Gwaith Joshua Thomas/DIBEN HANES
← AT Y DARLLENYDD | Gwaith Joshua Thomas gan Joshua Thomas golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
CYFNOD Y RHUFEINIAID → |
HANES CREFYDD CYMRU.
I. DIBEN HANES.
Annog i holi
PLENTYN. Fy nhad, pe gwypwn y gallech, yn ddigolled, arbed awr neu ddwy oddi wrth bethau mwy buddiol, byddai dda iawn gennyf gael atebiad i rai gofyniadau sydd ar fy meddwl.
Tad. Fy mhlentyn anwyl, yr wyf yn edrych ar hyfforddi fy mhlant yn un o'r pethau mwyaf buddiol: gan hynny, od yw dy ofynion am bethau llesiol, troaf heibio bob peth, er dy ateb yn oreu ag y medraf.
P. Diolch yn fawr i chwi am eich parodrwydd. Os gwelwch fy ngofynion yn ffol, byddwch mor fwyn a dangos i mi eu bod felly.
T. Er fod yn weddus i blant fod yn ddiolchgar i'w rhieni. eto dyledswydd plant yw gofyn, a dyledswydd rhieni yw eu hateb a'u hyfforddi. Mae gorchymyn Duw am hynny.[1] Ac arfer yr[2] hen dduwiolion oedd hyfforddi eu plant.
Hanes yn fuddiol.
P. A ydych chwi yn barnu fod hanesion yn fuddiol, neu ynte yn bethau ofer?
T. Nid buddiol yw hen chwedlau ofer, disylwedd, a disail. Eto mae hanesion o bethau naturiol yn fuddiol yn eu lle. Ond y mae hanes Eglwys Dduw yn dra buddiol yn gyffredin.
P. Beth yr ydych chwi yn ei feddwl wrth Eglwys Dduw?
T. Yr holl dduwiolion o ddechreu i ddiwedd y byd.
Hanes yw'r Ysgrythyr.
P. Pa les yw hanes yr Eglwys? Beth waeth i ni beth a fu cyn ein hamser ni?
T. Hanes yr Eglwys yw rhan fawr, os nid y rhan fwyaf, o'r Ysgrythyr. Yno y gwelwn gyfyngderau a gwaredigaethau'r saint, a mawr ofal Duw tuag atynt, ei gariad iddynt, a'i ffyddlondeb i'w eglwys dros bedair mil o flynyddoedd, a chwaneg. Dynion sanctaidd Duw, sef proffwydi, apostolion, ac eraill, a gynhyrfwyd gan yr Yspryd Glân i lefaru wrth yr Eglwys, ac i ysgrifenu ei hanes yn yr amser a aeth heibio, yn gystal ag i broffwydo am dani yn yr amser i ddyfod.[3] Yr holl hanes a 'sgrifenodd Moses ac eraill, er addysg i ni y maent[4]. Nid yw bosibl deall a gweled proffwydoliaethau ac addewidion yn cael eu cyflawni ond trwy hanesion.
Hanes yr Eglwys yn esboniad ar yr Ysgrythyr.
P. Mae'n debyg fod hanes yr Eglwys yn fuddiol i amryw bethau; eto onid oes digon o'r hanes hyn yn yr Ysgrythyr heb ysgrifenu ychwaneg?
T. Mae llawer proffwydoliaeth yn y Gair, y rhai a gyflawnwyd wedi dyddiau'r apostolion ac eraill eto i'w cyflawni, ac ni ellir eu deall heb hanes yr Egiwys. Pe buasem ni heb ddim hanes wedi'r oes apostolaidd, ni allasem ni wybod dim am yr holl erledigaethau chwerwon, a'r gwaredigaethau rhyfedd a gafodd yr Eglwys, ys agos i ddwy fil o flynyddau. Ni allasem ni ddim gwybod pa mor dda a ffyddlon y bu Duw i'w bobl, a channoedd o bethau eraill.
Y Cymry'n rhan o'r Eglwys.
P. Weithian i ddyfod yn nes adref; a ydyw'r Cymry yn rhan o'r Eglwys?
T. Ydyw'r duwiolion oll o bob llwyth, iaith, a chenedl.[5]