Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Geiriau Cydgan Gysegredig

Dysgwch Ddweyd Na Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Owen Tudur

GEIRIAU CYDGAN GYSEGREDIG

Doed holl drigolion daear lawr
I ateb llef y nef yn awr,
Nes byddo tân eu moliant hwy
Yn eirias mwy i'r Iesu mawr.

Dyma'r un oddefodd bwysau
Holl bechodau dynol ryw,
Ac o'i fodd oddefodd loesau
Miniog gledd dialedd Duw;
Ac a ddrylliodd deyrnas angau
Pan y daeth o'i fedd yn fyw.