Gwallt Llio
gan Dafydd Nanmor
- Llio eurwallt lliw arian,
- llewychu mae fal lluwch mân.
- Mae ar ei phen, seren serch,
- lliw rhuddaur, Llio Rhydderch.
- Ni bu ar wŷdd, un bêr iach,
- afal Anna felynach.
- Mewn moled aur a melyn
- mae'n un lliw â'r maen yn Llŷn.
- Ar iad Llio rhoed llyweth
- a noblau aur yn y bleth.
- Gwnaed o'r bleth ganbleth i'w gwau,
- tair brwynen tua'r bronnau.
- Ac na fynned gwen fanwallt
- gribau gwŷdd i gribo'i gwallt;
- dycer i wen er deg grod
- gribau esgyrn geirw bysgod.
- Mae ar ei phen, mor hoff yw,
- mawr fanwallt Mair o Fynyw.
- Mae'r un wallt, mal am war Non,
- ar fronnau'r môr forynion.
- Mihangel sy walltfelyn,
- ac un wallt ag ef yw 'nyn.
- On'd un lliw y fantell hon
- â chawgiau y marchogion?
- Mal efydd, mil a ofyn
- `Ai mellt nef?' am wallt fy nyn;
- ai plisg y gneuen wisgi?
- Ai dellt aur yw dy wallt di?'
- Llwyn aur neu ddau i'r llan a ddoeth,
- llwyn banadl, Llio'n bennoeth.
- Llen gêl a fo ei llwyn gwallt
- am ein gwarrau mewn gorallt.
- Dwy did lle y dodid awdl,
- dau dasel hyd ei dwysawdl;
- y mae'r ddwydid o sidan
- am Lio'n glog melyn glân,
- ac mae'n debyg mewn deubeth
- i flaen fflam felen ei phleth.
- Llwyn pen lle ceid llinyn parch,
- Padreuau y padrïarch.
- Ar iad bun erioed y bu
- wisg i allel asgellu.
- Crwybr o aur ban i cribai,
- pwn mawr o esgyll paun Mai,
- yn ail cyrs neu wiail caets,
- fal aur neu afal oraets.
- Mawr y twf, mae ar iad hon
- mil o winwydd melynion.
- Unlliw ei gwallt, yn lle gwir,
- â chwyr aberth o chribir.
- Mae'r gwallt mwya' ar a gaid
- am ei gwar fal mwg euraid.
- Ni ad Duw gwyn (nid du ei gwallt)
- farw Llio frialluwallt.