Gwaith S.R./Y Teulu Dedwydd
← Cynhwysiad | Gwaith S.R. gan Samuel Roberts (S.R.) |
Marwolaeth y Cristion → |
BWTHYN YM MALDWYN
CANIADAU BYRION.
—————————————
Y TEULU DEDWYDD
Wrth ddringo bryn ar fore teg,
Wrth hedeg o'm golygon,
Gan syllu ar afonig hardd,
A gardd, a dolydd gwyrddion;
Mewn hyfryd fan ar ael y bryn
Mi welwn fwthyn bychan,
A'i furiau yn galchedig wyn
Bob mymryn, mewn ac allan.
Canghennau tewfrig gwinwydd îr
Addurnant fur y talcen,
A than y tô yn ddof a gwâr
Y trydar y golomen;
O flaen y drws, o fewn yr ardd,
Tardd lili a briallu;
Ac O mor hyfryd ar y ffridd
Mae blodau'r dydd yn tyfu.
Wrth glawdd yr ardd, yn ngwyneb haul,
Ac hyd y dail, mae'r gwenyn
Yn diwyd gasglu mêl bob awr
I'w diliau cyn daw'r dryc-hin;
Ar bwys y ty, mewn diogel bant,
Mae lle i'r plant i chwareu;
Ac yno'n fwyn, ar fin y nant,
Y trefnant eu teganau.
O fewn y tŷ mae'r dodrefn oll,
Heb goll, yn lân a threfnus;
A lle i eistedd wrth y tân
Ar aelwyd lân gysurus;
Y Teulu Dedwydd yno sy
Yn byw yn gu ac anwyl;
A phob un hefyd sydd o hyd
Yn ddiwyd wrth ei orchwyl.
Ychwaith ni chlywir yn eu plith
Neb byth yn trin na grwgnach,
Ond pawb yn gwneyd eu goraf i
Felysu y gyfeillach;
Mae golwg iachus, liwus, lon,
A thirion ar bob wyneb;
A than bob bron y gorffwys hedd,
Tagnefedd, a sirioldeb.
Pan ddel yr hwyr, ac iddynt gwrdd,
Oddeutu'r bwrdd eisteddant;
Ac am y bwyd, o hyd nes daw,
Yn ddistaw y disgwyliant;
Pan ddyd y fam y bwyd gerbron
Gwnant gyson geisio bendith;
Ac wedi'n, pan eu porthi gânt,
Diolchant yn ddiragrith.
Ar air y tad, â siriol wên,
A'r mab i ddarllen pennod;
Ac yna oll, mewn pwysig fodd,
Codant i adrodd adnod;
Yr emyn hwyrol yn y fan
Roir allan gan yr i'angaf,
Ac unant oll i seinio mawl
Cysonawl i'r Goruchaf.
Y tad a dd'wêd ddwys air mewn pryd
Am bethau byd tragwyddol;
Y fam rydd ei Hamen, a'r plant
Wrandawant yn ddifrifol;
Wrth orsedd gras, o flaen yr Ior,
Y bychan gôr gyd-blygant;
A'u holl achosion, o bob rhyw,
I ofal Duw gyflwynant.
Am ras a hedd, a nawdd y Nef,
Y codant lef ddiffuant;
A Duw a ystyr yn gu-fwyn
Eu cwyn a'u holl ddymuniant;
Ac O! na fedrwn adrodd fel
Mae'r tawel Deulu Dedwydd,
Mewn gwylaidd barch, ond nid yn brudd,
Yn cadw dydd yr Arglwydd.
Yn fore iawn, mewn nefol hwyl
I gadw'r wyl cyfodant;
Ac wedi ceisio Duw a'i wedd,
I'w dŷ mewn hedd cydgerddant;
Fe'u gwelir gyda'r fintai gu
Sy'n cyrchu i'r addoliad;
Ac yn eu côr, ym mhabell Ion,
Yn gyson ceir hwy'n wastad.
Ceir clywed mwynber leisiau'r plant
Mewn moliant yn cyfodi,
A'u gweld yn ddifrifddwys o hyd,
Ac astud, wrth addoli;
Ni wag ymrodiant i un man
I hepian na gloddesta;
Ond bydd eu calon gyda gwaith
A chyfraith y Gorucha'.
Pob un, â'i Feibl yn ei law,
I'r ysgol ddaw'n amserol;
Ac yn eu cylch fe'u ceir bob pryd
Yn ddiwyd a defnyddiol;
Pan ddeuant adre'r nos yn nghyd
I gyd, a'r drws yn nghauad,
Dechreuant ddweyd yn bwysig rydd
Am waith y dydd, a'u profiad.
Mor fwyn eu cân! mor ddwys pob gair,
Ac O mor daer eu gweddi!
A Duw yn siriol wenu ar
Y duwiol hawddgar deulu;
Gwir nad oes ganddynt ddodrefn aur,
Na disglaer lestri arian,
Na llawrlen ddrudfawr yn y tŷ,
Na gwely-lenni sidan.
Ni feddant seigiau mawr eu rhin,
Na melus win na moethau,
Na thuedd byth i flysio'n ffôl
Frenhinol arlwyadau;
Ond mae rhinweddol win a llaeth
Yr iechydwriaeth ganddynt;
A Christ yn Frawd, a Duw yn Dad
A thirion Geidwad iddynt.
Fe'u ceidw'n ddiogel rhag pob braw,
Ac yn Ei law fe'u harwain,
Nes dwyn pob un i ben ei daith
Trwy hirfaith dir wylofain;
Pob un a gyrraedd yn ei dro
Hyfrydawl fro paradwys;
Ac yno'n dawel berffaith rydd
Y cânt dragwyddol orffwys.