- Pei mi brytwn
- pei mi ganwn;
- tardei warchan gorchegin.
- Gweilging torch trychdrwyt
- trychethin trychinfwrth.
- Kyrchessit en avon
- kynn noe geinnyon.
- Tyllei garn gaffon;
- rac carneu riwrhon.
- Ryveluodogyon.
- Esgyrn vyrr vyrrvach varchogyon.
- Tyllei ylvach
- gwryt govurthyach.
- Ryt gwynn rae eingul
- yawn llad. yawn vriwyn vriwyal.
- Rach canhwynawl cann.
- Lluc yr duc dyvel
- disgynnyal alel.
- Y bob dewr dy sel.
- Trwy hoel trwy hemin;
- trwy gibellawr a gemin.
- Ac eur ar dhrein
- a galar dwvyn dyvyd;
- y wynnassed velyn.
- E greu oe gylchin;
- Keledic ewyn.
- Med mygyr melyn.
- Eil creu oe gylchyn;
- rac cadeu Kynvelyn.
- Kynvelyn gasnar
- Ysgwn bryffwn bar.
- Goborhtyat adar
- ar denin dwyar.
- Dyrreith grad voryon;
- adan vordwyt haelon.
- Kyvret kerd wyllyon;
- ar welling diryon.
- Teyrn tut anaw
- ysemu e gwynaw;
- eny vwyf y dyd taw.
- Gomynyat gelyn;
- ehangsett ervyn.
- Gochaw kyrd keinmyn;
- yw gwarchan Kynvelyn.
- Gorchan Kynvelyn kylchwy wylat;
- etvyn gwr gwned gwyned e wlat.
- Dychiannawr dewr dychianat.
- Eidyn gaer gleissyon glaer
- kyverthrynneit.
- Kein dy en rud enys gwerth
- ruduolawt ved meirch
- eithinyn neut ynt blennyd.
- Gwarchan kynvelyn ar ododin
- neus goruc o dyn dogyn gymhwylleit.
- E wayw drwn oreureit am rodes
- poet yr lles yw eneit.
- Etmygir e vab tecvann;
- wrth rif ac wrth rann wyr catvan
- colovyn greit.
- Pan vyrywyt arveu
- tros benn cat vleidyeu
- buan deu en dyd reit.
- Try wyr a thrivgeint a thrychant
- i vreithyell gatraeth y d aethant.
- Or sawl yt gryssyassant
- uch med menestri; namyn tri nyt atcorsant.
- Kynon a chadreith. a chatlew o gatnant.
- A minhe oni creu dychiorant.
- Mab coel kerth vygwerth y a wnaethant;
- o eur pur a dur ac aryant.
- Evnyvet nyt nodet e cawssant;
- gwarchan kyrd kynvelyn kyvnovant.