Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Fy Anwyl Fam

Darlun Trigfan yr Awen Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Fy Nhad


FY ANWYL FAM.

Y anwyl, fy hen fam,
Paham,
Ar ol i'th farwol ran
Am flwyddi orffwys dan
Briddellau oer y llan,
Y mae dy adgo
Yn gwneyd i'm calon gan
Ei phoen ymsuddo.

Fe gollais dyner fam
Pan fuost farw,
Ond och, nid dyna'r pam
Yr wyf mor arw;
Gwyn fyd na bai ond hyn
I friwio'm hysbryd syn,―
Na bai fy mhoen ond llyn
O ddagrau hiraeth
Am serch nad oes a'i pryn
I'm profiad eilwaith.

Fy mam, nid am y serch
A gollais felly,
Ond am y gofid erch
A berais iti,
Y mae fy adgof prudd,
Megis rhyw wermod cudd,
Yn chwerwi nos a dydd,
Felusder bywyd,
Nes gofid-lwydo grudd
Rhosynaidd ienctyd.

Pan gynt ar fronnau'th fam
Dy gred a sugnaist,
A'r rheswm dyrys pam
Erioed ni fynnaist;

Digon, er dy foddhad,
Oedd fod dy fam a'th dad
Yn credu'n ddinacad
Yr hyn a ddysget,—
Dymuno sicrhad
Pellach, nis gallet.

Uwch gair dy Dduw ni ddaeth
Erioed i'th flino
Un anesmwythdra gwaeth
Na methu'i gofio;
'Roedd popeth iti'n glir
O fewn y gyfrol bur,
A methaist weled tir
Tywyllwch yno,
Lle mae pob gair yn wir
Yn ol dy gredo.

Felly, yng ngrym dy ffydd.
Gref a phlentynaidd,
Ti ellaist yn dy ddydd
O drallod trymaidd,
Ymgynnal dan ei bwys,
A dioddef cystudd dwys
Am hir mewn gosteg glwys;
A phennaf elw,
Pan ddoist i ben y gŵys,
Ti fedraist farw.

Ond, er im sugno maeth
Dy fron yn blentyn,
Nis gellais yfed llaeth
Dy grefydd wedyn;
Rhyw anorffwystra am
Y "pa fodd a'r "pa ham "
A'm gyrrodd i, ar gam
Fe allai, i grwydro

Ymhell o gred fy mam
A'r heddwch yno.

Diau nas gallaf fi
Byth lawn amgyffred
Ddyfnder dy drallod di,
Fy mam, wrth weled
Y mab, y cefaist fyd
I'w fagu'n anwyl cyd,
A'r hwn oedd yn y byd
Dy bennaf obaith,
Yn colli ei enaid drud
Ym mhwll amheuaeth.

Ond nid o'th ochr di
Y bu'r holl alaeth,
Ond cyfiawn gefais i
Fy nghyfran helaeth.
I'th ereill blant nid oes
Ond adgof am dy oes
O gariad, er pob croes
Ddaeth i'th gyfarfod,—
Hiraeth yw'r unig loes
Sydd yn eu trallod.

Ond mwy dy rodd i mi—
Rhoist i mi alaru
Nas gallaf byth i ti,
Byth mwy, ad-dalu
Dy serch, na gwneuthur iawn
Yn rhagor am y cur
A berais iti 'n hir,
Na dwyn i'th adfyd
Addfedrwydd teimlad llawn
Hafddydd fy mywyd.


Ac O, nis gellais chwaith
Ddim dangos iti,
Cyn cyrraedd pen dy daith,
Fod modd cyflawni
Ein dyled yn y byd,
A chofio Duw bob pryd,
A charu â'n holl fryd
Ddynolryw hefyd,
Heb eto gredu i gyd
Hen wersi'r aelwyd.

Ond fe ddaw eto ddydd
Pan yr anghofiwn
Bob anghydsyniad prudd
Am beth a gredwn:
Nid oes yn nefoedd Duw
Un cyffes ffydd yn byw,
Cariad yn unig yw
Y gyffes yno;
Ninnau gawn yno'n wiw
Dros byth gytuno.



Nodiadau

golygu