Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Mewn Unigedd
← O'r Dyfnder | Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr) gan Robert Owen (Bardd y Môr) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Hysbysebion → |
MYFYRDOD MEWN UNIGEDD.
YMA'N syllu ar y marwor
Poeth yn tw'llu ar yr aelwyd;
Yma f'hunan yn f' ystafell
Wag yn gwrandaw ar yr awel
Oer yn cwynfan wrth fynd heibio;
Yma megys yn cymuno
Ag ysbrydion y gorffennol,
A chysgodion y dyfodol,
Tra fy mynwes ar ymdorri
Gan ddirwasgiad ei theimladau,
Gan ei serch a chwilia'n ofer
Am ei gymar mewn bron arall―
Tra mae gorthrwm fy modolaeth
Arna'i 'n pwyso megis hunllef,
Ac yn gwasgu'm calon fwy-fwy
I'w hymddrylliad—O f'anwylyd,
Mae dy wedd fel gwyneb angel
Yn ymrithio ger fy llygaid,
Ac yn gwneyd i'm calon lamu
Eto unwaith, fel yn nyddiau
Ein plentyndod. O dy lygaid
Du a disglaer, disgyn arnaf
Megis awen dy brydferthwch,
Megis traswyn dy hawddgarwch,
Megis adladd y breuddwydion
A'r gobeithion a ymwëent
Gynt oddeutu twf dy swynion.
Mary, Mary, a wybuost
Ti erioed mor ddwfn fy nghariad
Tuag atat? Ac mor werthfawr
I fy enaid am flynyddau
A fuasai dim ond hanner
Gwên oddiar dy wyneb anwyl?
A wybuost ti fy ingoedd
Pan yn byw yn nhir anobaith,
Pan yn dlawd gan ddiffyg arian
Pan yn dlotach gan dy golli—
Er dy garu fyth yn ddyfnach,
Er dyheu am farw trosot
Neu am fyw ond i'th ddedwyddwch?
Nid oedd tlodi imi'n erchyll,
Nid oedd dwfn fy narostyngiad,
Ond fel i'm pellhau oddiwrthyt
Ti, fy eilun a'm trueni.
Anwylyd hoff, a wnei di gredu,
Cyn i'm calon beidio a churo,
Cyn i'w brau linynnau dorri,
Ac i'w sylwedd fynd i bydru
Is oer gwrlid y dywarchen.—
Wnei di gredu ddarfod iddi
Yn ei llawnder nerth dy garu
Uwch pob haeddiant ond y nefoedd,
A phob cariad ond a siomer?
Ac mai atat ti yn unig,
Ti uwchlaw pob peth daearol,
Atat ti uwchlaw ei Chrewr
Fyth y mynnai'm calon guro?
Pan ei gwaed yn araf rewi
Is edrychiad oerllyd angau,
Cred, O cred! neu ni bydd esmwyth
F'enaid noeth ym myd ysbrydion.
O'm gobeithion oll a siomwyd!
O'm cynlluniau a ddyryswyd!
O fy nhalent a ddifuddiwyd!
O fy mywyd a ddifethwyd!
Mor ddiamcan, mor ddi-ystyr,
Mor amherffaith, mor anwyfol!
Mor ddilawn o bob daioni!
Beth a ddygaf yn fy nwylaw
Pan o flaen fy Marnwr cyfiawn
Y daw angau i fy ngwysio—
Beth ond mil o wag fwriadau,
Ac o ddifiyg cyflawniadau,
Ac o garu megis gwallgof,
Un o bryfaid gwael y ddaear
Am flynyddau, ac yn ofer.
Ofy Nuw, fy nhad, fy nghyfaill,
Ti sy'n gwybod holl ddirgelion
Calon dyn a'i fawr ddiffygion,
Maddeu i mi am anghofio
Serch dy ofal am dy blentyn
Drwg anufudd, ac am geisio
Gosod yn dy deml sanctaidd
Eilun pridd; a derbyn gennyt
Megis aberth cymeradwy
Ar Dy allor, galon ysig
A chystuddiol, sydd yn dioddef
Beunydd boenau siomedigaeth
Fil mwy chwerw na marwolaeth.
Derbyn unig gariad einioes
Wedi ei groesi, derbyn angerdd
Fy ymroddiad i un arall
Fu i mi yn lle dwyfoldeb,
Megis pe i Ti y'i telid;
A chyfrifa, Dduw, yn ddigon
Cerydd arnaf orfod cefnu
Ar bob gobaith am ei meddu,
Ar anwyliaid gwlad fy nhadau,
Ar gysuron iechyd hoenus,
A mynd dros y môr i chwilio
Llannerch bedd ymhlith estroniaid—
O fy Nuw, 'RWYF WEDI DIODDEF!—
Dyro bellach im dangnefedd! Medi, 1879.