Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Rwy'n Disgwyl y Post
← Gŵyl Dewi Sant | Gwaith Mynyddog Cyfrol 2 gan Richard Davies (Mynyddog) |
Clywch y Floedd i'r Frwydr → |
'RWY'N DISGWYL Y POST
'Rwy'n disgwyl y post gyda llythyr i mi,
'Rwy'n disgwyl ei guriad bob awr wrth y ddôr,
Ond nid oes un adsain na churiad yn dod,
Ond curiad fy nghalon a suad y môr;
Mac'r awel yn dyner, ac weithiau yn gref,
'Rwy'n disgwyl, yn disgwyl am air gyda hi,
Ond ofer yw disgwyl wrth awel y nef,
Ac ofer yw disgwyl wrth donnau y lli;
Gwneud storm yn fy mynwes mae storm yn y nen,
A thynnu fy nagrau mae dafnau y gwlaw,
O eisieu bod rhywun yn cofio ei Wen,
Ac eisieu cael gweled ysgrifen ei law.
Daw'r mellt mewn trugaredd
Drwy swynol gyfaredd,
A newydd i rai dros y gwyrddlas li,
Ond llawn o gynddaredd
Yw'r mellt a'r taranau uwchben ein tŷ ni;
Mi rois iddo 'nghalon, a rhois iddo'm llaw,
'Rwy'n disgwyl, 'rwy'n disgwyl, a disgwyl nes daw.