Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Iachawdwriaeth

Ar Lan y Weilgi Unig Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Prydnawn Bywyd

IACHAWDWRIAETH

CYYNLLUNIAI Duw aneirif faith gysawdau
I droi a dirwyn yn yr eangderau;
Oddiwrth ei fŷs dyferai bydoedd anferth,
Ac effaith amnaid Iôr yw'r cread prydferth;
Nid ydoedd creu y dy a'r angel rhyfedd
Ond un o oruchwylion blaenau'i fysedd;
Olwynion natur a rhagluniaeth hefyd
A droant wrth ei archiad at y funud.
Ond O! bu meddwl dyfnaf Anfeidroldeb
Yn tynnu cynllun draw yn nhragwyddoldeb,
O'r ffordd i godi dyn o ddyfnder llygredd,
Heb dynnu anfri ar ei sanctaidd orsedd;
Nid gormod dweyd fod codi'r natur ddynol
Yn brif ddrychfeddwl yn y fynwes Ddwyfol
Draw 'mhell cyn bod y cread mawr gweladwy,
Pan oedd diddymdra fel yn amhlantadwy;
Gan faint oedd llygredd dyn mewn dwfn drueni,
Bu braich y Duwdod megis ar ei hegni
Yn estyn llaw o gariad anherfynol
Hyd cyrraedd llaw lygredig y bôd dynol.

Mae Iachawdwriaeth, megis môr heb geulan,
Yn llenwi tragwyddoldeb mawr ei hunan,
O'r braidd 'roedd brigau'i donnau bendigedig
Yn cyffwrdd â chras-diroedd dyn syrthiedig,
Hyd nes daeth Crist i agor y dramwyfa
I donnau Iachawdwriaeth gael mynedfa.
Awelon cariad a gynhyrfai wyneb
Y môr diderfyn draw yn nhragwyddoldeb,

A than gynhyrfiad yr awelon tyner
Ymdaflai ambell donn i grasdir amser;
Ond wele Dduw yn gwisgo'r natur ddynol,
I agor prif-ffordd i'r llifeiriant grasol
I redeg megis heibio i ddrws dynoliaeth,
Oedd bron a suddo yn ei lygredigaeth;
A phan ogwyddai Crist ei ben i farw,
'Roedd moroedd Iachawdwriaeth yn ben llanw
O flaen awelon cariad anorchfygol,
Sydd megis anadl gan y Bôd Anfeidrol.

O ddyfroedd gwerthfawr ! Dyma ffrydiau gloewon
Gynhwysant lonnaid enaid o fendithion;
Un defnyn bach o'r dyfroedd yn eu purdeb
Iachâ yr enaid claf am dragwyddoldeb;
Er lleted ydyw moroedd Iachawdwriaeth,
Ymranna'r ffrydiau mân ymysg dynoliaeth,
Fel lle mae dyn yn teimlo arno syched,
Mae ffrwd yn ymyl, dim ond iddo yfed.

O Iachawdwriaeth! Dyma gynllun rhyfedd,
Sy'n dangos gras a chariad yn eu mawredd;
Trwy'r cynllun rhyfedd hwn daw dyn yn ddedwydd,
Daw'r Nef a'r ddaear i gofleidio'u gilydd;
Trwy'r cynllun hwn mae dyn i gael ei godi
I rodio fraich ym mraich â'r angel heini;
Gall ysgwyd llaw â cherub pur a channaid,
A gwenu yng ngwynebau claer seraffiaid.
Tan effaith ffrydiau Iachawdwriaeth hyfryd
Mae tir y fendith yn ail-wisgo bywyd,
Ei dyfroedd pur sy'n wenwyn i bob llygredd,
Tra maent yn faeth i flodau tyner rhinwedd;
Yr anialdiroedd ddont yn ddolydd breision,
A thŷf y lili lle mae drain yr awrhon.


Mae popeth sy'n yr Iachawdwriaeth dirion
Yn ateb i drueni dyfnaf dynion;
Mae'n gwisgo'r noeth â phurdeb difrycheulyd,
Ac i'r newynog dyry fara'r bywyd;
Mae meddyginiaeth yn ei llaw dyneraf
I wella clwyfau y pechadur pennaf;
Ar groesau bywyd dyry ryw felusder,
A llaw i dywys trwy anialwch amser;
A phan yn nesu tua glan yr afon
I diriogaethau tywyll angau creulon,
Nid ydyw angau'n angau i'r duwiolion,
Mae craig yr oesoedd dan eu traed yr awrhon;
A Iachawdwriaeth sydd fel llusern olau
Yn taflu pelydr ar diriogaeth angau;
Porth aur y nefoedd i'r pererin ddengys,—
Allweddau gwynfyd rwymwyd wrth ei gwregys.