Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Perthynasau'r Wraig

Cymru Fu, a Chymru Fydd Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Gornant Fechan

PERTHYNASAU’R WRAIG.

Mi wnes beth unwaith yn fy oes
Na wnaf mo hono mwy,
Priodais gyda geneth lân,
Y lanaf yn y plwy;
Mi wyddwn eisoes fod gan hon
Berthnasau yn y byd,
Ond chydig a feddyliais am
Briodi’r rhain i gyd;
Dyna’i hewyrth, dyna’i modryb, &c., &c.

Pan b’wyf yn gofyn i ryw ffrynd
I droi i mewn i’r tŷ,
I gael ymgom am hanner awr
O hanes dyddiau fu,
Cyn dechreu siarad gylch y tân,
Na phrofi unrhyw saig,
Fe gymer imi hanner awr
I introdiwsio’r wraig.
Dyna’i hewyrth, &c.

Mi eis i’r dref yn fore ddoe
Yng nghwmni Sion y Graig,
A dyma’m hunig neges i
Oedd prynnu watch i’r wraig;
Pan rois yr oriawr yn ei llaw,
Dywedai ’mhen rhyw hyd,—
"A brynsoch chwi ddim pob ’i watch
I’m perthynasau i gyd?"
Prynnu watch i’r lot i gyd?


Wrth weld fod pethau'n troi fel hyn,
Dechreuais fynd o ’ngho’,
A dywedais yn fy natur ddrwg
Na wnai hi byth mo'r tro;
Dechreuai ’i thafod hithau fynd
I drin a hel o hyd,
Ac nid yn unig hi ei hun,
Ond unai’r lleill i gyd.
"Peidiwch byth rhoi y goreu iddo,"
meddai ei thad, &c., &c.
Medi 13, ’75.