Gwaith ap Vychan/Cywydd y Trwnc Mawr

Rhys Thomas Gwaith ap Vychan

gan Robert Thomas (Ap Vychan)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Yr Hen Dailiwr


CYWYDD Y TRWNC MAWR.[1]

Sef hen gychwr o'r Abermaw, a elwid yn gyfredin Sionyn Rhobert Wiliam, B.A. 1826.

𝕮YWYDD y Trwnc, coeg-bwnc cam,
Alias Sion Rhobert Wiliam.

Dyn anuwiol, ffol, di-ffydd
Crafanc yn gwawdio crefydd;
Mulfran o lafan di-les,
Bastard mul, erthyl arthes;
Sawdl cryd enbyd yw,
Aden a chamog ydyw;
Llew chwyrn o hyll awch ornaidd,
O naws flwng, a'r nesa i flaidd;
Anifel o gamel neu gi,
Serwb cam, gwargam gorgi:
Coegyn brych, eldrych aeldrwm,
A bastardyn crencyn erwin;
Yn ei safn holl-gafn hyll-gerth,
Myn dyn, mae colyn certh;
Rhegi a phob gwegi gwaeth,
Bytheirio ei boeth araeth.

Dychmygaf gwelaf ei gilwg,
Garw ei drem, fel y gŵr drwg:

Yr un ben a gordd pannwr,
Yr un d'n a deryn dŵr:
Yr un aeliau, a'r un olwg,
A'r un drem, a'r gwr drwg.

Mae gan y blaidd ysgoewedd sgil
O ymarfer a bwyta morfil;
Mawr felwch y mor filod,
Lluniwch gawl, llenwch ei god;
I gael digon i'r hen deigar,
O floneg, a thrieg, a tharr.

Ciw diawl o'r uffermawl ffwrnes,
Cythraul mnd ar enbyd wres:
Ai cythraul o'r ufel yw?
'N ddilediaith y diawl ydyw;
Ei achan sydd, garw yw son,
Yn ogof uffern eigion:
Holl ddiawlied afrifed y fro
Anoddyn sy'n perthyn iddo;
Carnau y cythraul corniog
Ydyw anfad dad y dog:
A ffibles o ddiawles ddall
Yw ei engir fam anghall;
Lucifer orsyber sydd
Yn bywdwr o dad bedydd.
I'r ciw, aflan, llydan, llaith,
Bwrs uffern bras ei effaith;
Hen salter claear di-glod
A llaw aswy'r lle isod;
A'i napsac a'i bae a'i bwn
Anenwog ddaeth o annwn,

Rhaid yw dal a rhwydo'r dyn
A'i gario'n ol i'r gerwyn.

Oes neb o'r mwg drwg ei drem
'Rydd chwildro i'w ucheldrem?
Ceisiwch a mynnwch mewn munud
Ddiafol a holl bobl byd:
Meindiwch, dyma salamander,
Joci tew fel Jac y tarr:
Ymaflwch, cydiwch y ci,
Symbylwch e, Sion bwm baili;
A gyrrer ef o'r gorawr
I ffwrn nen fyd uffern fawr:
Gael ei fflangellu yn ddigolliant,
Garwa nych, a'i guro i'r nant.

Dyma gywydd y Trwnc a'i bwnc ar ben,
Wedi dulio dau dudalen.

Nodiadau golygu

  1. Rhoddir y cywydd hwn ymysg darlunialau Ap Vychan o fro a phobl ei febvd i ddangos engraifft o'i waith cyn i'w feddwl ddwyseiddio. Darluniad o hen gychwr tafod-lym ydyw. Canwyd ef gan Ap Vychan a, Thomas Simon, pan yn brentisiaid yn efail y Lon, Llanuwchllyn.