Gwilym ab Ioan gan Risiart Ddu o Wynedd
Pryddest: Gwilym ab Ioan. [1]
Pryddest gan Richard Foulkes Edwards (Risiart Ddu o Wynedd) i gofio am ei gyfaill y bardd William Williams (Gwilym ab Ioan).
"Y Bryddest hon oedd y fuddugol yn Eisteddfod Utica, Ionawr 1. 1869."
I
golygu- "MAE wedi marw! " dyna'r geiriau sydd
- Yn rhwygo'u ffordd o lawer calon brudd.
- "Mae wedi marw! " O! 'r fath iaith yw hon,
- Yn rhwygo'r enaid, ac yn fferu'r fron :
- Llefaru wnant am wely oer y bedd,
- Am arch, am amdo, ac am welw wedd ;
- Ac Ow ! am welw wedd anwylaf un,
- A garai pawb a garent gywir ddyn.
- Nid cywir ddyn ychwaith yn unig oedd,
- Medd ceinion ei athrylith ag un floedd:
- Dyn anwyl, llenor gwych, a bardd o fri,
- A gollwyd oll, pan y collasom di,
- Ab Ioan hoff, a chladdwyd ein holl hedd
- Pan syrthiai'r briddell ar dy dyner wedd.
- Yn nghwmni gweddw drist, yn nghwmni prudd
- Ei blant amddifaid, wylant nos a dydd,
- Yn nghwmni llawer Cymro o'r iawn ryw,
- A bron hiraethus, ac â chalon friw
- Dynesu wnaf, wrth lewyrch gwan y lloer,
- A dagrau brwd i wlychu'r ddaear oer:
- Mae'r bedd yn oer — yn oerach nag erioed,
- O herwydd bron mor gynes ynddo roed.
- Ond beth ddywedaf uwch y tywyrch hyn ?
- Pa iaith ddatgana fy nheimladau syn ?
- Wrth ceisio cludo gofid maith fel hwn,
- Pob gair sy'n pallu — cwympa dan ei bwn.
- 'Does dim i'w wneud ond tewi, fel y nos,
- Ac wylo'n ddystaw fel y lili dlos.
II.
golygu- Mae yr haf yn d'od a'i geinion
- I addurno dol a gardd,
- Ond pwy gana'i glod yr awrhon ?
- Seliodd angau enau'r bardd!
- Mae y tafod fu'n darlunio
- Tegwch swynol bro a bryn,
- Wedi fferu yn y beddrod,
- Wedi tewi yn y glyn.
- Deuwch, feirdd, a hidlwch ddagrau —
- Dagrau cariad, uwch ei fedd,
- A chydgesglwch dyner flodau
- I addurno'i wely hedd :
- Hawdd y gellwch alarnadu
- Am eich athraw tirion gynt,
- Nid oes eisieu ffug alaru —
- Aed pob rhagrith gyda'r gwynt.
- Hynod brydferth oedd ei fywyd,
- Ac anwylaidd oedd ei wedd :
- Nid oedd dichell yn ei ysbryd,
- Nid oedd gwenwyn yn ei wledd;
- Fel yr hoffid ei gyfarfod !
- Fe'i croesawid megys tad,
- Llamai'r plant o'i wel'd yn dyfod,
- Gwenai henaint mewn boddhad.
- Isel, hynaws oedd ei anian,
- Diymhongar oedd ei fryd,
- Taenai fantell gostyngeiddrwydd
- Dros ei ragoriaethau i gyd ;
- Fel ehedydd, gallai esgyn
- Tua'r nef ar esgyll dawn,
- Fel ehedydd, hoffai hefyd
- Wneud ei nyth yn isel iawn.
- Mae rhai adar na chanfyddir
- Eu gogoniant, er mor hardd,
- Nes y lledant edyn euraidd
- Yn holl urdd tryliwiog ardd ;
- Felly Gwilym, ni chanfyddem
- Pa mor brydferth ydoedd ef
- Nes y lledodd edyn dysglaer,
- Gan ehedeg tua'r nef.
III.
golygu- Tra hoff gan hiraeth dramwy
- Yn ol i Feirion gu,
- A syllu drwy ei ddagrau
- Ar wedd y Tyddyn Du ;
- Mae'r ffermdy gwledig acw
- Yn meddu bythol swyn,
- Can's rhwng ei furiau hoff ryw ddydd
- Y ganwyd Gwilym fwyn.
- Ha ! dyna'r afon Lafar
- Yn llifo megys gynt,
- Mor fynych ar ei glanau
- Bu Gwilym ar ei hynt ;
- Wrth glywed si yr afon,
- Ac odlau syml ei dad,
- Ei Awen ieuanc a ddeffrodd,
- I byncio mewn boddhad.
- Canfyddai yr Arenig
- Dan goron heulwen der,
- A'r Aran o'r tu arall
- Yn siarad hefo'r ser ;
- Canfyddai 'r Llyn* ysblenydd, (* Llyn Tegid).
- Fel gwydr gloew glân —
- Cynhyrfai hyn awyddfryd mwy
- I seinio peraidd gân.
- Lion achles yn Llanuwchllyn
- A ga'dd ei Awen o,
- A chanodd am y goreu
- A'r Eos* lawer tro; (*Y Prifardd Eos Glan Twrch)
- Yr oedd y gwobrau by chain,
- Dderbyniai'r adeg hon,
- Yn wystlon hoff o wobrau gwell
- Dderbyniai bwnt i'r don.
- Er fod ei serch yn llosgi
- At Gymru, megys mam,
- A'i galon oll yn gariad
- At anwyl iaith ei fam,
- Fe foriodd i'r Amerig
- Dros donau'r eigion llaith,
- A'i ddwfn wladgarwch llawn o dan,
- Ni chollodd ar y daith.
- Yn gyflym y cynyddodd,
- Er bod yn mhell o'i wlad,
- Ac uchel yr esgynodd
- Hyd risiau gwir fawrhad ;
- Ei odlau per gyrhaeddent
- I glustiau Cymru Ion,
- Anfonai hithau euraidd dlws* (*Cyfeiriad at dlws aur a enillodd yn Eisteddfod y Fenni)
- Yn addurn hardd i'w fron.
- Mor hyfryd yw yr adgof
- Am gampau gwych ei oes,
- Am swyn ei Awen dyner
- A'i garedicaf foes ;
- Ond try y wledd yn alar,
- A derfydd ein holl hedd,
- Pan gofiom fod yr anwyl un
- Yn nystaw lwch y bedd.
IV.
golygu- Angel i ni fel englynwr — ydoedd
- Y nodedig fydrwr ;
- Elai'n llon galon pob gwr
- Tan nodau pert ein hawdwr.
- Nyddai ei gynghaneddion— a'i odlau
- Fel odlais angelion ;
- Toddai, gwefreiddiai y fron
- A ffrwd ei amgyffredion.
- Nid dewrwyllt yni taran — hynododd
- Ganiadau Ab Ioan ;
- Ond swynol a denol dân
- Enynai dirion anian.
- Canai ei lwys acenion — ac adar
- Y coedydd äi'n fudion;
- Gwrandawent, adwaenent dôn
- Ei fir odlau hyfrydlon.
- Yn angladd y saer englyn — Awen hoff
- Wylai'n hallt mewn dychryn:
- Rho'i o'i dwylaw aur delyn
- Gyda gloes ar goed y glyn.
- Y bardd ariandlysog Ab Ioan,
- Pa le'r wyt yn oedi cyhyd ?
- Er chwilio am danat yn mhobman,.
- 'Rwy'n methu dy weled o hyd ;
- A aethost yn ôl tua'r Bala,
- Lie cefaist dy fagu yn llon ?
- Na ! aethost yn mlaen tua'r beddrod,
- Nes peri dwfn dristwch i'n bron.
- Mor hoff fyddai'th glywed yn traethu
- Hanesion am Gymru a'i phlant,
- A'th fwynlais yn cyffwrdd y galon,
- Fel cerddor yn taraw ei dant ;
- Ac yna dy beraidd englynion
- A'n llonent fel cyfaill ar daith —
- 'Roedd pob ryw ddigwyddiad Cymroaidd
- Yn rhoddi dy Awen ar waith.
- Yr enwog wladgarwr, Ab Ioan,
- Pa le'r wyt yn oedi cyhyd ?
- Enwogion ddylifant o Gymru,
- A hoffent gael gweled dy bryd;
- Paham na phrysuret, fel arfer,
- I'w cyfarch yn fwynaidd a llon?
- Ha! angau yn unig a allai
- Dy atal ar adeg fel hon !
VI.
golygu- Myfi sydd yn cysgu, a'm calon yn effro, —
- Effro gan ofid, gorthrymder, a gwae ;
- Effro gan derfysg anhyfryd freuddwydion,
- Effro gan hiraeth yn holi " P'le mae ? "
- Pan fyddaf o'm blinfyd am enyd yn huno,
- Dych'mygaf y gwelaf diriondeb ei wedd,
- Ond buan deffroaf o'm mwyniant i gofio
- Na welaf fi mwyach ond careg ei fedd.
- Myfi sydd yn cysgu, a'm calon yn effro, —
- Effro fel gwyliwr y nos ar y mur ;
- Myfi sydd yn cysgu, a'm calon yn wylo, —
- Wylo dan bwysau ei chyni a'i chur ;
- 'Rwy'n cysgu gan ofid, un wedd a'r dysgyblion,
- Pan hunent yn bruddaidd ar dywyrch yr ardd
- Ond ofer im' gysgu, can's effro yw'm calon, —
- Effro wrth chwilio am Wilym y bardd.
- Myfi sydd yn cysgu, a'm calon yn effro,
- Ond derfydd yn fuan fy mreuddwyd dihedd :
- Pan ddelo marwolaeth i gloi fy amrantau,
- Caf huno'n dawelacb dan leni y bedd ;
- Caf gysgu'n ddialar, a deffro i wynfyd, —
- Deffro i wynfyd, gogoniant, a chân ;
- A gwelaf Ab Ioan, a theimlaf ei ganiad
- Yn rboddi holl deimlad fy mynwes ar dân.
- Rhosynau a blodau prydfertbaf fo'n gwylio
- O amgylch ei feddrod, fel engyl bach heirdd,
- A bydded i anian A'i dagrau eneinio
- Y fan lle gorwedda'r anwylaf o'r beirdd ;
- Fel cywir wladgarwr bydd ddysglaer ei goron,
- A'i enw a geidw pob Cymro rhag cam,
- Tra'n teimlo gwefreidd-dân ei wresog englynion
- Yn enyn ei galon Gymroaidd yn fflam.