Gwrid y Machlud/Ar y Traeth
← Y Machlu | Gwrid y Machlud gan Richard Jones (Ap Alun Mabon) |
Y Parch. Gwynhefin Thomas → |
AR Y TRAETH
GWYLAIN a welwn fel glân oleuni,
A'u swyn hudolus yn suon dyli,
Yr ewyn terwyn ar draeth yn torri,
A'r dyner heulwen ar donnau'r heli;
Islais chwerthin o'r glasli,—a hud haf
Ar hedd y geinaf erw ddigyni.