Gwaith ap Vychan/Bedd Gwr Duw

Etholedigaeth Gwaith ap Vychan

gan Robert Thomas (Ap Vychan)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Pregethwr Aflwyddiannus


BEDD GWR DUW.[1]

𝕭OED heddwch i lwch anwyl, was—yr Ion,
Gŵr o rym ac urddas,
A dyn doeth, coeth, cyweithas;
Fu nemawr un mwy ei ras.

Wrth ei swydd bu lawer blwyddyn—ar lym
Oer le Porth y Penrhyn,
Heb un twrf, hyd ben terfyn
Ei fywyd, yn ddiwyd ddyn.

O'r gwaith yr ai i bregethu—angau
Ac efengyl Iesu:
Cynnes y gwnai amcanu;
Ond cais dan anfantais fu.

Dirwystr fel Dirwestwr fu,—a selog
Am foesoli Cymru;
Trwy weithiwr sobr yn traethu,
Rheol ddaeth ar Hirael ddu.

Ffyddlon ar finion y Fenai,—a'r môr,
Oedd i'r mân addoldai;
Yr hyn oll i'r rhai'n allai,
O galon yn union wnai.

Yn ei dref gartref, ar g'oedd,—cyfaill pur,
Henadur in' ydoedd:
Cennad fu'n dysgu cannoedd,
Astud iawn yn wastad oedd.

Sain ei ddawn yn Seion ddinas—glywid,
Gloewai chwaeth cymdeithas;

Am lith lefn ar drefn rhad ras
Parod oedd, bob pryd addas.

A thoraeth o'r ysgrythyrau—dwyfol,
Difeth ddifyniadau,
Arllwysai hwn, er lleshau
Ei wledig gydaelodau.

Bu'n dod i'r cyfarfodydd—eglwysig,
Esgeuluso crefydd
Ni wnai, daliai bwys y dydd,
Ias ei boen, a'i wres beunydd.

Yn nhy Dduw daeth hwn i ddiwedd—ei oes,
Iesu a'i drugaredd
Fu ei olaf lawnaf wledd,—yna ai,
Diangai, nofiai i dangnefedd.

Hir y cofir y Cymro cyfiawn,—dir,
Bu'n was "da a ffyddlawn:"
Efe oedd wr ufudd iawn,—hyd ei fedd,
Idd y gwirionedd—ddyn hawddgar, uniawn.
"
Bedd Gwr Duw!" Bydd agoriad— ar ei ddôr,
Fe ddaw'n brawd digymar
Trwy ei Dduw eto o'r ddaear—uwchlaw
Ing ac wylaw, angan, a galar.


Nodiadau golygu

  1. Er cof am John Parry, Hirael, Bangor, fu farw Rhag. 4, 1876.