Gwaith yr Hen Ficer/Byrdra Oes
← Gweddi'r Eglwyswr | Gwaith yr Hen Ficer gan Rhys Prichard golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cyngor i'r Claf → |
3.—"Byrr yw oes dyn."
FEL gwennol Job mae'n hoes yn llithro,
Fel rhosyn Dafydd mae hi'n gwywo,
Fel gyrfa Paul y mae'n diweddu,
Fel bwmbwl Iago mae'n diffoddi.
Fel canwyll gŵyr mae'n hoes yn treulio,
Fel llong dan hwyl mae'n myned heibio,
Fel post pan sawd mae'n pedwar-carnu,
Fel cysgod cwmwl mae'n diflannu.
Gwan yw'n tai, a chryf yw'n gelyn,
Byrr yw'n terem, siwr yw'n terfyn,
Ansertennol yw 'i ddyfodiad ;
Byddwn barod yn ei wyliad.