Gwaith Mynyddog Cyfrol 2/Y Gôf

O Dewch Tua'r Moelydd Gwaith Mynyddog Cyfrol 2

gan Richard Davies (Mynyddog)

Clywch Y Floedd I'r Gad

Y GOF

(Y gerddoriaeth gan Proffeswr Parry)

Ynghanol haearn, mŵg, a thân,
Mae'r gôf yn gwneud ei waith,
Ar hyd y dydd, gan ganu cân
O fawl i'w wlad a'i iaith.

Gewynau ei fraich sydd mor galed a'r dur,
Ei galon, er hynny, sydd dyner a phur;
Mae cyrn ar ei ddwylaw mor gelyd a'r graig,
A dwedir fod corn ar dafod ei wraig.

Dechreua holi
Sion Jones Ty'n y Nant,—
"Oes eisieu pedoli?
Pa sut mae y plant?"
Sion Jones yw'r mwyaf gwrol
Am daro i wneuthur pedol,—
"On'd yw hi'n dywydd od o bethma,
Weithiau'n wlaw, ac weithiau'n eira,—
Chwytha'r tân yn gryfach, Mocyn,
Paid a chysgu wrth y fegin,—
Dacw gawod ar y bryniau,
'Does dim coel ar almanaciau,—
Sefwch o ffordd y gwreichion, blant,
Cliriwch le i ŵr Ty'n Nant."

Dacw Rolant Tyddyn Einion,
Eisieu rhwymo pâr o olwynion,

A dyma Dafydd o Blas Iolyn
Eisieu peg yn nhrwyn y mochyn;
Gwyn fyd na f'ai peg yn ei drwyn ef ei hun,
I'w rwystro i'w stwffio i fusnes pob dyn.

"Dyma aradr yn dod, a dacw ôg,
Chwytha'r tân, Mocyn, on'd wyt ti'n hen rôg,—
Huw Huws, Blaen y Ddôl, a fu yma ers tro,
Eisieu gwneud blaen ar y big-fforch o'i go',
'Does neb yn y byd all wneud blaen arno fo.

"Holo! dacw Sian Ty'n y Canol,
Hi gollodd bedolau ei chlocs ar yr heol,
Gwyn fyd na fa'i thafod yn colli'i phedolau,
Er mwyn iddi gloffi yn lle cario chwedlau;
Chwytha'r tân, Mocyn, ymhell y bo'th galon,—
Sefwch 'nol, Mr. Jones, rhag ofn y gwreichion,
Chwi welwch, Sion Jones, fod digon o waith
Yn dyfod i'r Efel i chwe gôf neu saith."

Fel hyn, ynghanol mŵg a thân,
Mae'r gôf yn gwneud ei waith,
Ar hyd y dydd, gan ganu cân
O fawl i'w wlad a'i iaith.
Mawrth 30, '76.

Nodiadau

golygu