Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865)/Adgofiant o'r Awdwr

Hysbysiad i'r Argraffiad Gweledigaethau Y Bardd Cwsg (Silvan Evans 1865)

gan Ellis Wynne


golygwyd gan Daniel Silvan Evans
At y Darllenydd


ADGOFIANT O'R AWDWR

Ganwyd ELIS WYNN[1] yn y Lasynys, plasdy o ddeutu milltir a hanner o dref Harlech, yn swydd Feirionydd, yn y flwyddyn 1671. Unig fab ydoedd i Edward Wynn, o deulu Glyn Cywarch, yr hwn a briodasai etifeddes y Lasynys. Y mae yr hen dy, lle y ganed, y maged, ac y bu efe farw ynddo, yn aros hyd heddyw; a dangosir i ddyeithriaid yr ystafell yr hon y dywed traddodiad i Weledigaethau y Bardd Cwsg gael eu hysgrifenu ynddi. Fel llawer o enwogion, yn enwedig enwogion Cymru, ni wyddys ond ychydig o hanes ei fywyd: ei gofiant sydd yn ei waith. Pa ddysgeidiaeth a gafodd, ac ym mha le y derbyniodd efe hi, nid ydys yn gwybod. Y mae yn ddilys ei fod yn wr dysgedig; ond nid oes prawf iddo fod erioed mewn prifysgol; ac os bu, mae yn fwy na thebyg na chymmerodd efe un radd athrofaol ynddi. Dywedir nad oedd llawer o duedd ynddo at y weinidogaeth, ac mai ar gais y Dr. Humphrey Humphreys, Esgob Bangor, y cymmerodd efe ei urddo; ac ymddengys na chymmerodd hyny le nes ei fod mewn gwth o oedran. Urddwyd ef yn ddiacon ac yn offeiriad yr un dydd; a thranoeth cyflwynwyd ef i berigloriaeth Llanfair, ger llaw Harlech. Yr oedd efe hefyd yn beriglor Llandanwg a Llanbedr, yn yr un gymmydogaeth; ac felly cafodd fyw trwy gydol ei oes yn ardal ei enedigaeth, ac ar ei dreftadaeth briodol ei hun. Yn 1702, efe a briododd Lowri Llwyd, o Hafod Lwyfog, ym mhlwyf Bedd Gelert, swydd Gaernarfon. Bu iddynt bump o blant; tri mab a dwy ferch. Yr oedd y mab hynaf, Gwilym, yn beriglor Llanaber, wrth Abermaw: iddo ef y disgynodd tiriogaeth y Lasynys; a bu ym meddiant y teulu nes ei gwerthu gan ei wyr, Ioan Wynn Puw. Y mab ieuaf, Edward, ydoedd beriglor Penmorfa a Dolbenmaen, yn Eifionydd, o'r flwyddyn 1759 hyd ei farwolaeth yn 1767. Wyr Edward Wynn, yn llinach ei fab Elis, periglor Llanferras, yn swydd Dinbych, yw y Parch. Ioan Wynn, ebrwyad presennol Llandrillo yn Edeyrnion.

Bu farw Elis Wynn ym mis Gorphenaf, 1734, yn 63 mlwydd oed, a chladdwyd ef ar y 17fed o'r mis hwnw, o dan fwrdd y Cymmundeb, yn Eglwys Llanfair, heb gymmaint a llinell ar na maen na mynor i nodi'r fan lle gorphwysa gweddillion marwol yr athrylithiog Fardd Cwsg, cymmwynaswr ei genedl, ac addurn llenoriaeth ei wlad.[2] Yn llyfr gwyn Eglwys Llanfair ceir y cofnod canlynol o'i gladdedigaeth —Elizæus Wynne, Cler. nuper Rector dignissimus hujus Ecclesiæ, sepultus est 17mo die Julii 1734.

Yn 1701, efe a gyhoeddodd gyfieithad o'r Rule and Exercises of Holy Living, gan yr Esgob Ieremi Taylor, dan yr enw Rheol Buchedd Sanctaidd; ac a'i cyflwynodd i'r Esgob Humphreys. Rhydd gyfieithad o'r gwaith Seisonig ydyw; a gellir ei restru yn ddiammheu ym mhlith y cyfieithion goreu yn yr iaith. Yn 1703, ymddangosodd Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Yn 1710, daeth allan o dan ei olygiad ef, argraffiad newydd a diwygiedig o'r Llyfr Gweddi Gyffredin, mewn cyfrol unplyg, at wasanaeth yr eglwysi. Cymmerodd y gorchwyl hwn mewn llaw ar gais Esgobion Cymru ac Esgob Henffordd, gan y rhai y mae wedi ei gymmeradwyo a'i orchymmyn.[3]

Yn y flwyddyn 1755, casglodd a chyhoeddodd ei fab Edward, y pryd hwnw curad Llanaber, lyfr tra defnyddiol o'r enw Prif Addysg y Cristion, yn cynnwys, ym mhlith pethau ereill, Esboniad Byr ar y Catecism, o waith y Parchedig Mr. Elis Wynne o Lasynys, Person Llanfair;' ac yn attodedig i'r unrhyw gyfrol ceir amryw 'Hymnau a Charolau,' o waith yr un awdwr. Y mae yr Esboniad, o'i faint, yn waith rhagorol; ac y mae yr Emynau a'r Carolau yn meddu ar lawer o deilyngdod. Bu iddo hefyd droi amryw o'r Salmau ac o Emynau yr Eglwys ar fesur cerdd; a phrin y mae eisieu crybwyll fod ol dawn a chelfyddyd ar y rhai hyn, yn gystal ag ar bob peth arall a hanoedd o'i ysgrifell.

Hyn, hyd y gwyddys, yw'r cwbl a gyhoeddwyd o'i gyfansoddiadau; ond dywedir iddo ysgrifenu gwaith arall, a elwid "Gweledigaeth y Nef:' eithr o blegid edliw o rywrai iddo nad oedd ei Weledigaethau blaenorol ond lledrad llên, ac nad oeddynt na mwy nallai na chyfieithad o waith yr Yspaenwr Cwevedo,'[4] efe a daflodd yr ysgrifen i'r tân mewn digllondeb. Y mae yn amlwg ddigon ei fod ef wedi bwriadu estyn Gweledigaethau y Bardd Cwsg yn helaethach nag y maent; canys ar ragddalen y llyfr hwnw dywedir mai y 'Rhan Gyntaf' ydyw; a gelwir terfyn y gyfrol yn 'Ddiwedd y Rhan Gyntaf. Y mae yn resyn o'r mwyaf gael o lawysgrif y Weledigaeth hon ei dinystrio, ac i'r Bardd gymmeryd ei gythruddo i'r fath raddau gan feibion dirmygedig anghof, yn llinach Soil ysgeler;' canys yn y gwaith hwn y mae lle i dybied y cawsem weled yr awdwr yn myned rhagddo yn ei ffordd a'i drefn ei hun, heb neb o estron genedl yn arweinydd ac yn gynnorthwyrwr iddo.

Gorchestwaith Elis Wynn yw Gweledigaethau y Bardd Cwsg. Y mae'r gwaith hwn wedi sefyll bob amser yn uchel iawn yng nghyfrif y Cymry; ac nid oes genym ond odid lyfr o'i faint, ond y Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin, wedi myned trwy gynnifer o argraffiadau yn ystod yr un amser. Y mae pawb y mae eu barn o werth, yn cyduno i'w ganmawl ac i ddadgan ei ragoroldeb; caniatëir fod ei iaith yn rymus ddigyffelyb; ac ystyrir ei ieithwedd yn gynllun teg i bawb ei ddilyn. Yr oedd Walters, y geirlyfrwr enwog, yn ei hofti tu hwnt i bob gwaith; a phwy yn y Dywysogaeth oedd gymhwysach i farnu am ei deilyngdod? Yn ei Draethawd godidog ar yr Iaith Gymraeg y mae yn llefaru am dano i'r ystyr yma:— Y mae cyfansoddiad gwreiddiol yn y Gymraeg, a elwir y Bardd Cwsg, yn cynnwys tair Gweledigaeth. Math ar ddychan ydyw, mewn rhan yn llythyrenol, ond gan mwyaf yn arallegol, lle у ffrewyllir Drygioni, Ynfydrwydd, a Gwagedd, yn gampus dros ben; tynir hwynt yn y lluniau mwyaf dychrynllyd (sef yw hyny, eu lluniau mwyaf priodol), ac arddangosir hwynt yn holl amrywiaeth alaethus Gwae. Yn y gwaith hwn y mae'r dynsodiadau mwyaf tarawiadol a phrydyddol, y darluniadau mwyaf bywiog ac ysbrydlawn, a'r ehediadau dychymmyg mwyaf ardderchog a geir yn unlle, pa un bynag ai mewn rhyddiaith ai mewn barddoniaeth. Nid yw Gweledigaethau Don Cwevedo mewn un modd i'w cystadlu â'r rhai hyn fel ag y canfyddir ac y cydnabyddir gan bwy bynag a'u cymharo â'u gilydd, bid hyny mor arwynebol ag y bo. Clywais am un â'i serch gymmaint ar Don Cwicsot fel y cymmerodd y drafferth i ddysgu yr Yspaeneg er mwyn cael yr hyfrydwch o ddarllen ei hoff awdwr yn yr iaith wreiddiol. Ni ryfeddwn i ddim pe dysgai llawer yr iaith Gymraeg, modd y gallont ddarllen y Bardd Cwsg, pe gallent ond unwaith amgyffred ei ragoroldeb.'

Y mae y Dr. Owain Puw wedi ei ddyfynu lawer deg o weithiau yn ei Eiriadur. Y fath oedd syniadau uchel Theophilus Jones, Hanesydd Brycheiniog, am ei odidogrwydd, fel y bu iddo ymosod ar ei gyfieithu i'r Seisoneg.[5] Y mae rhai wedi myned mor bell a chymharu yr awdwr â Dante, a'i gynnyrchion â'r Divina Commedia. Ac y mae yn hyfryd canfod nad yw y Bardd Cwsg wedi colli ond ychydig, os dim, o'i gymmeriad yn y Dywysogaeth hyd yn oed yn y dyddiau dirywiedig, gwahan-farn hyn. Nid oes nemawr o fisoedd wedi llithro heibio er pan yr ymddangosodd y feirniadaeth ganlynol arno yn y Traethawd ar Swyddogaeth Burn a Darfelydd[6]:— Fe allai mai y Bardd Cwsg yw y cyfansoddiad mwyaf hynod am gymhlethiant Barn fanwl a Darfelydd grymus a hedegog, o'r holl weithiau sydd ym meddiant ein gwlad. Barddoniaeth lawn o dân awenyddol ydyw, mewn gwisg rydd ddigynghanedd. Beth? Barddoniaeth heb gynghanedd? Ië, ddarllenydd, a barddoniaeth ardderchog hefyd! Y mae yn y Bardd Cwsg gryn lawer o anian, ond ei bod yn ymwisgo mewn dull ffugrol, yr hyn, ar yr un pryd, sydd yn peri fod y gwaith yn fwy barddonol. Er fod cryn lawer o ddiffyg yn chwaeth cyfansoddiad, eto y mae yr iaith yn anghymharol o gref, fel nad oes dim yn y Gymraeg yn dyfod yn agos iddo yn y peth hwn. Nid yw bob amser yn hollol gywir yn ei ramadeg, y mae yn wir; ond gwna iawn am hyn yn ei nerth, a'i ieithwedd, yr hon sy mor drwyadl Gymroaidd. Y mae yn tynu llun personau, ac yn corffoli pechodau a llygredigaethau, gan eu harddangos yn eu gwrthuni, mewn dull hynod o argraffawl. Mae y Bardd Cwsg yn un o'r llyfrau ag y byddai yn ddymunol ei fod ym mhob teulu, ac, yn fynych, yn llaw pob dyn ieuanc, ac yn arbenig pob prydydd ieuanc yn y Dywysogaeth.'

Ond eto er hyny, awgrymir gan ambell un, er godidoced y gwaith, ac er ucheled y molawd a roddir iddo, fod yr awdwr yn ddyledus am ei holl feddyliau i Cwevedo; a chyhuddir ef yn gyffredin o ddiffyg chwaeth, ac weithiau o anweddusrwydd ymadrodd.

Gyda golwg ar y cyhuddiad o anwreiddioldeb, y mae yn eithaf amlwg fod Elis Wynn yn gydnabyddus â gwaith Don Cwevedo, a'i fod yn ddyledus iddo am ei gynllun, ac am lawer o'i ddelfrydau: y mae yn ei efelychu yn fynych; ac yn achlysurol, wedi cyfieithu ambell frawddeg o hono. Y mae rhediad У ddau waith yn gryn debyg; ac y mae llawer o'u cymmeriadau yn gwbl yr un.

Ond er hyn oll, y mae'r gwaith Cymreig yn meddu ar nodwedd wahanredol o'i eiddo ei hun, ac yn arddangos holl deithi cyfansoddiad gwreiddiol. Nid oes dim tebyg i gyfieithad neu efelychiad o'i ddechreu i'w ddiwedd. Y mae yn gwbl Gymreig ym mhob ystyr; ac nis gallasid byth feddwl wrth ei ddarllen fod dim o gyffelyb ansawdd wedi ei gynnyrchu mewn un wlad arall.

O ran chwaeth, lledneisrwydd, a naturioldeb, y mae'r Cymro yn sefyll ar lawer uwch tir na'r Yspaenwr; a gellir honi yn ddibetrus ei fod yn tra rhagori arno ym mhob peth ond mewn gwreiddioldeb. Try’r fantol o blaid y naill fel goruch-adeiladydd, ac o blaid y llall fel gosodwr y sylfaen. Darllenodd y Bardd Cwsg Weledigaethau ei ragflaenor; a thra yr oedd yr argraff o honynt yn rymus ar ei gof, eisteddodd i lawr, ac ysgrifenodd ei Weledigaethau ei hun. Ni fyfyriodd mo'i awdwr er mwyn ei ddynwared, ac ni phetrusodd wneuthur defnydd o hono, pa bryd bynag y byddai hyny yn ateb ei ddyben, ac yn fuddiol i'w amcan. Ysbrydolwyd ef at y gorchwyl wrth ddarllen gweledydd yr Yspaen; ac yng ngrym yr ysbrydoliaeth hòno efe a gynnyrchodd ei waith anfarwol ei hun.

Dichon nas gellir, ar fyr eiriau, ddangos dyled ein cydwladwr i'r estronwr, yn well na thrwy ei chymharu â dyled Virgil i Homer. Y mae rhwymedigaethau y ddau, i raddau helaeth, yn ogymmath ac yn ogymmaint. Os gwreiddiol yr Aeneis, gwreiddiol hefyd y Gweledigaethau dan sylw; ond os llenysbeiliwr a benthyciwr yw y Bardd Cwsg, llenysbeiliwr a benthyciwr hefyd yw Bardd Mantua.

Ond ni ddylid anghofio crybwyll fod yn y Gymraeg waith gwreiddiol, wedi ei ysgrifenu ym mhell cyn geni Cwevedo, tra chyffelyb ei ansawdd i'r Bardd Cwsg, a elwir Breuddwyd Pawl Abostol.[7] yr hwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Ysgriflyfrau Iolo Morganwg (t. 190). Y mae'r ddau, mewn llawer o bethau, cyn debyced i'w gilydd, fel y gallai un wrth ddarllen y Breuddwyd, feddwl, braidd, mai darllen un o'r Gweledigaethau y mae; o ran iaith, y maent, o fewn i ddim, yn gyfunrhyw; y mae rhai o eiriau arbenicaf y Bardd Cwsg yn dygwydd yn y cyfansoddiad hwn; ac y mae sail gref i farnu ei fod yn ddyledus iddo am danynt, ac nid am danynt hwy yn unig, ond am lawer o'r meddylrithiau hefyd. Nid yw y Breuddwyd' argraffedig ond lled fyr; ond mae lle i gredu nad yw yn ei ddull presennol ond dernyn anghyflawn, neu o leiaf, fod rhyw gymmaint o hono yn eisieu. Efelly, dichon fod seilwaith y Bardd Cwsg i'w gael yn iaith y Cymry, ac mai rhai o ddefnyddiau yr oruch-adail yn unig a fenthyciwyd o diroedd estron.

Cyn y gallom ei gyhuddaw o ddiffyg chwaeth, rhaid i ni ystyried yr oes yr oedd yr awdwr yn byw ynddi; a'r dosbarth o bobl yr oedd efe yn eu hanerch yn benaf. Y mae ansawdd cymdeithas yng Nghymru wedi cyfnewid llawer yn ystod cant a hanner o flynyddoedd; ac nid yw yn canlyn mewn modd yn y byd fod yr hyn sy'n werinaidd y dydd heddyw yn rhwym i fod yn werinaidd yn y dyddiau hyny. Y mae llawer o eiriau, a ystyrid y pryd hwnw yn weddaidd ac yn llednais, wedi myned erbyn y pryd hwn yn anghoeth ac yn serthus; ac ni chlywir byth mo honynt ond yng ngeneu gwehilion y bobl. Y mae tipyn o wahaniaeth yn y peth hwn rhwng Gwynedd a Deheubarth; ac weithiau y mae hyd yn oed dau gwmmwd yn amrywio. Mae y Ddeheubartheg, yn gyffredin, yn fwy llednais na'r Wyndodeg. Dylid cadw y pethau hyn oll mewn golwg wrth feirniadu ar chwaeth y Bardd Cwsg, ac ar weddnod y dafodiaith arferedig ganddo. Ac os cymmer neb y drafferth i'w gymharu â chyfieithad L'Estrange o Cwevedo, yr hwn oedd mewn bri yn ei amser ef, ac yn ddilys ddigon wedi cael ei ddarllen ganddo, ceir gweled ar unwaith fod ein cydwladwr yn haeddu clod dauddyblyg am goethder ei chwaeth, a gweddusrwydd ei syniadau a'i ymadroddion; ac eto, er ei holl serthedd a'i fudr-iaith, yr oedd y gwaith Seisonig mor boblogaidd a derbyniol yn ei ddydd, fel yr ymddangosodd dim llai na deg argraffiad o hono mewn ysbaid o ddeuddeg mlynedd; ond y mae ei werinoldeb yn gyfryw ag y byddai yn waith ofer ei gynnyg ym marchnad lenyddol y dydd heddyw. Y mae gan bob oes, i gryn raddau, ei phriod chwaeth ei hun; ac nid teg fyddai ei barnu yn hyn o beth wrth archwaeth oesoedd ereill.

Diau mai gwella ac nid drygu chwaeth a moes ei gydgenedl oedd yr amcan mewn golwg gan Elis Wynn; ac yr ydym yn gweled iddo lafurio yn helaethach na nemawr o'i gydoeswyr i ddwyn ym mlaen ddiwygiad yn eu plith. Ymddengys mai un annibynol iawn ydoedd : yr oedd y gwr boneddig, y gwr eglwysig, a'r gwr wrth gerdd, wedi ymgyfarfod ynddo; yr oedd yn ddigon gwrol i ddannod beiau, ac i ddadlenu twyll a hoced, gyda llymder a diystyrwch, heb barchu wyneb ungwr dan hanl. Diau fod ymddangosiad ei lyfr yn frath cleddyf i laweroedd; ond pwy a glywai ar ei galon wrthwynebu'r bardd diweniaith a'r offeiriad glanfucheddol yn yr amser hwnw? Oes lawn o bob ofergoel, anwybodaeth, ac anfoesoldeb, oedd yr oes yr oedd efe yn byw ynddi; ymdrechodd yntau yn egnïol i chwalu'r tywyllwch oedd yn gorchuddio'r Dywysogaeth, ac i yru ar ffo y cymylau duon oedd yn crogi uwch ben ei thrigolion; dynoethodd ormes a rhagrith, gwagedd a ffolineb y byd isod hwn, a hudoliaethau aneirif merched Belial yn y Ddinas Ddienydd; ac annogodd bawb i gymmeryd Buchedd Santaidd yn Rheol i'w tywys yn ddiogel i Ddinas IMMANUEL.

Gwasanaethodd ei genedlaeth gyda ffyddlondeb mawr; gorphenodd ei yrfa; ac erys ei goffadwriaeth yn glodfawr yng Nghymru, tra byddo tafod yn medru parablu Cymraeg ar hyd llethri ei chribog fynyddoedd hi.

Nodiadau golygu

  1. 'Ellis Wynne' yr ysgrifenai ef ei enw, a Wynne yw y dull a arferir gan ei ddisgynyddion i lythyrenu eu cyfenw hyd heddyw: ond nid peth anghyffredin yng Nghymru, mwy nag mewn gwledydd ereill, yw gwneuthur, yn rhwysg amser, beth cyfnewid ar lythyraeth enwau poblogaidd. Y mae'r Cymry yn hoff nodedig o ddull anghymreig i ysgrifenu eu henwau.
  2. Gwedi cael o'r cofnod hwn ei ysgrifenu, gosododd y Parch. Ioan Wynn, Llandrillo, ffenestr liwiedig hardd yn Eglwys Llanfair, er cof am ei hendaid clodwiw.
  3. Y mae ei 'Hysbysiad' i'r argraffiad dan sylw, yr hwn a gynnwys ynddo rai pethau na wyddir mo honynt yn gyffredin, wedi ei adargraffu yn gyflawn yn y Gwyliedydd, x. 275, ac yn y Traethodydd, vii. 322.
  4. Francisco Gomez de Quevedo y Villegas a anwyd ym Madrid, yn yr Yspaen, yn 1580, ac a fu farw nid neppell o'r ddinas hono, yn 1645, yn 65 mlwydd oed. Ymddangosodd ei Sueños, neu Weledigaethau, y tro cyntaf, ym Madrid yn 1649; cyfieithwyd hwynt i'r Seisoneg gan Syr Roger L'Estrange yn 1668; ymddangosodd cyfieithad newydd gan Pineda yn 1734; ac un arall yn 1798. Cyfieithwyd hwynt hefyd i'r rhan fwyaf o ieithoedd ereili Ewrop. Yr un modd â'n cydwladwr ninnau, yr oedd Cwevedo yn brydydd yn gystal ag yn ysgrifenwr rhyddiaith.
  5. Yn 1860 ymddangosodd cyfieithad o hono i'r Seisoneg gan Mr. Geo. Borrow. Y mae hwn yn gyfieithad gweddol dda, ag ystyried mai Sais cynnwynol a'i gwnaeth; er bod cyfieithydd mewn rhai manau wedi camddeall meddwl yr awdwr yn hollol. Ymddengys ei fod wedi cyfieithu o argraffiad pur anghywir. Yn ei Ragymadrodd dywed wrthym mai brodor o Swydd Dinbych oedd Elis Wynn, ac nas gwyddys braidd ddim ychwanego hanes ei fywyd!
  6. Gwaith y Parch. W. Jones, Periglor Llanenddwyn, Meirion. (Rhuthyn, 1853, 8plyg.)
  7. Cymharer yr Awdlau i Dduw, o waith Gruffydd ab yr Ynad Coch, yn y Myvyrian Archaiology, i. 400, 516; ac hefyd ranau o'r Marchog Crwydrad (Tremadog, 1864, 8plyg).