Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Mi Saethais Gân
← Rhowch Broc i'r Tân | Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 gan Richard Davies (Mynyddog) |
Welwch chwi fi? → |
MI SAETHAIS GAN
(O Longfellow)
Mi saethais gân i fyny i'r ne',
A disgyn wnaeth nas gwyddwn ple,
Can's ni fu 'rioed un llygad llym
All ddilyn saeth ar hediad chwim.
Anadlais gân i wynt y ne',
Aeth gyda'r gwynt nas gwyddwn ple,
Oblegid nid oes llygad glân
All ddilyn llwybrau adlais cân.
'Mhen blwyddau hir mewn calon pren
Y saeth a gefais ar ei phen,
A'r gân a gefais wedi mynd
A glynu i gyd mewn calon ffrynd.