Gweith Argoet Llwyfain
gan Taliesin
- E Bore duw sadwrn kat uawr a uu.
- or pan dwyre heul hyt pan gynnu.
- dygrysswys flamdwyn yn petwar llu.
- godeu a reget y ymdullu.
- dyuwy o argoet hyt arvynyd.
- ny cheffynt eiryos hyt yr vn dyd.
- Atorelwis flamdwyn vawr trebystawt.
- A dodynt yg gwystlon a ynt parawt.
- Ys attebwys. Owein dwyrein ffossawt.
- nyt dodynt nyt ydynt nyt parawt.
- A cheneu vab coel bydei kymwyawc
- lew. kyn as talei o wystyl nebawt.
- Atorelwis vryen vd yr echwyd.
- o byd ymgyfaruot am gerenhyd.
- dyrchafwn eidoed oduch mynyd.
- Ac am porthwn wyneb oduch emyl.
- A dyrchafwn peleidyr oduch pen gwyr.
- A chyrchwn fflamdwyn yn y luyd.
- A lladwn ac ef ae gyweithyd.
- A rac gweith argoet llwyfein
- by llawer kelein.
- Rudei vrein rac ryfel gwyr.
- A gwerin a grysswys gan einewyd.
- Armafy blwydyn nat wy kynnyd.
- Ac yny vallwyfy hen
- ym dygyn agheu aghen.
- ny bydif ymdyrwen
- na molwyf vryen.
- Ffynhonnell: Llyfr Taliesin