Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Eisteddfod Porthmadog

Darlun -Bwthyn ym Maldwyn Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Rwy'n Gymro Pur

EISTEDDFOD PORTHMADOG

MI welais lawer 'steddfod fach,
A rhai 'steddfodau mawrion,
Mi welais rai ddim hanner iach,
A rhai yn od o gryfion;
Ond goreu am feirdd, a goreu am hwyl,
A goreu am bobl enwog,
A'r oreu un am arian llawn,
Oedd 'steddfod fawr Porthmadog.

'Doedd ryfedd bod hi'n 'steddfod dda,
'Roedd yma bwyllgor hwyliog,
A wnaed i fyny o gyfres hir
O bennaf gwŷr Porthmadog;
'Roedd Breese mor ddoniol yno wrth law
Os byddai braw neu angen,
Ac Alltud Eifion oddi draw
Yn cynnyg iddi bilsen.

Bu rhai o grocers mwya'r dre
'N rhoi siwgwr i'r Eisteddfod,
A'r Doctor Roberts yn ei le
Yn edrych ar ei thafod ;
'Roedd Jones a Jones, dau dwrne da,
A'u sgrifbin rhwng eu deu-fŷs,
Rhag ofn y cawsai hi ryw bla,
Ag eisieu gwneud ei h'w'llys.

'Roedd drapers penna'r dre a'u nôd
Am ddod i gyd i'w thrimio,
A gwisgo am dani â gwlanen goch,
Rhag ofn i'w boch hi lwydo;

Datblygid fry yn eitha'r ne'
Fanerau'r greadigaeth,
A chwarddai'r haul yn entrych nen
Ar ddydd ei genedigaeth.

Fu 'rioed fath gwrdd a chwrdd nos Iau,
Pan oedd y gwlaw'n pistyllio,
A'r bobl ieuainc bob yn ddau
O dan un umberelo,
Fe wenai'r ferch a gwenai'r llanc
Wrth wrando y caneuon,
Nes tystiai Rowlands sy'n y banc
Fod yno aml golision.

Fu 'rioed fath fyd, fu 'rioed fath stūr
Er pan y gwnaed tŵr Babel,
Ag oedd pan ruthrai'r curwlaw mawr
I lawr i'r cwpwrdd cornel ;
'Roedd Pencerdd Gwalia yn fan hyn,-
Ac Edith Wynne, 'ran hynny,
Bron at eu hanner yn y dŵr
Yn cadw stŵr 'n lle canu.

Yng nghwrdd y beirdd bu helynt fawr,
A dadleu i'w ryfeddu,
Pob un am gael y llall i lawr,
Wrth siarad ac englynu ;
"'Rwy'n codi i gynnyg," » meddai un,
"'Rwyf finnau'n codi i wrthod,"
Ond dwedai'r hen Waenfawr fel dyn,-
"Fu 'rioed 'run gwell cyfarfod."


Ar adeg yr Eisteddfod fawr,
O'r dre i lawr i'r harbwr,
Gwnaeth pawb eu ffortiwn heb wneud cam,
Oddieithr ambell farbwr;
A'r rheswm mawr fod pawb o'r rhai'n
Yn gwneud mor fain â'u harfau,
'Does neb o'r beirdd sy'n berchen grym
Yn torri dim o'u barfau.

Fe werthodd un hen wraig ei stoc
O India—rock a chandy
Mor llwyr, nes dwedai wrth O. P.—
"Rwyf i yn awr yn lady;
If you'll get steddfod 74,
And ask me for subscription,
I'll give you fifteen pounds ar frys,
Indeed, o 'wyllys calon."

Mae'n rhaid fod 'steddfod yn beth iawn,
Lle bynnag caiff ei chynnal,
Heblaw cael clywed byd o ddawn,
'Does dim yn talu cystal;
Mae pawb yn dod yn llawn o hwyl,
A phennau a phyrsau llawnion,
A phawb yn mynd yn ol o'r wyl
A’u pennau a'u pyrsau'n weigion.
Rhag. 3, "72.