Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Mary, anwyl Mary

Cusan Cyntaf Cariad Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Beth yw'r Gyfaredd


MARY, ANWYL MARY

MARY, anwyl Mary,
Mary, a wyt ti,
Tra 'rwy 'mhell, yn cofio
Weithia 'm danaf fi?
Wyt ti yn cysegru
Munud, ambell ddydd
I feddyliau serchog
Am dy gyfaill prudd?

Pan ar uchder mwyniant,
Feinwen deg dy lun,
Fyddi di 'n dymuno
Rhan o hono i un
Sydd yn gorfod teithio
Dyfnder gwaeau byd,
Heb un llewyrch cysur
I sirioli 'i bryd?

Pan ynghanol ffrindiau,
Yr ysgafna'th fron,
Pan ymdyrr dy nwyfiant
Mewn chwerthiniad llon,
Wyt ti weithiau 'n meddwl
Am y gwyneb llwyd
Unig, sydd a'i ddagrau
Beunydd iddo'n fwyd?

Pan wrth synfyfyrio
Rydd dy galon lam,
Gan ymdeimlad meddu
Cariad tyner fam?
Fuaist ti 'n tosturio
Wrth un nad oes mwy
Dad na mam i'w garu?
Huno er's talm maent hwy.


Hwyrach mai dy ateb
Fydd "Nac ydwyf ddim,"
Ac ni byddai hynny
Ond syndod bychan im;
Caru heb fy ngharu,
Cofio ffrindiau cu
Sydd yn fy anghofio—
Dyna 'm tynged i.

Eto credu 'r ydwyf
Nad yw'm calon i
'N curo'n gwbl ofer
Tuag atat ti,—
Fod yn gefn i'th eiriau
Mwynion, sylwedd serch,
Ac o dan dy wenau
Burdeb mynwes merch.

Mary, anwyl Mary,
Nid heb achos teg
'R ydwyf yn dy garu
'N fwy nag anian chweg,
Yn fwy na pherthynasau,
Brawd a chwiorydd mad,
Ac yn fwy nag adgof
Tyner fam a thad.

Nid dy gysylltiadau
Parchus yn y byd;
Nid dy olud teilwng
Sydd yn mynd a'm bryd,
Nid dy liw iforaidd,
Nid dy lendid gwedd,
Wnaeth i'm benderfynu
'Th garu hyd fy medd.


Ac nid swyn dy lygad,
Dy loew lygad du,
Yn unig sy'n dy wneuthur
I fy mron mor gu,
Nodau heb ddim ystyr
Ydyw rhain i gyd,
Rhywbeth arall dyfnach
Sy'n eu gwneyd mor ddrud.

Calon, ie, calon,
Dyna 'n unig rydd
Ystyr i brydferthwch
Fel yr haul i'r dydd;
Hebddi nid yw Helen
Er mor hardd, yn dlos;
Ac ofer cynnyg yn ei lle
Aur, na dysg, na moes.

Swyn dy galon dithau
Serch dy hoffus fron,
A'r tiriondeb chwardda
Yn dy wyneb llon,
D' allu i fod yn ddedwydd
Gan mor buraidd di,
A'th anghyffelybrwydd
Ymhob peth i mi,—

Hyn, a mwy, sy'n peri
Fod dy ddelw di
Bellach yn cartrefu
Yn fy nghalon i;
Nid dod yma wnaeth hi fel.
Y wennol ar ei thro,
Ond i nythu'n wastad
Fel aderyn to.


Er mai drwy afonydd
Mae fy ffordd i fynd,
Er y rhaid anghofio
Cariad llawer ffrynd;
Eto tra 'n fy mhabell
Trig y fywiol chwyth,
Gwyneb anwyl Mary Ann
Nid anghofiaf byth.

Ionawr, 1878.


Nodiadau

golygu