Gwaith Sion Cent/Cywydd Brud
← Dewis Bethau Sion Cent | Gwaith Sion Cent gan Siôn Cent golygwyd gan Thomas Matthews |
Yn Ymofyn yr Hen Wyr Gynt → |
II.
BRUD.
OCH Gymru fynych gamfraint!
Och wyr o'r dynged uwch haint!
Och! Faint fu'r wrsib[1] uwchfod
Yn nechreu claer dyddiau clod?
A heddyw y diweddir
Ar drai, heb na thai na thir?
Rhyfedd ynnof rhag gofid
Na'm lladd, meddyliaw o'm llid.
Ag eto enwog ytwyf,
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.
Penna nasiwn o gwmpas,
Erioed oeddem ni o râs.
Cyntaf arglwydd arwydd-wynt,
Fu o honom, heb gam gynt,
Siaffeth fab Noë, wr hoffir,
Fab Lameg oedd, deg i dir.
Am hynny lle'r ymhonwyf,
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.
Tair caer pennaf fedd Twrci,
Gynt heb gam a wnaethom ni,
Caer Droea, lle da lliw dydd,
A Chaer Rufain a'i chrefydd;
Ninnau fuom yno enyd,
Yn hwy na thair oes o'n hyd;
Gweinion ydym mewn gwiw-nwyf
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.
Daeth holl goeg-ddoeth ry-ddadl,
I Gaer Droea, gwyr drwadl;
Yno eu llas gan y llu
O ddwyblaid wedi ddyblu;
Deunaw canmil o filoedd,
Ag wyth canmil eiddil oedd.
Gwiwdeg, a chanmil gwedi,
A phedwar canmil, hil hy;
Deng mlynedd anghyfeddir,
A chwe mis bu'r sis hir.
Draws dadl egwan-drist ydwyf,
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.
Penna llwyth am eu gwythi,
Llwyth Dardan, meddan i ni;
O'r hwn y doe yr hen dôn,
Oreu Dduw a'r Iddewon;
O'r hwn y down ninnau'r rhawg
O dad i dad odidawg;
Sesar ein car di-areb
A wnaeth yr hyn ni wnaeth neb;
Aurglod ef a wnaeth arglwydd
Omnes terrae Romae rwydd;
Poen dolur pan feddyliwyf,
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.
Yr ynys hon oreu i ny-ni
'Roisai Crist o ras ag ynni;
Gyrrodd angel gwehelyth
At Frytus ab Sylfus syth,
Pan gysgodd Brytus esgud
Ar groen yr ewig oer gryd;
"Dos i'r eigion dwys rwygad,
A'th hil, a'th epil, a'th hâd."
Gwir o gweryl gŵr gwiwrwyf,
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.
Nid ŷm un fonedd heddyw
Ag Alan, hil gweision gwiw;
Nag un nasiwn, gwyddwn gur,
A Hengist na Hors hensur;
Nag un reolaeth draeth dri,
Myn Duw, a gwyr hoc mundi;
Na hil Bola oerfa oer-fost,
O For Tawch[2] a wna ferw tost;
Galon waeth-waeth y gwelwyf,
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.
Well-well, mae Cymru wylliaid,
Ddydd rag ei gilydd a gaid;
Gwelwyf waeth—waeth i'm galon,
Waeth—waeth, fil wych-waeth a fôn.
Nes—nes mae cerdd Daliesin
Wrawl ei ffawd ar ael ffin;
Mair o'r nef, nes-nes mae'r nôd,
Difai mae'r gwaith yn dyfod;
Gwae ddwyblaid Loegr, gwiw ddeublwyf,
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.
Un wedd im, Gymru anwyl,
A phum oes yn aros hwyl;
Yn uffern gynt o'n affaith
Limbo Patrum gwn y gwaith;
Disgwyl beunydd dydd di-cer,
Gweled goleued gwiw loer;
A chael yn rydd wlad i'th wr,
Draw y gwyr y daroganwr
Awr, pa awr, Gymru fawr, fu—
Disgwyl yr ym a dysgu—
Disgwyl ydd wyf y gwelwyf—
Gobeithiaw, addaw, ydd wyf.