Gwaith ap Vychan/Gwen Bach
← Ardal Mebyd | Gwaith ap Vychan gan Robert Thomas (Ap Vychan) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Adgofion Maboed → |
GWEN BACH.
Er cof am Gwen Hughes, Bont Lafar, Llanuwchllyn, yr hon a fu farw yn y Bala, yn bymtheg oed.
𝕲WEN HUGHES, er golygu'n iach,—ai o'r byd
I'r bedd digyfeillach;
Caiff wlad well i fyw bellach,
O hyd gwyn ei byd Gwen bach.
Mwy gonest ac amgenach—morwynig
Yn Meirionnydd mwyach
Ni welir, na'i hanwylach;
Mor gu, gwn, y bu Gwen bach.