Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Y melinydd

Ianci 2 Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Un Lloer yn Lladd y Llall

Y MELINYDD.

(Efelychiad).

ROEDD hen felinydd llawen iawn
Yn byw ar nant,
Yn malu ŷd o fore i nawn
I gadw gwraig a phlant;
Fel hyn y canai o hyd o hyd,
Yn llon ar lan y lli, —
Dwy'n hidio am undyn yn y byd,
Na neb yn fy hidio i.

Myfi sydd yma'n bennaf gŵr,
'Rwy'n caru 'ngwraig a 'mhlant,
'Rwy'n caru sŵn yr olwyn ddŵr
A droir gan ffrwd y nant;
Ni chadd y twrne a'r doctor drud
'Run swllt erioed gen i,
'Dwy'n hidio am undyn yn y byd,
Na neb yn fy hidio i.

"Pan ddelo'r gaeaf dros y glyn,
Pan ddelo tywydd braf,
'Rwy'n canu yn yr eira gwyn,
'Run fath ag yn yr haf;
A sŵn y rhod yn troi o hyd
Sy'n fiwsig mwyn i mi,
'Dwy'n hidio am undyn yn y byd,
Na neb yn fy hidio i.


Os gwag yw côd fy siaced wèn,
Mae gennyf fwthyn clyd,
A gallaf fentro codi 'mhen
I ofyn gwaetha'r byd ;
Rwy' wedi talu 'miliau i gyd,
'Does neb a dim i mi;
Dwy'n hidio am undyn yn y byd,
Na neb yn fy hidio i.'

'Run fath a'r hen felinydd llon,
Gadewch gael canu cân,
'Does neb all fyw mor ysgafn fron
A’r sawl sy' a chalon lân ;
Mi gana'n llon o hyd o hyd,
Er rhwyfo'n groes i'r lli,
'Dwy'n hidio am undyn yn y byd,
Na neb yn fy hidio i.
Rhag. 1, '72.