Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Dydd Gwyl Dewi

Yr Eisteddfod Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Y Byd Yn Mynd

DYDD GWYL DEWI

DA gan Gymry gydgyfarfod
Wyl Dewi Sant,
A iaith y Cymry ar bob tafod
Wyl Dewi Sant;
Sôn am Gymru gynt a'i hanes,
Gyda gwên a chalon gynnes,
A chalon Cymry yn y fynwes,
Wyl Dewi Sant.

Gwened haul ar ben y Wyddfa,
Wyl Dewi Sant,
Chwardded ffrydiau gloewon Gwalia,
Wyl Dewi Sant,
Gwyl hudolus—gwyl y delyn—
Gwyl y canu—gwyl y cenin
Nyddu cân, a phlethu englyn,
Wyl Dewi Sant.

Cadwn hen ddefodau Cymru,
Wyl Dewi Sant,
Cinio cynnes cyn y canu,
Wyl Dewi Sant;
Llawer Cymro calon gynnes
Wisga genin ar ei fynwes,
A'r lleill ro'nt genin yn y potes,
Wyl Dewi Sant.


Mae pob Sais yn hanner gwylltio,
Wyl Dewi Sant,
Eisieu o galon bod yn Gymro,
Wyl Dewi Sant,
Dwed y Sais dan wisgo'i faneg,
"Fi yn leicio'r Welsh pob adeg,
Ag fi dim dweyd un gair o Saesneg,
Wyl Dewi Sant.

Y ganwyll frwyn fo'n goleu'n siriol
Wyl Dewi Sant;
A'r tanllwyth mawn fo'n twymno'r gongl,
Wyl Dewi Sant;
Ac wrth oleu mawn y mynydd,
Pur wladgarwch elo ar gynnydd,
A'n serch fo'n ennyn at ein gilydd,
Wyl Dewi Sant.