Gwaith Joshua Thomas/CYFNOD Y DIWYGIAD METHODISTAIDD

CYFNOD GODDEFIAD Gwaith Joshua Thomas

gan Joshua Thomas


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
CYMRU YN 1777

IX. CYFNOD Y DIWYGIAD METHODISTAIDD.
1730-1777.

Cymru tua 1730.

P. Pa wyneb oedd ar grefydd yng Nghymru yr amser hyn?

T. Yr oedd trwy'r wlad lawer o wybodaeth, a llawer o wyr duwiol, ond yr oedd llawer iawn o anwybodaeth hefyd, llawer eto heb fedru darllen, a llawer o hen chwedlau pabaidd ymhlith yr hen bobl. Yr wyf i'n cofio yn ddigon da y geiriau canlynol a'u cyffelyb,—"Croes Duw," "Duw a Mair," &c. Yr oedd y cyfryw rai ag oedd yn arfer yr ymadroddion hyn yn galw eu hunain yn Eglwys Loegr yn gyffredin, ac yr oedd llawer iawn o honynt trwy Gymru a'r ieuenctyd yn canlyn dawnsio, wylnosa, a llawer o gampau a drygioni.

Griffith Jones, Llanddowror.

P. A oedd neb gwyr enwog am dduwioldeb yr amser hyn o Eglwys Loegr, ymhlith y Cymry, canys y mae yn debyg mai yno yr oedd yr anwybodaeth mwyaf?

T. Diau mai yno'r oedd yr anwybodaeth mwyaf, ac yn ganlynol anuwioldeb, tyngu, rhegu, &c. Y gwr mwyaf hynod am dduwioldeb, ar wn i, yn Eglwys Loegr yr amser hynny yng Nghymru, oedd y parchedig Mr. Griffith Jones o Landdowrwr yn sir Gaerfyrddin. Byddai ef yn pregethu yn y llannoedd ar hyd y wlad ar brydiau, a byddai lluoedd yn ei wrando yn gyffredin. Heb law ei weinidogaeth, bu ef yn ddefnyddiol iawn i'r Cymry. Trwy gynorthwy ei gymydoges urddasol, Madam Beavan, ac amryw o rai haelionus eraill, darfu i Mr. Griffith Jones osod fyny ysgolion Cymraeg trwy'r wlad, er mwyn i'r tlodion gael odfa i ddysgu darllen iaith eu mamau.

Yr Ysgolion Cylchynol.

P. Pa bryd y dechreuwyd yr ysgolion elusengar hyn?

T. Tybygol mai o gylch 1737.[1] Dywed Dr. Llewelyn, yn y lle a nodwyd olaf, o'i lyfr a enwir isod, i uwch law un ugain ar ddeg o flloedd o ddynion gael eu dysgu yn yr ysgolion hynny, mae'n debyg cyn 1768; canys yr oeddent yn cael eu cadw yn y blaen wedi marw Mr. Jones, fel y nodir yno.

Bu farw y gwr enwog hwn yn 1761. Mae Mr. W. Williams, yn ei farwnad am dano, yn ei alw yn seren oleu, ac yn dywedyd,—" Hon ei hunan a ddisgleiriodd."[2] Nodir yno am yr ysgolion, eu bod uwch law tair mil o rifedi, ac uwch law chwech ugain mil o ysgolheigion wedi bod ynddynt. Wrth yr hanes uchod, yr oedd o gylch can mil yn ychwaneg wedi bod yn yr ysgolion o 1761 hyd 1768.

Diwygiad tua 1736.

P. Mae rhai yn son am ddiwygiad mawr yng Nghymru o gylch 1736; tybygol mai amgylch yr amser hynny y dechreuwyd yr ysgolion.

Mae son am ddiwygiad yng Nghymru a Lloegr yn yr amser hynny; ond y mae rhai yn ei ddyrchafu ormod, a rhai yn ei ddiystyrru ormod.

Dyrchafu gormod.

P. Pwy sydd yn ei ddyrchafu ormod?

T. Y rhai sydd yn meddwl nad oedd fawr neu ddim crefydd o'r blaen ymhlith y Cymry. Os dewisant farnu mai Mr. Griffith Jones ei hunan oedd yn wir grefyddol yn Eglwys Loegr; eto yr oedd llawer o wenidogion, ac eraill o ddynion duwiol enwog yng Nghymru, o'r Bedyddwyr ac Ymneillduwyr eraill, gant o flynyddau cyn hynny, rai o honynt, ac wedi bod yn orchestol iawn a defnyddiol. Yr oedd amryw o wyr rhagorol yn eu plith o gylch 1736, ac eraill wedi meirw yn ddiweddar.

Diystyrru gormod.

P. Pwy ydyw y rhai sydd yn diystyrru'r diwygiad hwn ormod?

T. Rhai nad ydynt yn edrych arno ddim ond rhyw benboethder ac anrhefn. Felly mae'r naill yn edrych arno yn rhy berffaith, a'r llall megis dim, neu waeth na hynny.

Barn yr Awdwr.

P. Beth ydych chwi yn feddwl yw'r gwirionedd?

T. Yr wyf yn meddwl i ddiwygiad mawr dorri allan yn Eglwys Loegr o gylch 1736, a dechreu cyn hynny yn Lloegr a Chymru; ond am yr olaf yr wyf fi yn son yn fwyaf neillduol.[3]

Howel Harris.

P. Pa fodd y dechreuodd ef yr amser hynny, heb law yr hyn oedd o'r blaen?

T. Nid sicr iawn wyf fi o ran y flwyddyn, ond o gylch y blynyddau hynny, dechreuodd Mr. Howell Harris fyned allan yn sir Frecheiniog, i gynghori'r cymydogion yn achos eu heneidiau, efe a gynhyddodd mewn dawn a deall, ac aeth allan i siroedd ereill. Yr oedd llawer iawn o ieuenctyd Cymru, ac eraill, yn gwbl ddigrefydd, yn arfer cyfarfod i ddawnsio, meddwi, a difyrru eu hunain, a'u gilydd, â rhyw ddrygioni. Yr oedd y cyfryw rai gan mwyaf oll yn cyfrif eu hunain o Eglwys Loegr. Pan ddaeth Mr. Harris o gylch y wlad, taranu yn ofnadwy yr oedd yn erbyn tyngwyr, rhegwyr, meddwon, ymladdwyr, celwyddwyr, torwyr y Sabboth, a gwrychioni tân uffern, mewn ystyriaeth, yn eu plith. Byddai ef yn cynghori mewn tai, ac yn y meusydd, ni fyddai waeth ganddo ef pa le, os cai bobl i wrando; fel y buasai Mr. Walter Cradock, Mr. Vavasour Powel, ac eraill ar hyd Cymru, o gylch can mlynedd o'r blaen. Ond yr oedd hyn yn beth newydd iawn yn ein dyddiau ni; gan hynny casglodd llawer iawn i wrando; ac o gylch yr

Daniel Rowland.

un amser, neu yn fuan wedyn dechreuodd Mr. Daniel Rowland, gweinidog o Eglwys Loegr yn sir Aberteifi, bregethu mewn ffordd anghyffredin iawn yn Eglwys Loegr. Yr wyf yn cofio i mi ei glywed o gylch 1737, yn sir Gaerfyrddin. Yr oedd yno liaws yn gwrando, ac mi glywais rai o'r Ymneillduwyr yn son am y bregeth wrth ddychwelyd adref; yr wyf yn cofio mai rhan o'r ymadrodd oedd hyn, "Ni chlywsom erioed ei gyffelyb yn Eglwys Loegr ond Mr. Griffith Jones.

Williams Pantycelyn, Peter Williams, Howel Davies.

Ni bu yn ein dyddiau ni y fath oleuni ymhlith pobl yr Eglwys." Ar fyrr daeth allan Mr. William Williams a Mr. Peter Williams, yn sir Gaerfyrddin, a Mr. Howel Davies, yn sir Benfro y rhai hyn oll yn weinidogion Eglwys Loegr, ac amryw ereill o honynt ar hyd Cymru. Yr oedd Mr. Harris o'r Eglwys honno, ond nid wedi cael ei ddwyn i fynu i'r weinidogaeth. Felly Cynghorwr yr oeddid yn ei alw ef. Aethant yn y blaen trwy'r holl wlad, a chododd llawer iawn o gynghorwyr o amryw raddau, sef rhai yn fwy enwog, ac eraill yn llefaru ychydig wrth angen, felly cynhyrfwyd y wlad. Gadawodd y bobl eu difyrrwch pechadurus, a dechreusant son am grefydd, ac ymgasglu ynghyd yn gymdeithasau crefyddol. Felly bu diwygiad mawr yn y wlad. O hynny hyd yn hyn, mae gwybodaeth o Dduw wedi ymdaenu yn rhyfedd trwy Gymru, canys yr oedd lluoedd o'r bobl o'r blaen, nad oeddent yn myned yn agos i dŷ cwrdd, nag ond anfynych i un eglwys; eto aent i wrando fel hyn. i'r teiau, a'r prif ffyrdd, a'r caeau.

Erlid a barnu'n galed.

P. A oeddent ddim yn cael eu herlid am y pethau hyn?

T. Yr oedd llawer o erlid tafod arnynt, ac ar brydiau byddent yn cael eu mawr amharchu. Nid oedd disgwyl eu bod hwythau yn rhydd oddiwrth amherffeithrwydd amryw ffyrdd. Ond fy niben i yw rhoi eu hanes yn gyffredin. Mi ddymunwn pe baent yn ysgrifennu eu hanes eu hunain, yn fyrr, ac eto yn lled neillduol, mewn ysbryd addfwyn a chariadus. Hyn a fu un gwendid yn eu plith o'u dechreu yn agos, sef barnu yn galed iawn ar bawb ond eu hunain. Parodd hyn i lawer ddywedyd yn waeth am danynt hwy; eithr y mae yn eu plith lawer o ddynion duwiol addfwyn. Felly ar y cyfan, diwygiad yn ddiau a fu, er fod rhai yn y wlad yn ei alw yn ddirywiad. Eto, sicr yw, fod eisiau ychwaneg o ddiwygiad yn eu plith hwy ac ereill. "Methodists."

P. A oes un enw neillduol ar y Diwygwyr diweddar hyn?

T. Oes, eu henw cyffredin yw "Methodists." Dywedir i'r gair hwn ddechreu yn Rhydychen, lle y dechreuodd y diwygiad, ac i'r bobl yno alw yr ymofyniad newydd yma am grefydd, "New Method," hynny yw, dull neu ffordd newydd. Ac oddiar hyn tanodd yr enw "Methodist" trwy Loegr a Chymru.

Beth ydynt?

P. Pa un ai Eglwys Loegr ydynt neu Ymneillduwyr?

T. Nid hawdd yw ateb hyn. Nid ydynt yn hollol o'r eglwys honno, nac eto yn cwbl neillduo. Mae rhai o honynt yn canlyn holl ddefodau Eglwys Loegr, a rhai yn addoli fel yr Ymneillduwyr. Maent wedi adeiladu llawer o dai cyrddau ar hyd Cymru. Nid wyf fi yn dewis dywedyd dim ychwaneg am danynt. Os dywedais un peth allan o le, o gamsynied y bu, ac nid o fwriad na diben; canys ni fynnwn roi drygair i neb ag sydd am ganlyn Crist yn ffyddlon. Mae rhai yn canmol y Methodists ormod, a rhai yn eu cablu ormod.[4]

Prinder Beiblau.

P. Pa fodd yr oedd y wlad am Feiblau yr amser hyn?

T. Daeth prinder mawr yn fuan, canys o gylch 1741, gorfyddai rhoi ugain swllt am Feibl, ac yn fynych ni ellid cael un am arian. Yn 1746, daeth allan argraffiad helaeth o'r Beibl,[5] ond gan fod yr ysgolion Cymraeg yn ymdanu dan ofal Mr. Griffith Jones, a phregethiad yr efengyl gymaint gan y Methodist ac eraill, darfu'r argraffiad hwnnw yn fuan iawn; gan hynny daeth y Beibl allan drachefn yn 1752. Yr oedd yn y ddau argraffiad ddeng mil ar hugain o Feiblau. Dywedir i'r Gymdeithas haelionus a enwyd yn Llundain roddi tuag atynt chwe mil o bunnau trwy gynorthwy haelioni eraill mewn gwlad a thref. Daeth y ddau argraffiad hyn allan dan Richard Morris.

ofal Mr. Richard Morris, gwr bonheddig o Gymru, sydd yn byw yn Llundain. Gwr deallus a hyfforddus iawn ydyw yn iaith а hanesion Cymru.[6] Yr oedd Mr. Griffith Jones yn annogaethol iawn yn y ddau argaffiad hyn, ac i gyfrannu y Beiblau ar hyd y wlad. Darfu hefyd i'r

Dr. Joseph Stennett.

diweddar Dr. Joseph Stennett roi cynorthwy tuag at yr argraffiad yn 1746, er mwyn i'r Bedyddwyr gael rhai o honynt, canys yr oeddent mewn mawr ddiffyg. Rhoddes ef hefyd Feiblau i'r tai cyrddau yn gyffredin ymhlith y Bedyddwyr trwy Gymru, ac enw'r tŷ cwrdd mewn llythrennau euraidd ar glawr y Beibl a berthynai i'r lle. Mae amryw o honynt eto yn y wlad.[7]

Beibl Gymdeithas Llundain.

P. Oni argraffwyd y Beibl wedi hynny?

T. Do; daeth argraffiad helaeth allan yn 1769. Ar draul y Gymdeithas urddasol a enwyd, yn Llundain, y bu hyn gan mwyaf. Eu bwriad pennaf hwy oedd cyflawni diffygion Eglwys Loegr. Ond yma darfu i'n cydwladwr caredig, Dr. T. Llewelyn, afaelu mewn odfa i wneyd cymwynas i'r Cymry. Wedi iddo ymddiddan â rhai o'r gwyr boneddigion, cafodd gan y Gymdeithas fod mor fwyn ag argraffu rhai miloedd yn ychwaneg na'u hamcan ar y cyntaf, er mwyn cyflawni diffygion yr Ymneillduwyr hefyd. Felly yr oedd yr argraffiad ynghylch 2,000 o lyfrau.[8]

Beibl Peter Williams, 1770.

Trwy annogaeth Dr. Llewelyn, cynorthwyodd amryw eraill yn yr argraffiad hwn.[9] Ar yr un amser yr oedd y Beibl Cymraeg yn cael ei argraffu yng Nghaerfyrddin, ac esboniad, neu sylwadau byr ar bob pennod, gan Mr. Peter Williams, gweinidog o Eglwys Loegr, yr hwn a enwyd yn barod. Daeth hwn allan yn 1770. Yr ydys yn barnu mai hwn oedd yr esboniad Cymraeg cyntaf ag amcanwyd ar yr Ysgrythyr, erioed. A sicr yw mai hwn yw'r Beibl Cymraeg cyntaf a argraffwyd erioed yng Nghymru. Bu Mr. Peter Williams ofalus ac egniol iawn i ddwyn y gorchwyl trwm hwn i ben. Argraffodd wyth mil o honynt, ac erbyn rhwymo'r llyfr yr oedd yn sefyll ger llaw punt i'r prynwr, bob ffordd, ac eto mae newid fawr arno. Trugaredd fawr oedd i'r un gwr gael bywyd, iechyd, a rhwyddineb i weled y gwaith wedi ei orffen. Gan fod y llyfr mor gyffredin trwy'r wlad, nid oes achos nodi mor gyflawn ydyw bob ffordd. Rhoddes Richard Morris, Esq., yr hwn a fu mor ddefnyddiol, yn gofalu am yr argraffwasg yn y 1746 a 1752, ddau fap i harddu Beibl Mr. Peter Williams. Felly trwy fawr ddaioni Duw mae Cymru yn llawnach o air yr Arglwydd er 1770 nag y bu erioed o'r blaen. Ni bu gyffelyb y fath gyflawnder o'r Ysgrythyr ymhlith y Cymry er dechreu'r byd." [10]

Beibl yr Eglwys Brydeinig.

P. Pa fodd y gwyddoch nad oedd mor gyflawn yn yr oesoedd cyntaf cyn dyfod yr erledigaeth, a chyn dyfod y Saeson i'r wlad.

T. Hawdd iawn yw casglu nad allai fod mor gyflawn yr amser hynny, canys nid oedd ond ysgrifenlaw i'w gael, ac ni wyddom ni pa hyd y buont heb gael y Beibl yn ysgrifenedig yn Gymraeg, canys er fod llawer o'r Cymry mor gynnar yn Grisnogion, eto yr oedd llawer o honynt yn parhau yn baganiaid hyd nes bedyddio y brenin Lles ab Coel o gylch y flwyddyn 160, medd rhai, neu 180 medd eraill, pa fodd bynnag y bu wedyn. Dywedir fod yr enwog Beda, yn un o groniclau Lloegr, yn dangos fod yr Hen Destament a'r Newydd gan y Brutaniaid yn amser y brenin hwnw[11] Dywedir hefyd i'n cydwladwr urddasol, Cystenyn Fawr, beri ysgrifennu'r Beibl a'i ddanfon i bob teyrnas o'i ymerodraeth, ac odid nad oedd yn gofalu am wlad ei enedigaeth.[12] Ond er hyn oll odid fod yn yr holl ynys y pryd hynny un Beibl am ddeg mil ac sydd yn awr ymhlith y cyffredin bobl yng Nghymru yn unig.[13]

Hanes Argraffu.

P. Ai peth diweddar gan hynny yw argraffu?

T. Ie, diweddar iawn. O gylch 1450 yr argraffwyd y llyfr cyntaf yn y byd, meddant, yn Germany. Danfonodd Harry'r Chweched, yr hwn oedd frenin yn Lloegr yr amser hynny, wyr dros y môr i ddysgu preintio, ac yn ôl y flwyddyn 1460[14] y dechreuwyd argraffu yn Lloegr. Mor fawr a fu'r fendith hynny i'r wlad hon! Gymry! Cymry! ystyriwch eich breintiau presennol!

Cydgordiad y Beibl.

P. Pa fodd y bu y Cymry o ran Cydgordiad[15] i'r Beibl Cymraeg?

T. Yr wyf fi yn meddwl nad oedd un Cymraeg yn y byd dros gan' mlynedd wedi iddynt gael y Beibl yn gyffredin yn y wlad, sef hyd 1730.

P. Pa fodd y cawsant un yr amser hynny? T. Trwy lafur a mawr ofal un o'r Bedyddwyr, sef Mr. Abel Morgan. Mae hanes yng Nhofrestr Mr. Moses Williams am lyfr a elwid "Cordiad yr Ysgrythyrau," a argraffwyd yn 1653. Mae'n bosibl mai Cydgordiad oedd hwnnw. Llyfr bychan ydoedd. Wedi dyfod allan Feibl Caerfyrddin yn 1770, darfu i Mr. Peter Williams ddechreu ar Gydgordiad, yr hwn a eilw ef "Mynegydd Ysgrythyrol." Felly daeth hwnnw. allan yn 1773. Yn hyn hefyd y mae Cymry wedi eu cyfoethogi ymhell tu hwnt i'r tadau gynt.


VI

Nodiadau

golygu
  1. Historical and Crit. Remarks," P. 2. "Welsh Piety for the year 1768."
  2. Yr oedd Mr. Griffith Jones yn bregethwr enwog o gylch 30 flynyddau cyn 1737. See his life in the Gospel Mag, fo July 1777
  3. Dichon rhai ddywedyd yma, yngeiriau gwr arall ar y cyffelyb achos, nad oedd er amser y diwygiad un lle yn rhagori ar Gymru o ran cadw yn fanol at ddefodau a gwasanaeth Eglwys Loegr, yn sylwedd a dull eu haddoliad ("History of Wales," printed in 1702, P. 328. ) cyn amser Mr. G. Jones, a'r rhai a'i canlynodd. Wedi ystyried ychydig o bethau amgylchiadol, hawdd iawn yw deall y geiriau hyn a'u cyffelyb. Nodwyd yn barod fod Mr. Moses Williams, ac amryw eraill o weinidogion Eglwys Loegr wedi bod yn ddiwid iawn i argraffu'r Beibl, i gyfieithu ac argraffu llawer o lyfrau da eraill wedi y flwyddyn 1700. Yr oedd y pethau hyn yn ddefnyddiol iawn yn eu lle; ond tybygid fod eisiau mwy o bregethu yn yr eglwys hon yr amser hynny. Er fod Gair Duw a llyfrau da eraill yn fuddiol iawn i'w darllen; eto yn gyffredin pregethiad bywiol yr efengyl sydd yn cael ei arddel er argyhoeddi, diwygio, ac achub dynion. Pregethwr anghyffredin yn Eglwys Loegr oedd Mr. G. Jones. Yr wyf fi'n gobeithio fod yno weinidogion duwiol eraill, yr amser hynny ac yn gynt. Ond hyn sydd sicr, anwybodaeth ac annuwioldeb mawr oedd ymhlith y cyffredin bobl. Ac os byddai un yn fwy gweddus na'r lleill, gelwid ef yn fuan yn Bresbyteriad, neu yn un o'r Ailfedydd. Ond wedi'r cyfan, os dichon neb brofi fod erioed ymhlith y Cymry o Eglwys Loegr weinidogion ac eraill, gymaint, neu fwy, o wir grefydd, addas foesoldeb, a grym duwioldeb, a mwy o ddeall, pregethu, a rhodio yn ôl erthyglau yr Eglwys honno, cyn amser Mr. G. Jones, nag a fu wedi hynny, bodlon iawn wyf fi. Nid wyf am wneyd cam a neb. Ac nid wyf yn dewis dywedyd y gwaethaf am neb. Mewn llawer o bethau yr ydym oll yn llithro.
  4. Mae awdwr diweddar o Eglwys Loegr yn rhoi'r hanes byr hyn am y Methodists. Mi a roddaf ei ddarluniad yn ei eiriau ei hun, heb eu cyfieithu: "They are a plain and enthusiastic people, who differ from the Church of England, only by a strict adherence to her articles; from which they plead, that the Church has herself departed in certain points." Noorthouck's Dictionary," on the word Methodists. Yr wyf yn edrych ar hyn yn ganmoliaeth iddynt yn hytrach nag achwyniad arnynt, yn enwedig ond gadael allan y gair "enthusiastic."
  5. Yr oedd yr argraffiad hwn, gan mwyaf, yn ôl trefn Beibl Mr. Moses Williams, ond ychwanegwyd at y Tablau yn y diwedd. Rhodded Tablau arian, pwysau a mesurau crybwylledig yn yr Ysgrythyr Lân gan Richard Morris, Esq.. golygwr yr argraffiad. Ychwanegwyd hefyd dair gweddi at y rhai o'r blaen. Yr oedd yr argraffiad yn 1752 yn gyffelyb i'r un yn 1746, a than ofal yr un golygwr.
  6. Historical Account," P.P. 53. 54
  7. Pan soniodd Dr. J. Stennett wrth rai o'r gymdeithas am roi arian gyda hwy tuag at ddwyn y draul er mwyn cael Beiblau i'r Bedyddwyr, yr oedd yr esgobion ac eraill yn barod iawn i dderbyn ei gynnyg; gan eu bod yn ofni y byddai'r baich yn rhy drwm iddynt hwy. Ond erbyn dyfod y Beibl allan o'r argraffwasg, yr oedd cymaint o ymofyn am Feiblau gan bobl Eglwys Loegr ymhlith y Cymry fel yr oedd yn anhawdd ganddynt adael y Doctor i gael cynifer ag oedd wedi cytuno am danynt. Dywedai'r esgobion wrtho,Ai cymwys yw i ni gynorthwyo eich pobl chwi, a gadael ein pobl ein hunain mewn diffyg?" Atebai yntef, Cymmwys i chwi wneyd cyfiawnder à mi cyn gwneyd elusen i'ch pobl eich hunain. Nid wyf fi yn ceisio ond cyfiawnder, yn ol eich cytundeb, &c." Felly caniatawyd iddo yr hyn a addawsid, ac yntet a dalodd am danynt. Dywedodd y Doctor y pethau hyn wrthyr fi yn 1751, ac iddo orfod ymresymu yn wrel ar gwyr mawrion cyn gallu cael ei ran, yn ol y cytundeb. Da iawn oedd gweled pobl yr Eglwys mor awyddus i gael y Beibl; ond cyfyng ydoedd ar yr Ymneillduwyr am Feiblau yr amser hynny. Bu Dr. Stennett yn llafurus iawn ac yn dra chariadus a haelionus i'r Bedyddwyr yng Nghymru y pryd hyn. Mae o'm blaen i nawr llythyr oddiwrtho yn 1751 yn rhoi hanes o'r Beiblau oedd wedi eu danfon i sir Fynwy a sir Forganwg. Yr oeddent bedwar ugain o nifer, ac o hynny yr oedd 15 at dai cyrddau, a'r lleill i dlodion yn y cynulleidfaoedd. Ac yn gyfatebol i hyn yr oedd wedi danfon i'r Bedyddwyr yn siroedd eraill Cymru. Nid oedd dim 15 0 dai cyrddau yn y ddwy sir: eithr tai annedd, lle byddid arferol o gyfarfod, oedd ynghylch hanner o honynt. Yr oedd enwau'r tai hynny ar y Beiblau perthynol iddynt, fel y lleill mewn llythrennau melynion ar y cloriau.
  8. "Historical yn Critical remarks." P. 4.
  9. Rhoddes Mrs. Marlow, o Lanllieni, 120 o Feiblau i'r Bedyddwyr o'r argraffiad hwn. Tuag at eu tai cyrddau yr oeddent yn fwya penodol.
  10. Mae'r Beibl a argraffwyd yn 1769 yn frasach ei lythyren na'r rhai o'r blaen; ac oblegid hynny yn fwy o faintoli. O herwydd hyn gadawyd allan y cwbl ag oedd yn y rhai o'r blaen, ond yn unig yr Ysgrythyr ac ystyr y bennod, a gosodwyd yr Ysgrythyrau oedd ar ymyl y ddalen o'r blaen, ar odreu'r y ddalen yn hwn. Nid oes ynddo ddim Psalmau cân. Heb law'r Ysgrythyr a'r sylwadau ym Meibl Mr. Peter Williams mae yn ei ddechreu ei lythyr ef at y darllenydd; yna un ddalen yn dangos swm yr Ysgrythyrau; yn nesaf, erthyglau crefydd Eglwys Loegr; rhai holiadau ac atebion mewn perthynas i'r athrawiaeth o Ragluniaethad: yna mynegai'r Beibl. Wedi hynny Llithiau, Calender, a Thabl y Llithiau, yn ôl trefn gwasanaeth Eglwys Lloegr. Tabl y Pasg, a Thabl y gwyliau symudol. Hyn oll yn y dechreu. Yn y diwedd mae'r Tablau oll ag sydd yn y Beibl 1746: a Tablau Oesoedd y byd wedi eu chwanegu, o waith Dr. Lightfoot. Y Salmau cân a'r Hymnau fel o'r blaen; eithr gadawyd y gweddiau yn y diwedd allan oll, ond yr un olaf.
  11. "Oes Lyfr," tu dal, 60.
  12. Tu dal. 65.
  13. Mae William Salesbury, yn ei lythyr at y frenhines, o flaen y Testament Newydd cyntaf a argraffwyd yn Gymraeg yn 1567, yn nodi, er ei fod ef yn deall fod gwir grefydd wedi bod yn flodeuog ymhlith yr hên Gymry yn yr oesoedd gynt, eto nad oedd ef wedi gallu casglu eu bod erioed wedi cael Gair Duw mor gyflawn a chyffredin i'w plith ag yr oeddent pryd hynny er nad oedd ganddynt ond y Testament Newydd yn unig, a hwnnw yn anaml iawn o'i gymaru â thrigolion y wlad. Eto y mae'r gwr da yn moliannu Duw am y fraint honno; ac yn mawr ddiolch i'r Frenhines, drosto ei hun a miloedd o'i gydwladwyr, am iddi ganiatau iddynt gael cymaint o Air Duw yn iaith ei hunain. O'r Cymry presenol! gwelwch eich braint. Rhodded Duw i chwi helaethrwydd o râs, fel y llanwer Cymru o dduwioldeb a duwiolion.
  14. Bailey's Dictionary and other large Dictionaries on the word Printing. "Oes Lyfr," tu dal. 117.
  15. Concordance.