Angeu Gwaith Sion Cent

gan Siôn Cent


golygwyd gan Thomas Matthews
Y Farn

XXXVI.

Y BEDD.

OCH, pam y gwnai ddau ddirmyg,
Ddiddawn ddyn, i Dduw yn ddig!
Edrych yn fynych, f'einioes,
Ar Grist, a'i gorff ar y groes,
A'i fron, a'i galon i gyd,
A'i wiw-dlws gorff yn waedlyd:
A'i draed gwrdd mewn diriaid gur,
A'i ddwylo yn llawn o ddolur!
O'th odlau, ddyn a'th adlam,
O'th gâs, y cafas y cam.

O'th rwyf, dithau, a'th ryfig,
A wnai Dduw beunydd yn ddig.
Diffrwyth oedd, fel dwy Affrig,
I ddyn i dda, a'i Duw yn ddig!
Anair i ddyn na ro i dda,
A byrred fydd i bara.
Mae Salmon nid oedd annoeth
O ddysg? Ple mae Sibli ddoeth?
Mae tal a gwallt Absalon
Dêg o bryd? Dwg ef ger bron.
Mae Samson, galon y gwŷr
Nerthol? Ple mae nai Arthur?
Oes a edwyn, syw ydych,
Bridd y rhain rhagor pridd y rhych?
Afraid i lawen hyfryd
Ryfyg er benthyg y byd.
Ni phery'r byd hoff ir-wych,
Mwy na'i drem ym min y drych;
A fynno nef i'w enaid,
O'i feiau byth ef a baid.
Dir i'r bobl, dewr yw'r bwbach,
Ryngu bodd i'r Angau bach.
A faco'r ddaear aren
A'i llwnc oll, fel afanc hen:
Nid oes nerth ar y berthyn,
Onid Duw, i enaid dyn.
Iesu wrth gyfraith Moesen,
Awr bryd, a'n prynodd ar bren.
Pruddlawn ydyw'r corff priddlyd,
Pregeth oer o beth yw'r byd.
Hoew-ddyn aur heddyw yn arwain,
Caeau, modrwyau, a main;
Gostwng gwan yn i eiste
Dan i law, a dwyn i le:
Cynnull arian dau cannyn,
Cyrchu'r da, carcharu'r dyn;

Ni roddai'n ddiau ddwy-fuw
O'i dda ddoe, er ddae o Dduw.
Heddyw mewn pridd yn ddiddim,
O'i dda nid oes ganddo ddim!
A'i ddewr-gorff i'r ddaear-gist,
A'i drwyn yn rhy laswyn drist;
A'i bais o goed, hoed hydryn;
A'i grys heb lewys, heb lun;
A'i ddir hynt i'r ddaear hon
A'i ddeu-fraich ar i ddwy-fron;
A'i wraig o'r winllan adail,
Gywir iawn, yn gwra'r ail;
A'i neuadd fawr-falch, galchbryd,
Yn arch bach, yn eiriach byd;
A da'r wlad yn i adaw
I lawr, heb ddim yn i law;
Llyffant hyll, tywyll yw'r tŷ,
Os gŵyl fydd i was gwely;
Yna ni bydd i'r enaid
Na phlas, nac urddas, na phlaid.

Am y trosedd a wneddyw
A'r camoedd tra f'oedd yn fyw,
Rhy hwyr fydd yn y dydd du,
Od wyf ŵr, i 'difaru!
Astud fod ystâd fydawl
A ddwg lawer dyn i ddiawl.
Medd Sant Bernard gredadyn,
"Ni fyn Duw fod nef ond un"
Dyn na chymmered er da,
Nwyf aml, i nef yma;
Rhag colli, medd meistri mawl,
Drwy gudd, y nef dragwyddawl;
Dig yw'r cedyrn clo-chwyrn clyd,
Dig iawn nas dioganwyd:

YR UTGYRN OLAF.


Dig yw'r gwŷr llên, a'r menaich,
Dygn fyth dwyn digon o faich
Truth noeth traethu a wnaethost,
Na chânt hwy, gwn achwyn tost,
Groen du ffol, graen yw dy ffèd,
Gaerydd nef yn agored!
Meddir, o bydd cywir cant,
I minnau, hwy a'i mynnant;
Arian glew ar y glywais,
Orddwy drud ar Dduw o drais,
Pob un heb na llun na lles,
Ofer iawn, a'i feiriones,
I weddi miloedd wiwdda,
"I wlad nef," medd ef, "ydd â'!"
Minnau o'm dysg a'm hanian,
A thrwy liw'r Ysgrythyr Lân,
Mi a gâf wiraf gwarant,
O'i gwrs ef y gorau sant,
Na lewas gwiw ras gwerin
Dewi ar i weddi win;
Na gwisgo crys gwiw ysgawn,
Na phais, ond yr un bais rawn:
Na llanw, yn ddisalw'i sain.
Y pot; na rhuthro putain.
Gwn gyfraith euriaith, arab,
V Tad, eiriau mâd, a'r Mab.
I nifer hwy nef ar hynt
Am i gael ymogelynt!
Astud wŷf, ystod ofwy,
Ystyru twyll, ystyriant hwy,
Nad o wleddau gau gymen,
Ydd air i nef ddïoer nen!
Rhyfalch ydynt yn rhwyfaw
Rhyfig, Duw yn ddig a ddaw;
Pan ddel Dydd y Farn arnam,
A chosp dros bechod a cham.

Am yr hawl a'r mawr hwyliaw,
Y Farn ddig ar frys a ddaw.
Pob plaid, ddyfynnir, pob blin
Gar ei fron, y gwir Frenin.
Ni ddichon brawd, gŵr tlawd-gall,
Na'r llaw ymddiried i'r llall.
Er pwyth byd, er peth bydawl,
Er da ydd â'r dyn i ddiawl!
Profais i megis prifardd,
Pawb o'r byd wr hyfryd hardd;
Profais yn rhwydd arglwyddi,
Tlawd, cyfoethog, rhywiog ri;B
Nid cywir gradd o naddyn,
Nid oes iawn gyfaill, ond Un!
Er neb ni thorres Iesu
I lân gyfeillach â'i lu.


Nodiadau

golygu