Gwrid y Machlud/Huw Prysor
← Perorfryn | Gwrid y Machlud gan Richard Jones (Ap Alun Mabon) |
Y Sanatorium → |
HUW PRYSOR
sef HUGH JONES, Tanymanod, cymydog i'r bardd.
HEN ŵr di-goleg, dyna oedd,
Gwerinwr trwm ei ddawn;
A thân yr awen yn ei waed
Ac yn ei galon lawn.
Ei droediad araf hyd y stryd,
Ei air a'i wenau iach,
A'i fywyd syml mor ddi-ffug
â grug y Manod Bach.
Oedfaon distaw gallt a chwm
A garodd ef erioed,
A gwyddai am bob deilen gêl
Ar lwybrau mêl y coed.
Ond heno, dan y pridd a'r main
Mae'r hen werinwr iach,
Yn cysgu'n dawel a diboen
Wrth droed y Manod Bach.