Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Rhagymadrodd

Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 Gwaith Mynyddog Cyfrol 2
Rhagymadrodd
gan Richard Davies (Mynyddog)

Rhagymadrodd
Cynhwysiad

RHAGAIR.

Ail gyfrol yw hon o’r caneuon ganai Mynyddog heb feddwl eu cyhoeddi hwyrach. Canodd hwy fel y cân aderyn. Y maent yn aros yng nghof pawb a’u clywodd, er hynny. Ac oni ddylai pobl ieuainc na chlywsant Fynyddog eu cael? Oni ddylent redeg drwy fywyd ein cenedl fel y rhêd aber y mynydd trwy’n cymoedd?

Oherwydd, yn un peth, y maent yn ganeuon cyfeillgarwch a chymdeithas fwyn. Y mae i gwmniaeth, yn gystal ag unigedd, ei le ym mywyd ein henaid. O’r aelwyd i’r Eisteddfod hoffai Mynyddog ei bobl,—

"Rwy’n caru hen wlad fy nhadau
Gyda’i thelyn, ei henglyn, a’i hwyl,
Rwy’n caru cael bechgyn y bryniau
Gyda thân yn y gân yn eu gwyl."

Cadwant, hefyd, naturioldeb ieuenctid gyda doethineb profiad. Dyna nerth Mynyddog.

Y mae gwythien o synwyr cyffredin cryf yn rhedeg trwy ei holl ganeuon. Y mae hon yn rhoi gwerth arhosol ar y gân ysgafnaf fedd. Hyd yn oed wrth ddarlunio carwriaeth rhydd ergyd na roddodd yr un pulpud ei grymusach.

Y mae’r synwyr cyffredin hwn yn gwneud ei hynawsedd mor ddoeth, ei ddigrifwch mor naturiol, ei bartiaeth mor henffel, fel y tybiwn ei fod yn codi uwchlaw ymrysonau ei ddydd, ac yn aros gyda’i genedl, gan dyfu gyda hi. A hawdd i genedl hoffus ddarllen ei meddwl i ganeuon Mynyddog, fel y derllyn tad ei feddyliau dyfnaf i afiaith parablus ei blentyn.

Nid direidi a mwyniant yn unig sydd yng nghân Mynyddog. Y mae islais o brudd-der ynddi, oherwydd fod hynny yn y natur ddynol hefyd.

Y mae ei wladgarwch, hefyd, yn ddoeth ac yn angerddol ar yr un pryd. Carodd fynyddoedd a nentydd ei wlad heb eu hysbrydoli fel Islwyn, carodd hwynt er eu mwyn eu hunain.

Ac uwchlaw popeth, canodd mor glir oherwydd ei fod mor anhunanol. Canodd, nid gan feddwl am dano ei hun, ei gelfyddyd a’i ddelfrydau, ei uchelgais a’i anfarwoldeb, ond am y bobl yr oedd yn canu iddynt. Angylion gwasanaethgar iddo ef oedd ffurf ac athroniaeth. Ac nid oes yng Nghymru heddyw fardd a’i arddull mor gain, a’i feddwl mor ddwfn, na wna les iddo efrydu symlder Mynyddog, ac achos y symlder hwnnw.

OWEN M. EDWARDS.

Llanuwchllyn.