Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr)/Y Gwanwyn i'r Amddifad
← Cloch y Llan | Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr) gan Robert Owen (Bardd y Môr) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
O fy Nhad → |
Y GWANWYN I'R AMDDIFAD.
Y FLWYDDYN yn ei rhod,
Unwaith yn chwaneg,
Sy'n ddistaw wedi dod,
A'r gwanwyn gwiwdeg;
Ias bywyd dreiddia'n ol
I fynydd, pant, a dôl,
Ac anian trwy ei chôl,
Eang sy'n twymo.
Arllwysa meib y llwyn
Eu serch ganiadau,
A brefiad per yr wyn
Sydd hyd y bryniau;
Anadla'r briaill mwyn
Hoen bywyd ar bob twyn,
Pob cyfareddol swyn
Natur sy'n deffro.
Dyn hefyd, er ei flin
A'i aml gyni,
Sydd yntau fel yr hin,
Yn ymsirioli,
Disgleiria yn fwy llon
Dân gobaith tan ei fron,
Rhag iddo gan fynych don
Siomiant, ddiffoddi.
Ond beth yw hyn i MI?
Beth yw dychweliad
Y gwanwyn yn ei fri
I'r llanc amddifad?
Er dod o anadl Duw
A chwythu ar bopeth byw,
Ni chyrraedd hyd at wyw
Wedd fy rhieni.
Per fyddai swn y gwlaw
Ar frigau'r coedydd,
Yn gwasgar ar bob llaw
Ei ddwys lawenydd;
A gwenau heulwen ha'
Pan doddent ymaith ia
F'anobaith enaid, tra
'N fachgen pymthengmlwydd.
Ond bellach nid yw swn
Y gwlaw, na thegwch
Yr haul, ond imi'n dwyn
Prudd feddylgarwch,—
Pob diwrnod, cyn glashau
Y gwellt uwch man y mae
Fy rhiaint, sy'n tristau
Eu hir dawelwch.
O anian gynt mor fad,
Paham ymnewid
Mor drylwyr, serch i'm tad
Fynd tan y gweryd?
Ai'th wyneb llariaidd di
Sydd bruddach nag y bu,
Ai ynte'm golwg i
D'w'llwyd gan ofid?
Tithau, O fywyd, pam
Y trodd yn dristyd
Dy harddwch, pan aeth mam
O gyrraedd blinfyd?
Pam nad yw fyth mor dlos
Ragolwg meithder oes,
Enwogrwydd, dysg a moes—
Bydol ddedwyddyd?
A thithau, fedd, paham
Wrth gofio'th ddelwedd,
Fel cynt, gan ofn, na lam
Fy nghalon dristwedd?
Ai, feddrod, am mai tan
Dy wg mae gorffwys fan
Saith brawd a chwaer a mam
A thad tirionwedd?
'Dyw anian, bywyd, bedd,
Ond bys-fynegu
Y noddfa, lle mae hedd
Fyth yn teyrnasu;
Ninnau gawn yno i gyd
Nol gorffen blinwaith byd
Ber gymdeithasu 'nghyd
Mwy heb ymrannu.