GWENFRON A MI

CYDGERDDED wnâi Gwenfron a minnau un tro,
A chwerthin yr awel ym mrigau y fro;
Roedd lloer yn yr awyr, a lloer yn y llyn,
Ac eos yn canu o laslwyn y glyn;
A serch ar ei orau ar noson fel hyn.
Ac yno yn suon yr awel a'r lli
Gwnaed cymod annatod rhwng Gwenfron a mi.


Flynyddoedd maith wedyn roedd coedydd y glyn
Heb ddeilen, nac awel, dan eira gwyn, gwyn;
Roedd oriau ieuenctid ers talwm ar ffo,
A mil o ofalon yn llanw y fro,
A'r corwynt yn ubain o'r coed yn ei dro;
Ond chwerwed gaeafau, a rhued y lli,
Ni thorrir mo'r cymod wnaeth Gwenfron a mi.


Mae Gwenfron a minnau yn hen erbyn hyn,
A'r hwyr ar ein pennau fel eira gwyn, gwyn;
Mae'n llygaid yn llwydo fel dydd yn pellhau,
A nerth ein gewynnau o hyd yn gwanhau;
Ond, wele, mae'n cariad o hyd yn cryfhau.
I'r tiroedd di-henaint sy draw tros y lli
Rhyw symud yn dawel wna Gwenfron a mi.