Gwaith yr Hen Ficer/Duw sy'n trefnu

Cwymp oddiwrth Ras Gwaith yr Hen Ficer

gan Rhys Prichard


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Y Sabboth

DUW SY'N TREFNU POB PETH.

NID oes drwg na da 'mhlith dynion,
Nad Dus grasol sy'n ei ddanfon;
Nid oes llymder, nid oes trwbwl,
Nad bys Duw sy'n trefnu'r cwbwl.

O'i gyfiawnder mae e'n danfon,
Ar y byd ddialau trymion;
O'i drugaredd mae e'n rhoddi
I blant dynion bob daioni.

Nid oes ffawd, na siawns, na fforten,
Yn rheoli ar y ddaearen;
Duw, yn ol ei dduwiol feddwl,
Sy'n rheoli oll a chwbwl.

Da, a drwg, esmwythder, trallod,
Bendith, melldith, iechyd, nychdod,
Heddwch, rhyfel, newyn, amldra,
Sydd wrth bwyntment Duw gorucha.

Duw sydd awdwr cosp a thrallod,
A'r diawl yw tad pob rhyw bechod;
Dyn sy'n pechu, Duw sy'n dial,
A'r diawl sy'n annog dyn anwadal.

Nid yw Duw yn awdwr pechod,
Na drygioni (Duw'n ei wybod;)
Duw sy'n danfon pob dialau,
Pechod dyn y diawl a'i parai.

Mae'n rheoli nef a daear,
Y môr a'r maint sydd ynddo'n hagar;
Ac yn trefnu'n daran garcus,
Fawr a bach yn ol ei wyllys.


Dyn ac angel, haul a lleuad,
Pysgod, adar, pob ymlusgiad,
Dw'r a thân, a gwynt a glaw,
Sydd wrth lywodraeth dan ei law.

Mae Duw'n cadw, mae Duw'n cynnal,
Pob creadur trwy fawr ofal;
Mae e'n porthi, mae'n maentano
Y byd mawr a'r maint sydd ynddo.

Mae e'n trefnu, mae e'n gosod,
Mae'n rheoli'r byd yn wastod;
A phob gronyn ag sydd yntho,
Wrth ei 'wyllys fel y mynno.

Mae'n dosparthu oll a chwbwl,
Fawr a bychan wrth ei feddwl;
Fel na ddichon dim ddigwyddo,
Ond y modd y bo'n apwyntio.

Ni ddisgyn ar y ddaear dderyn,
Ni chwymp o wallt ein pennau flewyn,
Ni thyf y gwellt, ni lydna ewigod,
Ond fel y bo Duw mawr yn gosod.

Y peth sydd fwya' i maes o drefen,
Yn ngolwg dyn yn dra anniben,
Mae Duw'n ei droi, o fodd neu anfodd,
I'r un diwedd ag y pwyntiodd.

Nid oes dim a all ddigwyddo,
Ond y dull, a'r modd y mynno;
Y peth a welom ni'n wrthnebus,
Maent hwy'n ol ei ddirgel 'wyllys.


Nodiadau

golygu