Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Ar y Môr

Llythyr at fy Nheulu Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
O'r Dyfnder


AR Y MOR.

O! FY Nuw,
Paham y rhaid im' fyw
Mor hir, a'm gwedd mor wyw,
Ar ol im' weld y llu
O gain obeithion cu
Fynwesid gennyf ddyddiau fu
Oll yn y bedd?

Beth yw mywyd? Dim ond gardd
O flodau wedi gwywo;
Dim ond siomiant breuddwyd hardd
A dedwydd, wedi deffro;
Twllwch nos pan fyddai ser
A lloer oll wedi pallu,—
Newydd win fu gynt yn bêr
Wedi bythol egru.

Fy anwyl, anwyl Lwyn,
Hyd dy lethrau
Wrth fugeilio'r wyn
Lawer boreu,
Ar ymdorri bu fy mron
Gan ei gwynfyd—
Gwynfyd diniweidrwydd llon
Plentyn mewn breuddwyd.

Eto'n ddieithr i dristâd
Amgylchiadau dyrys;
Eto'n nghysgod mam a thad
Tyner a gofalus,
Eto cerid fi gan un
Megys ag ei carwn,
Eto pang afiechyd blin
Ni phrofaswn.


Iechyd, cariad, tad a mam,
Gwenau ffawd a chalon
Anghyffredin yn ei llam,—
Pa ryfedd droion
Iddi berlewygu gan
Draswyn y dyfodol,
Ac yr ymddanghosai'm rhan
Uwch daearol?

Un ar bymtheg oed a ddaeth,
Ond ym mynwes
Gu fy nhad y glynai saeth.
Angau eisoes;
Mwy nad all'sai' galon ddwyn
A fuasai cefnu
Ar ddyfodol hoff ei Lwyn
Am dylodi.

Deunaw oed a ddaeth, ond nid
A bri deunawfed flwyddyn,
Gwyw fy ngruddiau a di—wrid
Gan ymofid dygyn;
Is y glaswellt yn y llan
Y gorweddai'm rhiant;
Wedi dioddef yn eu rhan,
O gymaint!

Ugain ddaeth, a chydag ef
Drallod, chwerwach trallod,—
Ugain aeth, a chydag ef
Wrthrych hoffaf hanfod;
Mary Ann, mwy er bod un
Arall yn ei meddu,
Nid pan baid anadl ei hun
Y peidiaf fi a'i charu.





GLAN Y MOR.

"Y Môr, mor ddynol newidiol,
Ac eto mor ddwyfol yr un."




Blwyddyn arall lesg ei throed
Bellach dyma finnau,
Wedi cyrraedd llawnder oed
A ——— llawnder gwaeau,
Ir fy oes, ond angau sydd
Eisoes wedi crino
'M nerth, ac O! gerllaw mae'r dydd
Pan raid syrthio.

Iechyd, cariad, mam, a thad,
Gwenau ffawd—oll wedi,
Wedi'm gadael i dristad
Unigrwydd mewn trueni;
Heddyw'n marchog brig y don
Ar fy ffo rhag angau,
Ond yn—ofer—is fy mron
Brath ddyfnach ei bicellau.

Ond paham byw? A phaham ffoi,
Mewn byd mor ddifwyniant;
Paham peidio'n awr ymroi
Gyda'r llifeiriant?
A fuasai ddim yn well
Aros gartre i huno,
'Lle mynd i chwilio mewn gwlad bell
Am fan i orffwyso?

Na fai,—O fy nwy chwaer fach
Eto heb eu magu,
Fy nymuniad pan yn iach
Fyddai gallu,
Cyn pen hir eu gweld,—y ddwy
Anwyl amddifad,
Wedi eu dwyn i fyny trwy
Fy nghariad.


Ac yn awr pan nad oes mwy
Obaith y caf syllu
Ar forwyndod teg y ddwy
Yn addfedu,
Dyfnach, purach, cryfach yw
Fy nymuno
Am gael eto dymor fyw
Pe ond i'w cofio.

Mawrth 30, 1879.

Nodiadau

golygu