Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/John Freeman

Er Cof am Un Anwyl Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cwympiad y Dail


V.-ODDICARTREF.




JOHN FREEMAN.

BLWYDDYN gyfa bron ar ben
Er pan guddiwyd gwedd
Freeman lawen-fryd dan len
Oer y bedd!
Ond, er huno'r corff o glai,
Nid yw'r adgof fymryn llai
Effro, ym mynwesau'r rhai
Garai pan yma.


Hawdded gennyf gofio am
Dano yn ddeg oed,
Pan dros riniog ty ei fam
Gynta 'rioed
Y cychwynnodd efi'w daith
Hyd yr enbyd eigion maith,
Gyda'i ruddiau bach yn llaith
Gan ei ddagrau.

Eto, dan ei fynwes wan,
Chwydda gobaith am
Allu cymorth yn y man
Weddwdod ei fam,
Wedi dychwel oddi draw
Allu dodi yn ei llaw
Ffrwyth ei chwys, trwy deg a gwlaw,
Am hanner blwyddyn.

Pa ymroddiad mor ddi-hun
Ag ymroddiad John?
Bywyd o anghofio'i hun.
Ydoedd bywyd John;
Bychan oedd ei oleu'n wir,
Eto medrodd weld yn glir
Ym mha le gorweddai pur
Lwybr dyledswydd.

Nid mewn proffes nac mewn cred
'Roedd ei grefydd ef,
Ond mewn cyflawni ei ddyled
Gyda chalon gref;
Ac nid i ddweyd pa beth sydd iawn
'Roedd ei lywodraethol ddawn,
Ond i wneuthur hynny'n llawn
Ar bob adeg.


Fel y gweddai'n deg i ffydd
Ymarferol John,
Merthyr aeth ym more 'i ddydd
I'r ddyledswydd hon;
Angau'n ddistaw ato ddaeth,
Pan yn brysur wrth ei waith,
Ac o ganol gorchwyl aeth
I'w orffwysfa.

Eto, er ei farw cyn
Dwy ar hugain oed,
Ni bu yn y byd er hyn
Lwyrach oes erioed;
Megis pryddest ferr a thlos
Ar ymaberth, fu ei oes,
Megis seren yn y nos,
Nid i'w hun yn tw'nnu.

Cenedlaethau dirif sydd
Yn malurio dan
Gysegredig gysgod prudd
'Mynwent yr hen Lan;
Ond nid oes o fewn i'w thir,
Yn tristhau ei heddwch hir
Galon ddewrach na mwy pur
Nag oedd calon Freeman.

Dyro, Dduw, i minnau nerth,
Yn fy nghyfran i
'N uwch i ddringo llwybrau serth
Dy ewyllys di;
Bywyd a marwolaeth John
Fyddo'n wastad dan fy mron,
Nes diflannu'r ddaear hon
Fyth o'm golwg.

1878.


Nodiadau

golygu