Gwrando'n Rasol ar Ein Cri (Mynyddog)
- (EMYN).
- Groesaw’n awr! I Iesu’n brawd,
- Ar liniau Mair mewn natur dyn,
- Ac ar y groes cymerai’n gwawd
- A’n beiau trymion arno’i hun;
- Clyw ein gweddi, Geidwad cu,
- Gwrando’n rasol ar ein cri.
- A’n beiau trymion arno’i hun;
- Dros bechadur, rhedai’n lli
- Waed a dwfr, o’i anwyl fron.
- Dyma’r ffynnon! Boed i ni
- Olchi’n beiau i ffwrdd yn hon;
- Clyw ein gweddi, Geidwad cu,
- Gwrando’n rasol ar ein cri.
- Olchi’n beiau i ffwrdd yn hon;