Gwaith Thomas Griffiths/Rwy'n cael arwyddion amlwg

Efengyl Crist sy'n galw Gwaith Thomas Griffiths

gan Thomas Griffiths, Meifod

Yma 'rwyf mewn anial maith

III.

Rwy'n cael arwyddion amlwg
Mai 'madaw wnaf cyn hir,
Er cystal yw eich cwmni
Gan natur yma'n wir;
A'ch gadael chwithau yma
I gael y fraint yn hwy
O ymladd gyda'r fyddin
Dros lwyddiant marwol glwy.


Mi welais yn y boreu
I roddi arno 'mhwys,
Yngwyneb bod dan ddedfryd
Ac argyhoeddiad dwys,
Un cadarn a digonol,
Un addas imi'n wir,—
Ennillodd ef fy nghalon
I orphwys arno'n glir.

Mi gysgaf hun yn dawel
Ar fyr yn ngwaelod bedd,
I ddisgwyl am fy Marnwr
Ag udgorn i roi llef;
Ac yna mi gyfodaf
I gwrdd a'm Harglwydd mawr,
Yn dyfod ar y cwmmwi
I farnu'r dyrfa fawr.

Bydd yno'r fath ryfeddod
Na welodd dyn erioed,
Er pan y crewyd Adda
I'r olaf ddyn gaiff fod;
Y dyrfa yn gwahanu,
Pob un i'w le ei hun,
A ninnau yn cael gwledda
Yn nghwmni Mab y dyn.