Gwaith yr Hen Ficer/Yn erbyn Consurwyr
← Y Flwyddyn 1629 | Gwaith yr Hen Ficer gan Rhys Prichard golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Cwymp oddiwrth Ras → |
YN ERBYN CONSURWYR.
Duw, mor dost y pecha Cymry,
Mewn dallineb, trwy gam-gredu,
I ddewiniaeth, swyn-gyfaredd,
Ofer goel, a'r fath anwiredd.
Gynt fe'n chwydodd Duw ni allan,
Fel y bobl o wlad Canan,
O dir Lloegr yma i'r creigydd,
Am ein gwan gred a'n gau-grefydd.
Yn awr nid gwell yw crefydd llawer,
Na'n hen deidiau gynt yn Lloeger;
Er bod 'fengyl Crist yn gyngan,
Gan bawb yn ei iaith ei hunan.
Mwy o gred sydd gan Frutaniaid,
Mewn rhyw luoedd, i ddewiniaid,
Ac i'r swynwyr a'r hudolion,
Nag sy i Grist a'i Apostolion.
Pan ddel dewin neu ryw swynwr,
Och, ni redwn at y twyllwr,
Fel y gwenyn at y gwinwydd,
I roi clust i dad y celwydd.
Beth a ddweto hwnnw o'i enau,
Er nad yw ond celwydd golau,
Ni a'i credwn fel y 'fengyl,
Ac a drown at hon ein gwegil.
Beth a ddweto Crist yn brysur,
Yn y 'fengyl wenn a 'Sgrythyr,
Ni fynn llawer cant o'r Cymry,
Ddim o'i wrando, och, na'i gredu.
Eisiau gwrando'r 'fengyl dirion,
Eisiau credu'r gair yn ffyddlon,
Eisiau 'nabod Duw a'i allu,
Y mae'r wan-gred hon yng Nghymru.
Pe gwrandawent ar y 'Sgrythyr,
Yn condemnio'r fath hudolwyr,
Ni'u herlidiem o'r wlad allan,
Megis apostolion Satan.
Nid yw swynwyr a dewiniaid,
Ond 'spostolion y cythreuliaid,
Sydd yn hudo pobol egwan,
I buteinio ar ol Satan.
Waith bod swynwyr yn ein tynnu,
Ar ol Satan trwy wan-gredu,
Mae Duw'n erchi yn ddialaeth,
Roi'r holl swynwyr i farwolaeth.
Duw ei hun, yng nghyfraith Mosys,
Sy'n gorchymyn lladd pob rheibus,
Lladd y dewin, lladd y swynwyr,
A llabyddio'r holl gonsurwyr.
Duw sy'n gwardd i neb buteinio,
Ar ol dewin, a rhai'n swyno;
Ac yn bygwth torri'n hollol,
Bawb o'r fath o fysg ei bobol.
O bydd gŵr na gwraig o unfath,
Berchen ysbryd o ddewiniaeth,
Lleddwch hwynt, medd Duw, a chlogfaen
A'u gwaed fydd ar eu pennau hunain.
Ni fynn Duw i neb yn ddirgel,
Dynnu eu plant trwy'r tan i'r cythrel,
Nac arferu dim dewiniaeth,
Swyn, na d'rogan, nac hudoliaeth.
Cas gan Dduw, medd geiriau'r 'Sgrythyr,
Geisio hyspysrwydd gan gonsurwyr,
Dewin, swynwr, brud, neu hudol,
Ac ymofyn a dyn marwol.
Tynnu'r plentyn trwy bren crwca,
Neu trwy'r flam ar nos Glangaua,
A'u rhoi ym mhinn y felin uchel,
Yw offrymmu plant i gythrel.
Gwael yw'r cymorth yn ei drafel,
A gaiff Cristion gan y cythrel,
Yr hwn sydd nos a dydd heb gysgu,
Bob yr awr yn ceisio'n llyncu.
Nid yw'r rhain ond rhai sy'n twyllo
Pobol ddeillion i dramgwyddo,
Ac i geisio help y cythrel,
I'w cymffwrddo yn eu trafel.
Duw sy'n erchi lladd â meini,
Duw sy'n gwrafun gwlad goleuni,
Duw sy'n taflu i'r tân uffernol,
Swynwr, dewin, brud, a hudol.
Tro, gan hynny, swynwr heibio,
Megis un sy'n ceisio mwrddro
Dy enaid bach, wrth roi esmwythder,
I'th gnawd egwan yn ei flinder.
Duw fydd dyst, a witnes cyflym,
Duw fydd farnwr tost ac awchlym,
Ar ddewiniaid ac ar swynwyr,
A'r rhai a'u credant, medd y 'Sgrythyr.
Ni chaiff swynwyr na swyn-ddynion,
Medd Sant Paul, na'r nef na'r goron;
Hwy dormentir, medd Sant Joan,
Yn y pwll a'r tân a brwmstan.
Ahazia, brenin Juda,
A ga's farw mewn mawr boenfa,
Am ei wan-gred gynt yn danfon
At y dewin, gan dduw Ecron.
Saul am gredu'r wits o Endor,
Ac am fynd i geisio ei chyngor,
Gas ei roi i dost farwolaeth,
A rhoi i Ddafydd ei frenhiniaeth.
Tra fu Saul yn gwrando Samuel,
Ni chai swynwyr drigo'n Israel,
Nac un dewin, nac un hudol,
I ŵyrdroi a thwyllo'r bobol.
A Josias ynte'n rasol,
A lwyr dynnodd bob rhyw hudol,
Swynwyr, dewin, a ffieidd-dra,
A'r cyffelyb o Judea.
Nid oes neb a barchai'r swynwr,
Na dewiniaid, na chonsurwr;
Ond y rhai di-gred, di-grefydd,
Y mae'r diawl yn ddallu beunydd.
Os yng Nhrist ni fynn dyn gredu,
Fe ad Duw i'r diawl ei ddallu,
Ai lwyr dynnu, heb Grist'nogaeth,
I roi cred i bob gau dduwiaeth.
Y dyn fytho Duw yn wrthod,
A rydd ei gred i'r cyfryw ffregod,
Ac a red mewn blinder diriaid,
I swyno ei gorff, i ladd ei enaid.
Nid gwaeth gan y cythrel ddala
Dyn, trwy gredu'r fath fieidd-dra;
Na phe dalai ddyn trwy fwrddro,
Lladd, a llosgi, a chribddeilio.
Gwachel, gwachel, rwyd y temtwr,
Sy'n dy ladd â gwers y swynwr;
Ac na ddos yn amser clefyd,
At y diawl i geisio iechyd.
Cais gan Dduw leihau dy ddolur,
Yn dy drallod tost a'th wewyr;
Ac na chytgan megis pagan,
Geisio help trwy swyn gan Satan.
O cenhada Duw i'r cythrel,
Dreio'th ffydd trwy boen a thrafel;
Bydd ddioddefgar, cymer gysur,
Nes del Duw i laesu'th ddolur.
Er i Dduw genhadu Satan,
Glwyfo Job a dwyn ei arian;
Nid aeth Job at neb o'r swynwyr,
Ond at Dduw i geisio cysur.
At Dduw y rhedodd Hezekias,
Naaman, Tobit, Dafydd, Jonas,
Yn eu blinder i gael swcwr,
Nid at ddewin, nid at swynwr.
Duw sy'n erchi mewn cyfyngdwr,
Alw arno ef am swcwr,
Ac mewn trafel tost a blinder,
I fynd at Grist i gael esmwythder.
Dwl yw'r dyn a red at swynwr,
Yn ei flinder, i gael swcwr;
Fel pe byddai'r diawl barotach,
Na Duw mawr, i helpu'r afiach.
Nid gwaeth mynd mewn cyflwr cas,
At y diawl nag at ei was:
Y diawl ei hun sy'n rhoi, fel twyllwr,
Yr help a gaffech gan y swynwr.
Mae Duw weithiau yn cenhadu,
I'r diawl flino rhai sy heb gredu,
A lleihau eu blinder weithie,
Er amlhau eu didranc boene.
Os cenhada'r Arglwydd iddo,
Fe all wasgu, fe all beidio:
Ond heb gennad Duw ni ddichyn,
Satan ladd na chadw mochyn.
Och, na welai pawb o'r Cymry,
Fod y swynwyr yn eu tynnu
Oddiwrth Grist, i fynd yn ddirgel
I buteinio ar ol y cythrel.
Och na welent bawb y swynwr,
Dros y diawl yn chwareu'r mwrddewr;
Ac yn lladd yr enaid gwirion,
Cyn y swyner o'i ddolurion.
Och na welent fod yr Arglwydd,
Mewn digofaint a llidiogrwydd,
Yn ymwrthod â'r holl ddynion,
Ag a gredo'r fath hudolion.