Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Roedd Mam Yn Siglo Baban Llon

I'r Pant y Rhed y Dŵr Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Eisteddfod Ffestiniog, Sulgwyn, 1875

'ROEDD MAM YN SIGLO BABAN LLON

ROEDD mam yn siglo baban llon,
"Si-hwi, hwian, hwian, hwi,"
A dyma'i chân yn brudd ei bron,—
Si-hwian, hwi,
O cwsg, fy maban, hûn o hedd,
Dy dad roed heddyw yn ei fedd,
Si-hwi, hwi, hwian, hwian, hwi."

Y galon gurai yn ei fron,
Si-hwi, hwian, hwian, hwi,
Un ergyd mwy ni chura hon,
Si-hwian, hwi;
A'r llygaid wenent arnat ti
Sydd wedi cau yn angeu du,
Si-hwi, hwi, hwian, hwian, hwi.

"Bu lawer gwaith yn siglo'th gryd,
Si-hwi, hwian, hwian, hwi,
Y dyn dedwyddaf yn y byd,
Si-hwian, hwi;
Ond heddyw, 'mhlentyn anwyl i,
Gair gwâg ac oer yw tad i ti,
Si-hwi, hwi, hwian, hwian, hwi.

"Af at ei fedd pan gwyd y lloer,
Si-hwi, hwian, hwian, hwi,
Ac yno ar y tyweirch oer,
Si-hwian, hwi,
Penliniaf uwch ei wely ef,
I anfon gweddi fry i'r nef,
Si-hwi, hwi, hwian, hwian, hwi.


"Pan mae anwyliaid byd yn ffoi,
Si-hwi, hwian, hwian, hwi,
'Rwy'n diolch am fod lle i droi,
Si-hwian, hwi;
Myfi a'm baban tra b'wyf byw,
Gyflwynaf fry i ofal Duw,
Si-hwi, hwi, hwian, hwian, hwi."