Gwaith Sion Cent/I'r Iesu
← Iesu | Gwaith Sion Cent gan Siôn Cent golygwyd gan Thomas Matthews |
Enw Duw → |
XIX.
I'R IESU.
Y GROG aur droedog drydoll,
Arfau crwys dear Crist oll,
Y sy draw yn ystrwaid,
Ystor uwch ben côr y caid,
Ar oror, wiw yr arwydd,
Hyd yno af, Hodni swydd.
Rhoed ar groes o wydd Moesen,
Rwng Desmas a Dismas hen,
A'i fron gron farw'n i gred
Enwog wr yn agored
I roi i galon yn rhydd
I'r byd ffordd y mae'r bedydd.
Talodd ddeugain cant weli,
Drwy swm, a naw, drosom ni;
A'i ddwyfraich a'i ddiofryd,
Dros i gorff ar draws i gyd.
Yn erbyn o, ddyn a ddel
I nef ato, 'n i fetel,
A thri pump cadarn arnaw,
A thrigain, gweli drain draw.
Ni thale'r byd, gwryd gur,
Byth i ddelw bwyth i ddolur.
Pedwar defnydd, gwydd goddef,
Y grawys oedd i grwys ef,—
Sef salma[1] o palma pur,
Sedrws, Sipresws prysur.
Ar y groes, pumoes y 'pêl,
Y dringawdd pedwar angel,—
Marc yw'r llew mawr cur llid,
Lucas mal ych a locid,
Mathias angel melyn
O ddeall Duw ar ddull dyn,
Delw Ievan ochlan uwchlaw
TWR OWEN GLYNDWR.
Ystafell Sion Cent ar yr ail lawr.
Yw'r eryr wedi' oreuraw,
Dan arwydd, dawn oreu-ryw,
Duw mawr mae, ucha' dim yw.
Dodaf am danaf rhag diawl,
Dy arwydd, fab Duw wrawl.
Yn enw'r Tad a'r Mab rhad rhwydd,
A'r Ysbryd wryd arwydd.
Ag yn henw yn gain hynaif,
Y saith archangel a saif,
Ger bron Crist, gwir brennau praff,—
Gabriel gorcheidwad gwiwbraff;
Mihangel dawel dywydd,
Moliawdwr ymddiffynawdr ffydd;
Raffel da, angel dengyn,
I Dduw y dwg weddi dyn;
Uriel tan arail y tân;
Sairiel ar ddyfr glas eirian;
A Riniel yn rhyw ennyd
Ar bob anifail o'r byd;
Panagiel, gwyry angel gwâr
Ar ffrwythau diau daear.
Gwisgaf i'm cylch, rhag asgen
Croes Duw a Mair, Crist, amen.
Arfer o grwys arfau'r grog
A orfydd ar bob arfog.
Sioseff gyntaf a gafas,
O blwyf Armathia blas,
Enwau y geiriau garwn;
Ar ucha lled erchyll hwn.
Dwyn Siosus da iawn Sioseb,
Adonai nis edwyn neb;
Agios sgirios, ias gur,
Alpha agla o eglur.
Unias ein dinas yw d'enw;
Eleison nid yw lysenw.
Tydi afrwydd to difreg,
Tragramaton, tri grym teg;
Saith rhif enwau ni sathrwn,
Iesu, wr hael, sy ar hwn;
Cyfrwys a wyr i cyfrif,
Câf 'n y rhol cyfenwau rhif;
Irwn, di-rydwn i draed,
O rinwedd i wirionwaed;
Cymunaf, nid cam anedd,
O'r byd cyn myned i'r bedd,
I'w Dad enaid Duw dinam,
A'r cnawd i fedrawd i fam.
Nodiadau
golygu- ↑ Salma, baich, yn enwedig pwn anifail; ceir y gair yn y Ffrancaeg yn y ffurf somme. Tybid yn y canol oesoedd fod breichiau'r groes o balmwydd (palma), ei throed o gedrwydd (cedrus), ei chorff o gypreswydd (cupressus), a'r ystyllen o olewydd (oliva). Ceir y pedwar yng nghywydd Iolo Goch. Am "sipresws prysur" gwel yr Eirfa ar y diwedd.