Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Rhagymadrodd

Gwaith Mynyddog Cyfrol 1 Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Rhagymadrodd
gan Richard Davies (Mynyddog)

Rhagymadrodd
Cynhwysiad

RHAGYMADRODD

GANWYD Richard Davies (Mynyddog) yn y Fron, Llanbrynmair, yn 1833. Amaethwr a bugail oedd yn ei ieuenctid; ac nis gwn am un math o waith mor hapus, nac am waith sy'n gymaint o addysg wrth ei wneud, a gwaith bugail ac amaethwr. Bywyd y bugail a'r amaethwr welwn yng nghaneuon tri beirdd bron o'r un oed, ond tri bardd tra gwahanol i'w gilydd,—Ceiriog, Mynyddog, a Thafolog. Ardal dda i fardd yw Llanbrynmair, ardal feddylgar a diwylliedig; ca bardd yno rai fedr ddeall ei gyfrinach a mwynhau ei naturioldeb.

Yr oedd Mynyddog yn fachgen uchelgeisiol. Dechreuodd gyda'r bryddest a'r awdl; medrai roddi meddyliau yn y naill a chynghaneddion cywir yn y llall Cafodd wobrau yn Eisteddfodau sir Drefaldwyn, pan tua'r ugain oed, am bryddest, awdl, cywydd, ac englyn.

Ond gwelodd cyn hir fod llwybr wedi ei dorri ar ei gyfer, a cherddodd ef i ddiwedd y daith, yn llawen, yn hapus, ac yn wasanaethgar. Ei lwybr ef oedd llwybr y gân seml, naturiol, lân. Yr oedd yn adnabod trigolion Maldwyn a Meirion,— a chanai, wrth eu bodd, gân ddiaddurn yn cynnwys gwers a gofient neu ergyd a deimlent. Cododd ei lyfrau awydd darllen ar weision ffermwyr a llafurwyr, ac arweiniasant hwy i gysegr llenyddiaeth. Y mae natur heulog, garedig, chwaethus, ddoniol, Mynyddog ei hun yn ei ganeuon i gyd.

Canai ei ganeuon, daeth yn arwr y llwyfan, a gwnaeth ddaioni trwy ei oes ferr. Yr oedd fel pe wedi ei amcanu at arwain Eisteddfod. Yr oedd yn dal a hardd, ei osgo a'i wyneb yn gyfuniad o ddireidi ac urddas, ei air yn barod a'i wên yn wastad ar ei wyneb.

Cyhoeddodd dair cyfrol o'i ganeuon,—yn 1866, 1870, a 1877.

Bu'n fywyd Eisteddfodau ym mhob rhan o Gymru, a bu ar daith yn yr Amerig hefyd. Ysgrifennodd lawer o ryddiaith, a cheir llawer o ddonioldeb ei ganeuon yn hwnnw.

O’i gartref prydferth yn y Cemaes,—Bron y Gân, bu'n mynd allan i ddiddanu ac i buro ei genedl. Bu farw Gorffennaf 14, 1877,—yn anterth ei nerth. Yn ol ei ddymuniad cafodd fedd hoff Lanbrynmair,—

"Pan wedi marw, rhowch i mi
Gael bedd yn Llanbrynmair."

Flynyddoedd yn ol, dywedodd ei chwaer wrthyf fod lliaws mawr o'i ganeuon goreu, y caneuon olaf ganodd, heb eu cyhoeddi, yn eu mysg ganeuon glywswn i ef yn ganu. Ar fy nghais, paratodd y diweddar D. Emlyn Evans y gyfrol hon i'r wasg. Y mae cyfrol arall debyg iddi i'w dilyn, yn cynnwys caneuon perffeithiaf Mynyddog, ymddiriedwyd imi gan ei weddw. Da gennyf fedru rhoi'r caneuon syml, doniol, iach, a phur hyn i'm cenedl; a rhoi llais eto, er mwyn y rhai a'i clywodd a'r llu mawr nas clywsant, i athrylith hoffus Mynyddog.

OWEN M. EDWARDS.