a charedigrwydd i mi; ac ni chlywais fod John Davies yn dweyd nac yn gwneyd dim yn fy erbyn. Ond nis gallaf ddweyd yr un peth am Thomas Davies, er ei fod yntau yn hynod o gyfrwys a gochelgar. Ond yr oedd cryn lawer o berthynasau i'r ddau yno, ac er y cyffesai y rhan fwyaf o'r cyfryw eu bod drosof, eto cefais brawf mai "ffals yw gwaed." Yr oedd yno un Joseph Davies,—os wyf yn cofio yn iawn, hostler mewn gwesty,—yn gwneyd ei hun yn bur brysur; a thrwyddo ef yr oedd Thomas Davies a rhyw ddau neu dri yn gweithredu. Ymddengys iddynt ysgrifenu at ryw weinidog yn y Gogledd i ymholi yn fy nghylch, ac iddynt gael atebiad. Lledaenid y gair yn ddistaw eu bod wedi cael llythyr, ond ni ddangosid ef; ond awgrymid yn llechwraidd nad oedd yn bopeth a ddymunid. Clywais innau, a hawliais weled y llythyr yn y fan, a bu raid ei ddangos. Llythyr at y Joseph Davies yma ydoedd, oddiwrth y Parch. R. P. Griffith, Pwllheli, yn atebiad i lythyr a dderbyniasai oddiwrtho. Nid oedd un gair anffafriol am fy nghymeriad yn y llythyr, ond fy mod yn lled ieuanc i'r weinidogaeth. Gwir bob gair. Ond nid oedd eisiau myned o Drefdraeth i Bwllheli i'w wybod. Pan ddeallais fod pethau felly, dywedais nad arhoswn yno ond nes y deuai y mis i ben. Eithr ni fynnai fy nghyfeillion fy ngollwng. Yr oedd yr hen bobl, a chorff yr eglwys, yn fy ffafr. Yr hen William Morgan, tad y Parch. W. Morgan, D.D., gweinidog y Bedyddwyr yn Nghaergybi, oedd un o'r rhai mwyaf selog. Yr oedd yno hefyd ddau hen ŵr yn Nefern, y rhai oeddynt ddau frawd, ac yn ddiaconiaid,—un honynt yn daid i'r Parch. R. James, Llanwrtyd,—yn drwyadl ffyddlon; a nifer fawr eraill nas gallaf gofio eu henwau; ond yr oedd perthynasau y ddau bregethwr a rhyw ychydig eraill heb fod yn ffafriol. Yr oedd yno ychydig o wragedd Capteniaid yn cymeryd cryn ran yn y llywodraeth: un o honynt yn arbennig oedd Mrs. Rowlands, yr hon a briododd a'r Parch. Samuel Thomas. Nid oedd hi gartref pan aethum yno, ac ni ddaeth nes oeddwn ar fin ymadael. Yr wyf yn meddwl mai tueddu i ffafrio y pregethwyr yr oedd hi. Pa fodd bynnag, gwrthodais iddynt roddi yr achos ger bron yr eglwys, nad arhoswn er neb gan nad oedd yno unoliaeth, ac enillais drwy hynny gymeradwyaeth cyffredinol. Ond wedi gweled pethau felly, teimlwn yn bryderus iawn. Yr oedd fy amser i ymadael wedi dyfod, ac nis gwyddwn pa le i droi. Nid oeddwn am fyned yn ol i Ffrwd y Fâl, ac nid oedd un drws yn ymagor o'm blaen, fel yr ymddangosai fy ffordd yn cau mewn tywyllwch.