Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Cân Serch
← Nos Sadwrn y Gweithiwr | Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr) gan Robert Owen (Bardd y Môr) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Y Cariad Cudd → |
CAN SERCH.
Horas, Llyfr III., Cân 9.
MORGAN.
TRA'R oeddwn i eto yn anwyl i ti,
'Doedd neb ar y ddaear ddedwyddach na mi;
Tra am dy wddf claerwyn na phlethai un fraich
Mwy hoffus, 'doedd bywyd ddim eto yn faich;
Blodeuwn yn decach, yn falchach fy mhryd
Na theyrn gorfalch China, na dyn yn y byd.
GWEN.
A minnau, tra'r oeddwn yn anwyl i ti,
'Doedd neb ar y ddaear ddedwyddach na mi;
Tra nad oedd dy fynwes yn llosgi yn fwy
Am arall, O Morgan, na'th galon yn ddwy,
Blodeuwn yn decach, yn falchach fy mhryd,
Na Buddug ei hunan, na merch yn y byd.
MORGAN.
Ond Jane y Fronheulog sy'n awr wedi dwyn
Fy nghalon dan ormes drwy nerthoedd ei swyn;
Ei llais sydd fil mwynach na miwsig y nant,
A'i dwylaw sydd hefyd yn fedrus ar dant;
A throsti yn llawen disgynnwn i'r bedd.
Er cadw o'r nefoedd yn ddiogel ei gwedd.
GWEN.
Ac Edward y Gorllwyn, fy llencyn dinam,
Sy'n toddi'm bron innau â'i gariad fel fflam;
Nid oes ei serchocach, nid oes ei fwy mad,
Nid oes ei ragorach mewn tref nac mewn gwlad;
A throsto ef ddwywaith disgynnwn i'r bedd,
Er cadw o'r nefoedd yn ddiogel ei wedd.
MORGAN.
Ond beth pe dychwelai'r hen serch yn ei wres?
Ac uno'n calonnau â gefyn o bres?
A dychwel o fwyniant yr hen amser gynt?
A pheth pe gollyngid i fynd gyda'r gwynt
Y ferch a'r pen melyn, er agor y drws
I ti unwaith eto, fy nghalon fach glws?
GWEN.
Er fod fy anwylyd yn harddach na'r ser,
A'i wenau mor hawddgar, a'i eiriau mor bêr,
Ac er dy fod dithau 'n fwy diwerth na dellt,
A'th natur yn wylltach na fflachiad y mellt,
Er hyn, gyda thi y dymunwn gael byw,
A chyda thi farw, os boddlon gan Dduw.
1876.