Gwrid y Machlud/Eleni
← Hen Wraig Drws Nesaf | Gwrid y Machlud gan Richard Jones (Ap Alun Mabon) |
Cadi Puw → |
ELENI
GWELAIS faban bychan tlws—
Geneth newydd-eni;
Daeth yn siriol at fy nrws,
A'i henw oedd—Eleni.
Golau oedd ei llygaid hoff,
Flodyn di-ofalon;
Gobaith oedd ei bywyd hi,
A chariad oedd ei chalon.
Neithiwr yn yr wylnos oer;
Clywais chwerthin tyrfa
Ar y sgwâr, a'r flwyddyn hen
Yn dod i ben ei gyrfa.