Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Rhagymadrodd

Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr) Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)

gan Robert Owen (Bardd y Môr)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Cynhwysiad


Rhagymadrodd.

AMRYW flynyddoedd yn ol, tra'n crwydro mewn gwlad dros y môr, daeth caneuon Robert Owen i'm sylw. Swynwyd fi ar unwaith gan brudd-der y bywyd a chan felodedd y gân. Nid oedd ef, mae'n debyg, yn meddwl wrth eu canu y cyhoeddid hwy byth. Canodd hwy fel y cân aderyn, i roddi ffrwd i'w deimlad.

Cyhoeddais rai ohonynt. Byth er hynny y mae llawer o bobl o wahanol ddulliau o feddwl, a rhai y mae gennyf ffydd gref yn eu barn, wedi deisyfu arnaf gasglu gwaith Robert Owen, a'i gyhoeddi 'n gyfrol. Wele 'r gyfrol. Hyd y gwn i, cynhwysa bob prydyddiaeth gyfansoddodd Robert Owen.

Nid yw enw Robert Owen yn yr un geiriadur bywgraffyddol na hanes llenyddiaeth eto. Oherwydd hynny rhoddir hanes ei fywyd yn gyflawnach nag y rhoddwyd hanes yr un bardd arall yn y gyfres hon.

Codwyd y caneuon i gyd o un o dair llawysgrif, —llawysgrif Robert Owen ei hun, llawysgrif "Mary" ei freuddwydion, a llawysgrif Owen ei frawd. Y mae'r brawd ieuengaf hefyd, erbyn hyn, wedi huno; ar ol gyrfa ferr, ond hyawdl, fel gweinidog yr efengyl.

I Mrs. M. Vaughan Humphreys, Brogyntyn, Abermaw, yn unig o rai sy'n fyw, y mae'n ddyledus i mi dalu diolch. Onibai am dani hi, ni fuasai Cymru wedi adnabod awen Robert Owen. Bu ei chynhorthwy yn barod a charedig, er pob cost a thrafferth.

Er fy mod wedi cael y fraint o adnabod llawer o'i berthynasau o'm hieuenctyd, ni welais Robert Owen erioed. Ond gallaf newid un o'i ganeuon, a'i dweyd fel fy mhrofiad fy hun, ac hefyd mi gredaf fel profiad Cymru,—

"Er diffodd o'i fywyd cyn imi erioed
A'm llygad o gnawd ei weled.
A thewi ohono cyn imi erioed
A'm clust o gnawd ei glywed,—
'Rwyf wedi ei weled, ac ar fy nghlust
Ei lais mwyn a dwys fu'n disgyn,
Ym myd fy nychymyg mae eto n fyw,
Ac eto'n ddiboen, megis plentyn."

OWEN M. EDWARDS.

Llanuwchllyn,
Ebrill 2, 1904.


Nodiadau

golygu