Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Lili Cwm Du
← Syr Watcyn Williams Wynn | Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 gan Richard Davies (Mynyddog) |
Ffarwel y Flwyddyn → |
LILI CWM DU
Rhwng hafnau'r bryn uchel mae'r awel erioed
Yn smalio a chwareu yn ysgafn ei throed;
A mynd gyda'r awel i bob cornel gu
Mae adgof i feddwl am Lili Cwm Du.
Mae lili y dwfr yn ymddyrchu o'r llyn,
Gan gym'ryd goleuni i sychu'i phen gwyn;
Mae hithau fel pe bai yn edrych bob tu
I feddwl a meddwl am Lili Cwm Du.
Mae gwlithos yr hwyrddydd yn dyfod bob nos
A'u diod gwsg dyner i anian fawr dlos;
Yn ol yn siomedig ânt gyda'r wawr gu
Am na chawsant gusan gan Lili Cwm Du.
Oferedd i'r gwlithos i ddyfod i lawr
I chwilio am hon ymysg blodau y llawr;
I fyny mae hi, ac ni fedd y nef gu
Un lili brydferthach na Lili Cwm Du.