Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Gogoniant i Brydain

Does Dim Yn Y Papur Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Mae'n Olau Yn Y Nefoedd

GOGONIANT I BRYDAIN


GOGONIANT i Brydain, paradwys y byd,
Gogoniant i'w meibion, rai gwrol i gyd;
Mewn heddwch neu ryfel, mewn tlodi neu fri,
Y dewrion Frythoniaid sy'n myned a hi.

Os daw y gelynion, a glanio'n ein gwlad,
Mae'r Saeson a'r Cymry yn gewri'n y gâd;
Yr Alban a'r 'Werddon sy'n uno â ni
I waeddi,—"Brythoniaid sy'n myned a hi."

Mae modrwy yr eigion o amgylch ein tir,
Ac am ein gwladwriaeth mae modrwy y gwir,
I gadw ein teyrnas rhag gormes a chlwy',
Mae modrwy ein hundeb yn gryfach na'r ddwy.

Mae rhyddid a chariad mewn hedd a mwynhad
Yn sail i orseddfainc Brenhines ein gwlad,
A miloedd o leisiau gydwaeddant ynghyd,—
"Hir oes i Victoria, Brenhines y byd."