Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Hanes Bywyd Robert Owen

Cynhwysiad Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Swn y Môr


BYWYD ROBERT OWEN.

AC eithrio Glasynys, nid oes fardd Cymreig, hyd y gwni, wedi ymhyfrydu â'i holl enaid ym mhruddder su tragwyddol y môr. Clywir adlais rhu ei donnau mewn llawer emyn a chân, ond nid mor aml y darlunnir ei brydrerthwch a'i swyn. Yr un gair a marw ydyw ei enw, anial ac oer ac ystormus ydyw i lawer bardd Cymreig. Gwell ganddo ef ddilyn Wordsworth i dawelwch mawreddog a sancteiddiol y mynydd na dilyn Byron mewn llawenydd rhyddid hyd donnau ystormus y môr. Am nefoedd y Cymro, fel am nefoedd yr Iddew, gellir dweyd,—"A'r môr nid oedd mwyach."

Y maer môr ar dri thu Cymru, nid oes ond dwy o'r tair sir ar ddeg heb fod yn taro arno. Y mae tlysni a hyfrydwch ei lannau yn ddihareb; ac y mae'n debyg nad oes yng ngolygfeydd y byd olygfa dlysach na'r lle mae'r afon Maw yn ymgolli yn y môr. Ond hyd yn oed yno. nid yw'r beirdd wedi teimlo swyn y môr; ac nid oes dim o'i fawredd gorfoleddus, nag o hyfryd awgrymiadau ei su esmwyth pell, wedi mynd i'w cân. Ar y naill ochr i'r Maw yr oedd Dafydd Ionawr; ond enaid at ramadeg a rheolau cynghanedd oedd ganddo ef, nid at chwyldroad a'r môr. Yr ochr arall yr oedd Sion Phylip, sydd a'i fedd ar ymyl y tywod, lle mae'r gwylanod yn hofran uwchben adeg ystorm; ond dros y mynyddeedd yr edrychai ef, mewn pryder am eglwys a gwladwriaeth, ac nid dros y môr tua chartref y pererin rhydd.

Unwaith tybiais fod bardd wedi ei enii wneyd swn y môr yn rhan o feddwl a chân Cymru. Ugain mlynedd yn ol cyfansoddwyd "Swn y Môr" gan fachgen ieuanc yn yr ysgol. Nid oedd ond dwy ar bymtheg oed; ond yr oedd gofid, a hadau afiechyd hwyrach, wedi ei ddysgu i sugno cydymdeimlad o swn y môr. Aeth i lan y môr ac i ymylon tragwyddoldeb yn ieuanc, ac y mae adlais o'r su dieithr pell yn y caneuon adawodd ar ei ol.

Ganwyd Robert Owen ger yr Abermaw, Mawrth 30, 1858; bu farw ger Harrow, Victoria, yn Awstralia, Hydref 23, 1885; ac y mae lled y ddaear rhyngddo a'r fan y clywodd gyntaf swn y môr.

O fewn ergyd carreg i'r brif-ffordd sy'n rhedeg o'r Abermaw trwy Ddyffryn Ardudwy, rhwng capel y Parsel ac eglwys Llanaber, saif ffermdy bychan o'r enw Tai Croesion. Amgylchynir y ty, adeilad digon cadarn, gan goed talgryfion. Gwyneba y môr mawr llydan, ac y mae yn ddigon agosato i unrhyw un a wrandawa glywed swn "gwendon yn dilyn gwendon" ac yn marw ar y traeth. Yno y ganwyd Robert Owen, mab Gruffydd a Margaret Owen. Brodor o Benllyn oedd Gruffydd Owen; ganesid ef yn y Ty Llwyd, Cwmtirmynach, ger y Bala. Pan yn llanc ieuanc hawddgar, a'i harddwch corfforol yn ddihareb, symudodd gyda theulu o'i gymdogaeth i'r Ty Mawr, Talsarnau. Fel ei deulu, gŵr cariadus

cymhwynasgar oedd, yn ddifyr iawn ei gwmni, gyda gair ffraeth caredig yn barod bob amser, ac yn hoff iawn o gân. Bu farw Chwef, 26, 1875, yn naw a deugain oed, wedi ei siomi yn ei hoff obaith.

Fel ei gŵr, yr oedd Margaret Owen yn hynod am ei charedigrwydd a'i lletygarwch siriol; y nodwedd a'i gwahaniaethai oddiwrtho ef oedd ei phenderfyniad meddwl. Merch Gwern Einion, ger Llanbedr, oedd. Credai mewn gwaith; a gweithiodd yn rhy galed ei hun i fagu ei phlant. Ni bu iddi ddiddanwch ar ol marw ei gwr; ac aeth ar ei ol y seithfed o Fai yn y flwyddyn wedyn, yn saith a deugain oed.

Pan oedd Robert Owen yn bedair oed, symudodd y teulu i fyw i'r Abermaw, ac yr oedd erbyn hynny frawd bychan tew o'r enw Owen, deuflwydd oed. Ty ar ochr y graig oedd y ty newydd, o'r enw Pen y Bryn. Gŵyr pawb fel mae'r Abermaw wedi ei adeiladu ar wyneb craig, ac fel y medr y trigolion weled y llongau ar y môr dros simddeuau eu gilydd. Symudasai Gruffydd Owen, gyda'i wraig a'i ddau blentyn bach, i fod yn ben badwr ar afon Mawddach; yr oedd hynny cyn amser y ffordd haiarn a'r bont, er fod y ffordd a'r bont wedieu dechreu. Collodd y cychwr ei alwedigaeth, a chollodd y rhan fwyaf o'i arian wrth ofer ymgyfreithio a'r cwmni oedd wedi dinistrio ffon ei fara.

Yr oedd bryd Gruffydd Owen ar ffarmio. Cymerodd Lwyn Gloddaeth, ffermdy yng Nghwm Sylfaen, ychydig dros filltir o'r Abermaw. Symudodd yno ar galan gauaf 1867, gyda'i deulu a gwas a morwyn. Lle caregog a diffrwyth oedd ar y goreu, llawn creigiau a drain a grug; ond yr oedd yr amaethwr wedi rhoddi ei galon ar ei wneyd yn gartref cysurus gweddill ei oes, Llusgodd dunelli lawer o galch i fyny i'r fferm, gorchuddiodd wyneb yr holl feusydd â chalch a phridd, ymrôdd i godi cloddiau a thorri ffosydd, a gwnaeth i wair ac yd dyfu mewn caeau oedd yn wyllt ers blynyddoedd. Ac nid llai oedd ymdrech Margaret Owen yn y ty.

Tra'r oedd eu rhieni'n gweithio yn galed, chwareuai'r ddau fachgen yn hapus. Gadawsant chware cwch a llong; ac aethant i gadw ffarm. Yr oedd gan bob un ei dyddyn ar y bryn wrth dalcen y ty, gyda chregin duon yn wartheg a chregin cocos yn ddefaid; ac yno y byddent yn ddedwydd ddigon, hwyr a bore, yn prynnu a gwerthu fel pe buasent y ddau amaethwr mwyaf yn yr holl dir. Toc daeth chwaer fach hefyd, iddynt wylio'r amser y doi i sylwi ac i wenu arnynt.

Ciliodd dyddordeb Robert Owen oddiwrth ei deganau, yr oedd wedi cael blas ar ddarllen a meddwl. Yn yr ysgol Sul ac yn yr ysgol ddyddiol yroedd ei gyflymder a'i weithgarwch yn tynnu sylw pawb. Yr oedd ysgol Frytanaidd wedi ei hagor dan y capel yn yr Abermaw yn 1868 neu 1869, a gwelodd yr athraw ddefnydd is-athraw yn Robert Owen. Aeth y bachgen adre'n llawen y noson honno, a'i frawd llai yn rhedeg ar ei ol i fyny'r llethr serth, i roddi cais yr athraw o flaen ei dad. Ond, er ei alar, ni fynnai ei dad wrando arno. Wylodd drwy'r nos, tynherodd calon ei fam; ac yn y bore dywedwyd fod ei dad yn foddlon. Ac yna dechreuodd ymdrech y bachgen i godi yng ngrym ei athrylith i allu a defnyddioldeb,—yr ymdrech bruddaf, ond mwyaf dyddorol, feallai, yn hanes efrydwyr tlodion Cymru.

Beth yw'r rheswm fod ambell i fachgen mewn ysgol, heb gynorthwy cyfoeth na theulu na dysg, yn unig ymysg ei gyd-ysgolheigion chwareugar fel un yn babell i ryw ysbryd mwy pur a choeth na'u hysbrydoedd hwy? Y balchder urddasol, y boneddigeiddrwydd naturiol, yr uchelgais ysol, y gonestrwydd anhyblyg,—o ba le y daethant i'r galon fach sy'n curo dan gob sy'n dangos gofal a thlodi mam? Tra'r oedd holl fryd ei gymdeithion ar chwareuon a melusion, pa beth oedd yn ei ddenu ef i unigedd ochrau'r Llawllech, i ymhyfrydu ym mhrydferthwch natur, ac i gyfuno'r mwynhad hwnnw gyda chariad, oedd yn ymagor yn ddistaw fel rhosyn, at eneth fach lygat-ddu oedd yn chware gyda'r lleill?

Lle tawel yw'r Abermaw. Cysgod sydd yno, a lle i ymfwynhau; nid lle i fagu anturiaethwyr. Nid llawer o wŷr enwog gododd yno, os neb. Os symuda meddwl yno o gwbl, symuda,—dan ddylanwad ymbleserwyr a llyfrgell y ffordd haiarn,—yn esmwyth ddiog yn ol. Ac yno yr oedd bachgen unig, a rhywbeth wedi deffro pob cynneddf iddo. Yr oedd pawb yn ei adnabod, ond yr oedd yn ddieithr yn eu mysg. Gwrandawai'n astud ar y pregethau, mwynhai'r seiadau, nid oedd ball ar ei lafur at yr ysgol Sul, carai'r plant yn angerddol, hanner addolai ei dad a'i fam, ac yr oedd prydferthwch yr eneth honno yn rhoddi ei wedd ddedwydd ar fywyd cudd ei feddwl. Ond eto yr oedd yn unig; yn anesboniadwy hyd yn oed i'r rhai a'i carai. Cerddai lwybrau dieithr iddynt,—min a môr a glan tragwyddoldeb o hyd. Pan yn alltud pell, a'i uchelgais wedi troi'n anobaith, a phan yn hiraethu am y fam allasai leddfu peth oi gur, dywed ran o hanes yr ymddieithriad yn ei gân, "Fy Mam."

Yr oedd y byd yn gwasgu ar yr amaethwr, druan. Yr oedd wedi benthyca arian i fynd i Lwyn Gloddaeth, nid oedd eí lafur yn dod ag ennill iddo, aeth yn dlawd yn onest; a gorfod iddo droi ei gefn, a'i galon ar dorri, ar y lle yr oedd pob gobaith yn y byd hwn wedi angori wrtho. Nid oedd ing meddwl Robert Owen yn llai nag ing meddwl ei dad. Aethant yn ol i'r Abermaw i fyw, a nod bywyd y bachgen yn awr oedd ennill digon i roddi ei dad yn ol. Ddeng mlynedd i ddiwrnod marw ei dad, yr oedd Robert Owen yn Awstralia yn meddwl am dano.

"Ddeng mlynedd i heddyw," meddai, "bu farw fy nhad. Duw yn unig ŵyr faint o honof fi fu farw gydag ef. Wrth edrych yn ol, gwelaf mai colli fy nhad oedd colled fwyaf fy mywyd i. Cyn ei farw, yr oedd gennyf ddymuniad goruchel. Nis gallaf ddweyd wrthych mor gryf ydoedd, mor ddidor y canlynai fi ddydd a nos, gymaint ddioddefais yn ddistaw er ei fwyn. Yr oeddwn wedi gweled fy nhad yn gorfod ymadael â'r tyddyn bychan garai mor fawr, ac yn dod yn labrwr cyffredin; ond, cyn pen ychydig flynyddoedd, yr oeddwn am ei roddi ar dyddyn gwell, na fuasai raid iddo ei adael byth, byth tra'n fyw, byth. Ni chai fy nhad ddioddef eisiau tra y medrwn i ennill dim. Bwytaodd y pwrpas hwn i'm henaid fel gwallgofrwydd. Gwasgwn fy nannedd, cauwn fy nyrnau mewn digllonedd, wrth ddychmygu fod neb yn ameu fy mwriad." Ac yna doi'r dagrau wrth gofio mor hapus fu yn Llwyn Gloddaeth; ac wrth feddwl nas gallai unlle byth fod fel yr hen.

Yn haf 1874 yr oedd y tad yn gweithio yn y Sylfaen, ac yn dod adref ar nos Sadyrnau. Codai Robert Owen bedwar o'r gloch y bore i astudio; a rhyw fore Llun gadawodd ei Caesar ac aeth gyda'i dad i gyfeiriad ei hen gartref. Aethant trwy'r Abermaw cyn i neb godi; a gwelai'r bachgen, oddiwrth wyneb gwelw ei dad, fod rhyw ofid yn ei lethu. Wrth basio Ty'n y Maes, cyfeiriodd y tad at ryw welliantau oedd yn feddwl wneyd pe cawsai aros yn Llwyn Gloddaeth; ac aeth ei wyneb yn bruddach fyth wrth son am y tyddyn.

"O nhad," ebe'r bachgen, "peidiwch rhoi'ch calon i lawr fel yna, peidiwch yn wir. Yr ydach chi yn sicr o gael gweld dyddiau gwell eto, gwell o lawer. Os cai fyw, nhad, mi fynna' i'ch gweld chwi eto yn feistr arnoch eich hun, mewn ffarm gystal a Llwyn Gloddaeth beth bynnag." Yr oedd llais y bachgen yn crynnu, a'i lygaid yn wlybion.

"Byth, Bob, byth," oedd unig ateb y tad.

Trodd y bachgen yn ol, at ei lyfrau. Yr oedd yr haul erbyn hynny wedi codi ar olygfa ardderchocaf Cymru, a'r bore'n rhyfeddol hyfryd, ond dan wylo y daeth Robert Owen adre. Ymhen mis neu ddau daeth ei dad adref wedyn, yn wael, a gwelodd ei fab ystyr y geiriau "Byth, Bob, byth."

Ond ni chollodd y tad o feddwl Robert Owen. O'r adeg y dringai ei lin hyd y dydd y clywodd gnul cloch Llanaber, yr oedd o hyd mewn dychymyg yn ail fyw hen fywyd ei blentyndod. Dair blynedd wedi marw ei dad y mae ei hiraeth cyn gryfed ag erioed,-yn ei gân, "Fy Nhad, fy anwyl Dad."

Bum ar bererindod yng nghyffiniau Llwyn Gloddaeth. Saif i fyny ar y bryniau sy'n codi o lan afon Maw. Oddiyno ceir golygfeydd nad eu harddach yng Nghymru, os yn y byd. Lle gwael i godi ymborth sydd ar y bryniau creigiog a grugog hynny; y mae caeau gwenith a phytatws yr amaethwyr yn ymestyn, ym mhob ffurf, rhwng crugiau o gerrig a thwmpathau drain. Synna'r dieithr pa fodd y medrasant arloesi lleoedd felly, os nad à fforch; na'u medi, os nad â siswrn. Ond nid ar fara'n unig y bydd byw dyn. Nid yw'r eithin yn felynach yn unlle, na'r grug yn gochach; y mae natur yn gwisgo'r mynyddoedd ag ysblander o felyn a choch na welodd dychymyg bardd eu prydferthach. A'r mynyddoedd mawr, y Gader a'r Aran, safant yn ddifrif-ddwys draw-a'u gwisg niwl yn newid yn amlach na hyd yn oed ffasiynau'r ddaear. Ac odditanodd clywir su'r môr, nid rhu bygythiol, ond su esmwyth Sabbothol. Yma deffrodd awen Robert Owen, a dechreuodd ganu cân, ond daeth angeu cyn iddo gyrraedd yr amen. Yn honno, mewn dull difyr, darlunia ei hun yn mynd

"Am dro yng ngwyleidd-dra y wawrddydd,
Neu ddifrifwch gosteg yr hwyr,
Hyd fynydd a glyn a choedwig,
Ac unig lennydd y dŵr."

I geisio ymgydnabod â'r awen aeth i ben y Llywllech i weld toriad gwawr, ac i weled a ddeuai'r dduwies gyda hi. Wedi'r bore hwnnw, yr oedd pob peth adnabyddai gynt wedi ennill ystyr newydd,—

"Y morfa a'i aml dwmpath,
O for-hesg a blethem ni gynt,
Y tywod yn fil o domennydd
Amrylun wrth fympwy y gwynt,-
A'r Môr, yr hen For, fy addysgydd
Yn blentyn, a'm cyfaill yn hyn,
Y Môr, mor ddynol-newidiol,
Ac eto mor ddwyfol yr un."

Gwnaeth y bachgen athraw campus. Yr oedd yn hoff o blant, ac yn bryderus iawn am danynt. Darllennai lawer am danynt, ac ysgrifennai eu hanes yn ei ddyddiadur. Gweithiai a'i holl egni. Codai'n fore; weithiau ni chysgai ond awr; bywiai'n galed. Enillai ychydig at brynnu llyfrau wrth gasglu arian dros ryw gwmni yswiriol ac ysgrifennu llythyrau. Yn yr Ysgol Sul, fel yn yr ysgol ddyddiol, yr oedd ei ymroddiad yn ddiderfyn; dysgai pob aelod o'i ddosbarth lawer iawn o adnodau, dysgai yntau fwy na'r cwbl gyda'u gilydd. Taflodd Ffrancwr dysgedig o rywle i'r Bermo, y mae wedi ei gladdu yno yn y graig, fel Chateaubriand; dysgodd hwnnw bedair iaith iddo,—Ffrancaeg, Almaeneg, Ysbaeneg, ac Eidaleg.

Mwynhai bregethau'r Sabbath, ysgrifennai grynhodeb ohonynt, a beirniadai hwy'n llym. "Yr wyf yn cael rhyw bleser yn y seiat," ebai, "nas gallaf gael yn unlle arall." Pan yn fachgen unarbymtheg oed, clywodd Mynyddog yn canu, a hoffodd ef yn fawr. Darllennodd ganeuon cyntaf Ceiriog, ac ni welodd ddim ynddynt ; er hynny yr oedd yn hoff o symlder gonest a naws delynegol Burns. Edmygai Carlyle, ond nid oedd yn ei hoffi; fel rhyw ddelw farmor arw fawreddog yr ystyriai ef. Ni welodd yr hoffder at orthrwm digydymdeimlad, a'r rhagrith, sydd yn yr ysgrifennydd hwn; yr oedd yn rhy ieuanc. Darllennai draethodau Macaulay drosodd a throsodd, a chyfieithiodd y traethawd ar Bunyan. Swynid ei feddwl gan Shakespeare, yn enwedig gan y cymeriadau pwysicaf,—Macbeth, Lear, Othello. Ond tybiai fod un bardd mwy na Shakespeare, a hwnnw oedd Milton. Yr oedd ei edmygedd o Milton yn ymylu ar addoliad. Rhoddodd ddeuswllt unwaith am Lives of the Poets Johnson; a beth a gafodd am ei arian drud ond ymosodiad rhagfarnllyd yr hen ddoethawr cibddall ar ei hoff fardd. Cred frwdfrydig Milton mewn rhinwedd, ac yn nhragwyddol anibyniaeth y meddwl pur, oedd yn apelio ato,—

"Virtue may be assailed, but never hurt;
Surprised by unjust force, but not enthralled;
Yea, even that which mischief meant most harm
Shall, in the happy trial, prove most glory;
But evil on itself shall back recoil,
And mix no more with goodness."

Ond daeth swn cloch y llan i dorri ar ei fyfyrdod. Collodd ei dad, ac yr oedd gofal ei fam a'i frawd a'i ddwy chwaer fach arno ef. Bu ei fam farw hefyd, a daeth pryder i chwerwi ei lafur. Nid ei ddyfodol ei hun yn unig oedd ei faich, ond bywyd ei anwyliaid amddifad.

Ond nid ymroddi i anobaith wnaeth y bachgen dewr. Dywed ei hanes yn danfon ei frawd Owen i ben rhiw'r Gorllwyn, fel yr oedd y ddau'n penderfynu amddiffyn eu dwy chwaer fach; ac yno, wedi gadael ei frawd, penderfynodd roddi ei fywyd i'w frawd a'i chwiorydd. Yr oedd y ffordd i goleg Bangor yn glir iddo, ond aberthodd hynny er eu mwyn hwy. Aeth yn is-athraw i Jasper House, Aberystwyth, am ychydig; ac oddiyno i Bourne College, Birmingham. Ei gynllun oedd ennill digon i gadw ei chwiorydd, a gweithio am ei radd yn Llundain ar yr un pryd. Yr oedd goleuni ar ei fywyd eto, a gwyddai am rai'n credu ynddo ac yn ei garu.

Yn Hydref, 1878, cafodd un o'r rhain newydd prudd oddiwrtho. Yr oedd y pryder a'r lludded wedi gwneyd eu hol arno. "A fedrwch gredu," gofynna, fod eich hen gyfaill yn barod yng ngafael y darfodedigaeth, ac nad yw'n debyg o fyw mwy na blwyddyn, feallai ddim mwy na chwe mis?" Dywedodd dau feddyg yr un ystori anobeithiol wrtho, gan ddweyd y byddai raid iddo roddi ei waith i fyny a mynd adre i farw. Yr oedd yn ymostyngar, "ond y mae'n arw gennyf fod yn rhaid i'm bywyd ddod i'r pen cyn i mi orffen fy nghynlluniau bychain dros fy mrawd a'm chwiorydd. Yr oeddynt hwy i fynd i'r ysgol i Ddolgellau, a'm brawd i barotoi at y weinidogaeth. Yr oeddwn wedi gyrru peth arian iddo, a siwt o ddillad. Wrth feddwl mor ddiamddiffyn fyddant hwy, yr wyf wedi wylo nes bron dorri fy nghalon. Nid wyf yn galaru am fy nhynged fy hun, y mae bywyd wedi colli ei swyn i mi. Y mae fel anialwch oer i mi, heb lwybr, heb gydymaith, heb flodeuyn; dim ond blynyddoedd blin o lafur a thrallod, yn ymestyn fel ionnau o dywod yn y diffaethwch, a marw anocheladwy y tu hwnt."

Cafodd gydymdeimlad serchog Cymry caredig Birmingham, ac yr oedd ganddo le dwfn yn serch pawb gyfarfyddasai. Yr oedd y plant, yr athrawon, a'r gweision yn cystadlu â'u gilydd i ddangos eu caredigrwydd tuag ato. Nid oedd dim yn fwy wrth ei fodd yntau na chael y plant i'w ystafell, i roddi gwledd o ddanteithion ac ystraeon iddynt. Yr oedd meddwl am ei chwiorydd wedi rhoddi gallu iddo ddeall calon plentyn. Ym Mirmingham yr ysgrifennoddY Ffordd i Baradwys."

Tawelodd ei feddwl. Cafodd ei galon serchog foddhad wrth weled a theimlo cariad y rhai a'i hamgylchynai. Ysgrifennai lythyrau, crynhoai ei serch at ei frawd a'i chwiorydd, yr oedd yr eneth honno'n ymberffeithio yn ei ddychymyg, canai ambell i gân leddf.

Nid peth hawdd oedd marw'n ugain oed. Daeth hiraeth angerddol am y Bermo, daeth awydd am fyw. "Ni bum ddiwrnod yn iach wedi gadael Llwyn Gloddaeth,"—os oedd trallod wedi ei wneyd yn afiach, oni fedrai gobaith ei wneyd yn iach? Edrychodd o gwmpas ei ystafell fechan, a gwelodd lyfrau,—cymdeithion mwyn,— ar y bwrdd a'r cadeiriau a'r llawr. Yr oedd y byd yn dlws eto, yr oedd gwaith iddo eto,—ni fedrai fynd adre i farw. Penderfynodd fynd i'r ysbyty yn Llundain. Ar ddiwrnod oer clir ym mis Tachwedd gadawodd ei ysgol, ac aeth i Chelsea. Ar y ffordd holodd rhyw hen foneddiges ei hanes, a rhoddodd hanner sofren yn ei law wrth ymadael. Golwg brudd gafodd ar yr ysbyty,— llu o bobl wan yn pesychu ac yn disgwyl eu tro i fynd at y meddyg. Daeth ei awydd am fyw'n gryfach. Penderfynodd groesi'r môr, fel cynifer, a gweithio weddill ei ddyddiau yno.

Ar y môr, cafodd hamdden, fel yr ehedydd yn y gwanwyn neu'r eos yn y nos, i dywallt ei deimlad mewn cân, "Ar y môr."

Yn ystod y fordaith gweithiai, myfyriai, breuddwydiai; ac er mor debyg oedd y môr ddydd ar ol dydd, gwnaeth ei awel hallt ac iach les mawr i iechyd yr alltud. Mawrth 29. 1879, yr oedd ei long y tu allan i Benrhyn Gobaith Da, ac ysgrifennodd ei lythyr, "At fy Nheulu."

Nid oedd ganddo gyfeillion ar y llong, ar yfed a bwyta yr oedd bryd ei gymdeithion. Mewn unigrwydd yr oedd, yn edrych dros y llong ar y tonnau a'r ser. Daeth adgofion plentyndod yn unigedd y môr,—am y bryniau a'r corsydd yn su môr y Bermo; a rhoddodd hwy mewn cân fydd byw yn hir, "At Owen."

Cyrhaeddodd Melbourne y seithfed o Ebrill, 1879, yn llonnach ac iachach nag y meiddiasai ddisgwyl bod. Cafodd gyfeillion caredig yno, hoffodd erddi y ddinas dlos, a dywedodd y meddyg y gallai fyw. Gwenai'r haul yn dlws ar goedydd gwyrddion; yr oedd bachgen a geneth, ar fin priodi, yn rhodio mewn dedwyddwch perffaith, adeg na ddaw ond unwaith mewn oes, a thaflodd eu hapusrwydd adlewyrch ar fywyd yr alltud unig. Cafodd le fel athraw gyda theulu o Wyddelod calon-gynnes, oedd yn byw ar fferm Mullagh, ger Harrow, Victoria; a buan iawn yr aeth ef a'r teulu i serch eu gilydd. Bu'n hapus iawn yno,—yn darlunio beth oedd eira i'r plant, yn eu dysgu, yn cyd-chwareu â hwy, yn breuddwydio am Lwyn Gloddaeth a'r Bermo, yn hela'r kangaroo a'r wningen, yn edrych ar y pren almon yn blodeuo. Weithiau daw hiraeth angerddol am Gymru ato. "O am anadlu'r awel oer iach fyddai'n dod dros y môr pan oedd yr haul newydd fachlud dros fynydd yr Eifl, yn lle'r poethwynt sydd wedi crwydro dros anialdiroedd tywod!" Diflannodd ei atal dweyd; yr oedd yn athraw profedig erbyn hyn, ac yn dyheu am ychwaneg o waith. A'r cariad cudd hwnnw,—troai fyd y darfodedigaeth yn nefoedd yn ei ddychymyg.

Ond syllodd i'r dyfnderoedd drachefn. Aeth ei feddyliau drachefn at y marw. Cofiodd ei dad,—gwelai ef yn berffaith. "A fy mam, O fy anwyl fam, mor wahanol, mor wahanol fuasai pe buaset yn fyw, a chyda dy fab gwael?" Bu dieithriaid mor garedig a chwaer a mam iddo hyd Hydref 23, 1885, pan orffwysodd ar y breichiau tragwyddol.

Llwyn Gloddaeth a gwrthrych ei gariad cudd oedd yn ei feddwl hyd y diwedd. Wrth ddarlunio'r cariad hwnnw, y mae yn ei gân weithiau adlais o awen Iddewig Heine,—

"Dyfnaf yr eigion man,
Glasaf ei donnau ban,
Tecaf ei arliw pan
Bella'i waelodion;
Felly arddengys lliw
Dulas ei llygaid gwiw
Ddyfnder serchiadau byw,
Ddyfnder ei chalon."

Nid yn ei ieuenctid yn unig y cafodd y cwmni hanner greodd ei ddychymyg ei hun,—

"Mae dy wedd fel gwyneb angel
Yn ymwthio ger fy llygaid.
Ac yn gwneyd i'm calon lamu
Eto unwaith, fel yn nyddiau
Ein plentyndod. O dy lygaid
Du a disglaer disgyn arnaf,
Megis awen dy brydferthwch,
Megis adladd y breuddwydion
A'r gobeithion a ymwëent
Gynt oddeutu twf dy swynion."


Ar derfyn y daith fer, ond blin a thymhestlog, cofia gymaint o'i feddwl gymerai Llwyn Gloddaeth a gwrthrych ei gariad cudd. Am danynt hwy yr hiraethai'n angerddol, drwyddynt hwy y gwelai'r pur a'r ysbrydol. Tybed, yn ymyl tragwyddoldeb, ei fod wedi bod o'r ddaear yn rhy ddaearol? Ac yna esgyn gweddi olaf yr enaid ieuanc cystuddiedig prydferth,—

"O fy Nuw, fy Nhad, fy nghyfaill,
Ti sy'n gwybod holl ddirgelion
Calon dyn a'i fawr ddiffygion,
Maddeu imi am anghofio
Serch dy ofal am dy blentyn
Drwg anufudd, derbyn angerdd
Fy ymroddiad i un arall
Fu i mi yn lle dwyfoldeb,
Megis pe i ti ei telid."

Y mae afon Mawddach eto'n aros, "fel harddwch mewn breuddwyd." Wrth ei dilyn hi y gwelais i'r môr gyntaf erioed. Lle rhyfedd oedd yr Abermaw i ddychymyg plentyn o'r mynyddoedd, gyda'i dywod, ei gregin a'u cyfrinion, ei greigiau rhamantus, a swn y môr. Arhosai y swn hwnnw yn fy nghlustiau, a thybiwn ei fod yn llawn o ryw gyfrinion, o ryw wybodaeth na ddeallwn ei hiaith. Dwyshaodd a dyfnhaodd fy meddyliau; yr oedd fel cylch o ddieithrwch, y swn dwfn hwnnw, o amgylch fy syniadau terfynedig, yn fy nhemtio'n barhaus i edrych ymhellach. Carwn swn yr aberoedd fel o'r blaen; ond, wedi clywed swn y môr, tybiwn fod trefn ar amrywiaeth eu miwsig. Teimlwn fod swn y môr a'i ofnau o'm cwmpas, fel tragwyddoldeb o gylch fy mywyd, yn derbyn pob swn arall ac yn rhoi ystyr iddo.

Yr oedd hyn cyn clywed am Robert Owen, a chyn darllen llinell o'i waith. Wedi dod i gydnabyddiaeth ag ef trwy rai o'i ganeuon, ac wedi ceisio deall ei fywyd, daeth yr Abermaw a swn y môr yn fwy i mi nag erioed. A chan feddwl i ereill ddal mwy o sylw ar brydferthwch rhyfedd afon Mawddach a'r Abermaw, gan feddwl am i eraill glustfeinio ar swn y môr, yr ysgrifennais yr hanes hwn.

Neges fawr bardd ydyw rhoddi ym mywyd dyn heddwch na feddai o'r blaen. Yn araf deg, y mae'r awen yn gwneyd heddwch rhwng Duw a dyn, rhwng dyn a dyn, rhwng dyn a natur. Y mynydd, yr anialwch, y môr, y dymhestl, y nos, bu y rhai hyn yn elynion ac yn ddychryn i ddyn. Ond y mae bardd, rhyw Wordsworth neu Islwyn, yn ein dwyn i'w heddwch o hyd. Y mae mawredd y mynyddoedd, ehangderau'r anialwch, swn y môr, godidowgrwydd y dymhestl, a thlysni gwylaidd y nos, y maent oll wedi colli eu dychryn i ni erbyn hyn, ac y mae cariad wedi bwrw allan ofn wasgai'n ingol ar eneidiau ein cyndadau.

Ymysg y beirdd cymwynasgar hyn rhaid rhoddi Robert Owen. Wrth ymhyfrydu yn swn y môr ei hun dysgodd ereill i wrando arno, a gadawodd fwy o heddwch yn y byd nag a gafodd.

Y mae ei ganeuon, lawer o honynt, yn anorffenedig. Pe cawsai fyw, y mae'n ddiameu y perffeithiasai lawer llinell; ond gwnaeth angau iddo eu gadael fel yr ysgrifenasai hwynt mewn llythyr neu ddyddlyfr. Heddwch iddo; caffed dragwyddoldeb i sylweddoli ei obeithion ffurfiwyd yn swn y môr.

Nodiadau

golygu